Prifysgol Abertawe Prosbectws Ol-raddedig 2023

MEDDYLIAU MAWR

ATHRO MEWN PEIRIANNEG, PENNAETH CANOLFAN YMCHWIL DEUNYDDIAU (MRC) Mae Geraint Williams yn Athro yn y Gyfadran Gwyddoniaeth a Pheirianneg ac ar hyn o bryd yn

aelodau staff ôl-ddoethurol yn gweithio ar brosiectau sydd wedi’u hariannu gan gwmnïau Tata cyf, BASF, Chemetall, Beckers cyf, Lufer MEL Technologies a’r NNL. Mae hefyd ganddo ddiddordeb mewn gwyddoniaeth fforensig, yn enwedig technoleg sy’n medru datgelu olion bysedd cudd ar wynebau metel. Mae Geraint wedi ysgrifennu dros 160 o erthyglau mewn cyfnodolion rhyngwladol ac mae fe wedi ennill gwobr menter (venture prize) y cwmni Armourers and Brasiers ar gyfer technoleg newydd atal cyrydu.

Bennaeth ar y Ganolfan Ymchwil Deunyddiau (MRC). Yn wreiddiol o Fynachlogddu, Sir Benfro, bu’n astudio am radd a doethuriaeth Cemeg ym Mhrifysgol Abertawe cyn ymuno â’r staff ymchwil ar ddiwedd yr wythdegau. Fe’i benodwyd yn ddarlithydd Peirianneg a Gwyddoniaeth Deunyddiau yn 2007 ac yna i Gadair Bersonol yn 2014. Gwyddoniaeth Cyrydu (corrosion science) yw prif ddiddordeb ymchwil Geraint ac mae’n arloeswr ym maes deunydd technegau electrocemegol sy’n sganio i ddatblygu technoleg newydd er mwyn atal cyrydu mewn metelau megis dur, alwminiwm a magnesiwm. Mae’n arwain grŵp sy’n cynnwys dwsin o fyfyriwr ôl-radd ac

Amcangyfrifir bod colledion blynyddol byd-eang o achos problemau cyrydu oddeutu dau driliwn o bunnoedd. Felly mae gwella ein dealltwriaeth o’r broses er mwyn datblygu technoleg newydd mwy effeithiol ar gyfer atal cyrydu yn her holl bwysig ym maes peirianneg deunyddiau.

110

Made with FlippingBook flipbook maker