Prifysgol Abertawe Prosbectws Ol-raddedig 2023

PLANT A PHOBL IFANC CAMPWS SINGLETON

81 % YSTYRIR BOD

YMCHWIL MEWN ADDYSG, CYMDEITHASEG & PHOLISI CYMDEITHASOL YN ARWAIN Y BYD NEU'N RHAGOROL YN RHYNGWLADOL (Fframwaith Rhagoriaeth Ymchwil (REF) 2021)

RHAGLENNI YMCHWIL

• Plant a Phobl Ifanc PhD/MPhil ALl RhA

RHAGLENNI A ADDYSGIR

PAM ABERTAWE? • Rydym yn cynnig rhaglenni ôl-raddedig wedi'u llywio gan y diweddaraf mewn ymchwil ac arloesi a addysgir gan staff sy’n ymgymryd ag ymchwil. • Elwa o’n partneriaethau rhyngwladol a'n hymagwedd gydweithredol unigryw at ymchwilio a dysgu. • Rydym yn cynnig rhaglen arloesol sydd wedi'i gwreiddio'n dda gyda darlithwyr academaidd profiadol ac ymroddedig. CYLLID Mae amrywiaeth o ysgoloriaethau a bwrsariaethau ôl-raddedig ar gael: a bertawe.ac.uk/ol-raddedig/ ysgoloriaethau HEFYD, GELLI DI YSTYRIED • Addysg, MA • Addysg (Cymru), MA • Addysg (Cymru): Anghenion Dysgu Ychwanegol, MA • Addysg (Cymru): Arweinyddiaeth, MA • Doethur mewn Addysg, EdD

• Astudiaethau Plentyndod MA/PGDip/PGCert ALl RhA

• Chwarae Datblygiadol a Therapiwtig MA/PGDip/PGCert ALl RhA

Bydd astudio gradd meistr mewn Astudiaethau Plentyndod yn rhoi'r wybodaeth a'r sgiliau i ti i gefnogi plant a'u teuluoedd mewn amrywiaeth o amgylcheddau. Byddi di'n datblygu dealltwriaeth brwd o faterion sy'n ymwneud â datblygiad plant yn y gymdeithas gyfoes a sut y caiff polisïau a gwasanaethau ar gyfer plant a theuluoedd eu cynllunio a'u darparu. Mae’r MA mewn Chwarae Datblygiadol a Therapiwtig yn canolbwyntio ar wybodaeth am ymarfer chwarae heb gyfarwyddiadau a’i roi ar waith ar draws amrywiaeth eang o wasanaethau i blant. Mae hyn yn cynnwys meysydd addysg, iechyd a’r gwyddorau cymdeithasol er enghraifft mewn ysgolion, ysbytai ac yn y gwasanaethau cymdeithasol. Mae’r cwrs yn cynnig cyfuniad o ddamcaniaeth ac ymarfer academaidd a gellir ei astudio’n rhan-amser neu’n amser llawn. Mae ein staff academaidd yn gweithio i ddod â manteision bywyd go iawn i'r sectorau gofal iechyd, gofal cymdeithasol, gwirfoddol a phreifat, gan arwain yn y pen draw at welliannau i blant, rhieni, ymarferwyr, rheolwyr a llunwyr polisi. Mae ganddynt gysylltiadau cryf ag amrywiaeth o rwydweithiau cenedlaethol a rhyngwladol, felly caiff dy ddysgu ei lywio gan y datblygiadau ymchwil, polisi ac ymarfer diweddaraf.

YR HYN Y GELLI DI EI DDISGWYL • Amgylchedd addysgu ac ymchwil amrywiol, gyda llawer o gyfleoedd i wneud cysylltiadau ar draws disgyblaethau.

• Mynediad at adnoddau hyfforddiant gwerthfawr. • Amgylchedd cydweithredol a chefnogol i ddatblygu dy wybodaeth a dy sgiliau yn y sector.

Proffil Myfyriwr gweler y dudalen nesaf

111

Made with FlippingBook flipbook maker