Prifysgol Abertawe Prosbectws Ol-raddedig 2023

GWEINYDDU BUSNES (MBA) CAMPWS Y BAE

Cer i'r afael â heriau cymdeithasol

RHAGLENNI YMCHWIL

• Doethur mewn Gweinyddu Busnes DBA RhA

RHAGLENNI A ADDYSGIR

PAM ABERTAWE? • Mae ein rhaglen MBA wedi'i lywio gan yr ymchwil a'r arloesi diweddaraf. • Cei dy addysgu yn adeilad yr Ysgol Reolaeth y buddsoddwyd £22 miliwn ynddo. • Rydym yn darparu mannau addysgu ac ystafelloedd astudio dynodedig a chyfleusterau TG, i gyd ar gael ar Gampws y Bae arloesol. • Byddi di'n astudio yn un o'r 200 o Ysgolion Busnes a Rheoli gorau yn y byd (QS World Rankings 2022). CYLLID Mae amrywiaeth o ysgoloriaethau a bwrsariaethau ôl-raddedig ar gael: a bertawe.ac.uk/ol-raddedig/ ysgoloriaethau • Marchnata Strategol, MSc • Rheoli Anoddau Dynol, MSc • Rheoli Twristiaeth Rhyngwladol, MSc HEFYD, GELLI DI YSTYRIED • Doethur mewn Gweinyddu Busnes, DBA

• Gweinyddu Busnes MBA ALl RhA

Mae ein rhaglen MBA yn rhoi pwyslais ar werthoedd dynol, yn ogystal â gwerth i gyfranddalwyr, gan dy alluogi i feithrin gwybodaeth uwch am arferion busnes allweddol. Mae'r rhaglen hon yn addas i ymarferwyr proffesiynol sydd â thair blynedd o brofiad perthnasol yn y sector. Wedi'i chynllunio i dy alluogi i feithrin y sgiliau i drefnu, cystadlu a chydweithredu yn y sectorau cyhoeddus a phreifat a'r trydydd sector, bydd y rhaglen hon yn sicrhau dy fod yn barod i fynd i'r afael â heriau'r dyfodol. Dyma raglen wahanol sy'n cynnig ymagwedd fodern at reoli.

YR HYN Y GELLI DI EI DDISGWYL • Caiff ei haddysgu gan arbenigwyr academaidd sydd â gwybodaeth ddiwydiannol ac academaidd mewn agweddau allweddol ar fusnes a rheoli. • Cyfleusterau dysgu proffesiynol sydd newydd eu hadeiladu ar gyfer addysgu a gweithio cydweithredol.

• Cymorth rhagorol i fyfyrwyr ochr yn ochr â dy astudiaethau, gan gynnwys mynediad llawn at dîm o arbenigwyr a chynghorwyr gyrfaoedd. • Cysylltiadau ardderchog â busnesau lleol, cenedlaethol a rhyngwladol.

Darllen y Llyfryn MBA:

83

Made with FlippingBook flipbook maker