Prifysgol Abertawe Prosbectws Ol-raddedig 2023

PhD Cymraeg

Mae fy PhD yn archwilio’r canon llenyddol Cymraeg o’r oesoedd canol hyd at heddiw trwy lens theori gwiyr [queer theory], sy’n dadansoddi categorïau rhyw biolegol, rhywedd a rhywioldeb fel cyfres o sbectrymau hyblyg yn hytrach na bocsys neu labeli cyfyngol. Rwyf wedi bod yn lwcus i gael ysgoloriaeth ymchwil y Coleg Cymraeg Cenedlaethol, felly mae’r Coleg yn ariannu’r PhD yn llawn. Astudiais BA mewn Cymraeg a Llenyddiaeth Saesneg ym Mhrifysgol Abertawe. Penderfynais ddychwelyd i wneud ymchwil yn Adran y Gymraeg oherwydd ei bod yn adran mor gartrefol. Hefyd, mae arbenigeddau yn yr Adran yn gweddu efo fy arbenigeddau i fel ymchwilydd. Mae gan Brifysgol Abertawe gampws anhygoel, ac mae staff

academaidd y Brifysgol hefyd yn gefnogol ac yn dangos empathi i dy sefyllfaoedd penodol. Ar ben hynny, mae darpariaeth a chefnogaeth mewn perthynas â defnydd y Gymraeg yn arbennig o dda. Fy nghyngor i ddarpar fyfyrwyr yw cadw logiau ymchwil – hynny yw, noda bob un adnodd, dyfyniad, syniad, ac yn y blaen, sydd gen ti ar bapur. Mae cadw nodiadau ar bapur yn llythrennol yn hytrach na theipio popeth hefyd yn gweithio i mi er mwyn archwilio syniadau yn fanylach. Hoffwn gael y cyfle i addysgu am rywedd a rhywioldeb ledled Cymru a’r byd, a hefyd hoffwn ysgrifennu mwy trwy gyfrwng y Gymraeg er mwyn ymestyn y negeseuon sydd gen i.

Penderfynais ddychwelyd i wneud ymchwil yn Adran y Gymraeg oherwydd ei bod yn adran mor gartrefol. Hefyd, mae arbenigeddau yn yr Adran yn gweddu efo fy arbenigeddau i fel ymchwilydd.

73

Made with FlippingBook flipbook maker