Prifysgol Abertawe Prosbectws Ol-raddedig 2023

MEDDYLIAU MAWR

CADAIR Y GYMRAEG

Tudur Hallam yw Athro’r Gymraeg a Chyfarwyddwr Ymchwil Adran y Gymraeg ym Mhrifysgol Abertawe. Mae’n Brifardd, yn Gymrawd Fulbright ac yn aelod o fwrdd Cyngor Celfyddydau Cymru. Fe yw Cadeirydd Cymdeithas Astudiaethau’r Gymraeg ac mae’n aelod o fwrdd gweithredu’r Ganolfan Hyfforddi Ddoethurol ym maes Astudiaethau Celtaidd dan nawdd Cyngor Ymchwil y Celfyddydau a’r Dyniaethau. Fe’i penodwyd gan HEFCW/HEFCE yn asesydd ar gyfer panel Ieithoedd Modern ac Ieithyddiaeth y REF (Fframwaith Rhagoriaeth Ymchwil) sy’n asesu gwaith ymchwilwyr ar draws Cymru a’r Deyrnas Unedig. Ymunodd ag Adran y Gymraeg, Abertawe yn 1999. Fe’i penodwyd i Gadair y Gymraeg yn 2011. Ei brif arbenigedd ymchwil yw iaith a chyfathrebu, ysgrifennu creadigol, drama a llenyddiaeth Gymraeg ar draws y canrifoedd. Enillodd yr Athro Hallam ei ddoethuriaeth yn 2005. Cyfarwyddwyd ei draethawd gan yr Athro John Rowlands (Aberystwyth) a’r Athro Dafydd Johnston (Abertawe), a datblygodd y traethawd yn llyfr a’i gyhoeddi yn 2007, sef Canon Ein Llên. Cyhoeddodd

ail fonograff yn 2013, Saunders y Dramodydd ac yn 2019, ei gasgliad cyntaf o gerddi, Parcio. Mae hefyd wedi cyhoeddi nifer o benodau ac ysgrifau ar wahanol agweddau o ddiwylliant y Gymraeg, gan gynnwys ambell un ar gyfer cynulleidfa ddi-Gymraeg, e.e. y ddarlith Chatterton ar farddoniaeth i’r Academi Brydeinig. Yn 2016-2017, enillodd gymrodoriaeth Fulbright i fyw a gweithio yn UDA, gan gymharu sefyllfa’r Gymraeg â’r diwylliant Latino yn bennaf. Gellir gweld ei ymateb creadigol i’r cyfnod hwn yn ei gyfrol farddoniaeth, Parcio, ac mae’r elfen gymharol – cymharu diwylliant Cymru ag eiddo gwledydd eraill – yn hydreiddio ei waith. Mae wedi cyfarwyddo ac arholi nifer o draethodau ymchwil MA a PhD ym maes ysgrifennu creadigol (barddoniaeth, drama a rhyddiaith), beirniadaeth a theori lenyddol, ôl-drefedigaethedd, cyfieithu, addysg a chynllunio ieithyddol, llenyddiaeth ganoloesol a chyfoes a llenyddiaeth deithio.

Rydw i’n rhan o dîm egnïol o staff dysgu yn Adran y Gymraeg. Yn 2020, cyhoeddodd Arolwg Cenedlaethol y Myfyrwyr mai ein hadran ni oedd ar ben y rhestr yn genedlaethol o safbwynt boddhad myfyrwyr ym maes y Gymraeg. Yn ystod ei ugain mlynedd yn Abertawe, mae’r Athro Hallam wedi creu a dysgu pob math o fodiwlau i fyfyrwyr ym maes iaith a chyfathrebu, cyfieithu, dwyieithrwydd ymarferol, hanes Cymru a’r Gymraeg, llenyddiaeth, drama ac ysgrifennu creadigol.

75

Made with FlippingBook flipbook maker