Prifysgol Abertawe Prosbectws Ol-raddedig 2023

Yr Is-ganghellor, yr Athro Paul Boyle

Ym Mhrifysgol Abertawe, mae ein myfyrwyr a’n staff yn ganolog i’n gweledigaeth a’n pwrpas. Rydym yn falch o ddathlu cyfraniad sylweddol ein cymuned ôl-raddedig sy’n rhoi safbwynt newydd sy’n ysbrydoli ac yn cyfoethogi ein gwaith. Gobeithiwn y bydd tithau’n gweld llawer i dy ysbrydoli yn nhudalennau’r prosbectws hwn ac yn ystyried ymuno â’n cymuned ffyniannus fel myfyriwr ac ymchwilydd. Mae ymchwil ac arloesi wrth galon profiad Abertawe ac maent yn bwydo’n uniongyrchol i ansawdd ein haddysgu. Yn y prosbectws hwn, cyfeirir yn aml at effaith byd go iawn ein hymchwil, o ddur gwyrddach, mwy clyfar, i frechlynnau di-boen. Mae ein hymchwil yn gyson yn llywio polisïau sy’n effeithio ar Gymru a’r Gymraeg, gydag ymchwil i effaith y twf mewn ail gartrefi yng Nghymru ymhlith y diweddaraf i ddylanwadu ar gynlluniau ein llywodraeth. Mae dewis astudio ôl-raddedig yn dangos ymrwymiad a chymhelliant a bydd ein staff addysgu ymroddedig a’n cyfleusterau o safon sy’n arwain yn fyd-eang yn dy helpu di i wireddu dy uchelgeisiau. Mae pob un o’n meysydd pwnc wedi’i gynnwys yn QS World University Rankings 2022 fesul pwnc ac rydym wedi ennill y wobr uchaf (aur) am ragoriaeth addysgu mewn prifysgolion yn y Deyrnas Unedig drwy’r Fframwaith Rhagoriaeth Addysgu.

Rydym yn brifysgol amrywiol a bywiog; yn wir, rydym yn 2il yn y Deyrnas Unedig ar gyfer Amrywiaeth

a Chynhwysiant yn ôl Gwobrau WhatUni Student Choice 2021.

Rydym hefyd yn darparu amgylchedd cydweithredol a chefnogol i ymchwilwyr ôl-raddedig wneud darganfyddiadau sy’n torri tir newydd. Yn y Fframwaith Rhagoriaeth Ymchwil diweddaraf (2021), dyfarnwyd bod 91% o’n hamgylchedd ymchwil ac 86% o’n heffaith ymchwil yn arwain yn fyd-eang ac yn ardderchog yn rhyngwladol. Roedd fy rôl academaidd gyntaf fel darlithydd ifanc ym Mhrifysgol Abertawe a gallaf dystio’n bersonol am ansawdd yr addysg a arweinir gan ymchwil a’r cymorth y byddi di’n ei dderbyn yma. Gobeithiaf fod fy malchder yn ein Prifysgol yn glir ond paid â derbyn fy ngair i yn unig – cadwa le ar gyfer un o’n diwrnodau agored i gael rhagor o wybodaeth.

abertawe.ac.uk/ol-raddedig/diwrnodagored

03

Made with FlippingBook flipbook maker