I BAWB
YSGOLORIAETHAU Mae’r Brifysgol yn cynnig Cynllun Ysgoloriaethau i Athletwyr Dawnus (TASS) i athletwyr dawnus iawn a phecyn cymorth gwerth hyd at £2,000 y flwyddyn a allai gynnwys; hyfforddiant cryfder a chyflyru, ffisiotherapi, cymorth seicolegol a chyngor maethol, a darperir pob un ohonynt gan ymarferwyr cymwys. Gall buddion eraill gynnwys aelodaeth o gyfleusterau am ddim a hawlen i barcio ar y campws. DARGANFYDDA FWY abertawe.ac.uk/ israddedig/ ysgoloriaethau
CYFLEUSTERAU Gydag ystod helaeth o gyfleusterau chwaraeon ar gael i fyfyrwyr ym Mharc Chwaraeon Bae Abertawe ar bwys Campws Singleton ac ar Gampws y Bae hefyd, mae’r Brifysgol yn darparu amrywiaeth eang o weithgareddau dan do a rhai awyr agored. Mae gan y ddau gampws gyfleusterau iechyd a ffitrwydd ardderchog, gan gynnwys offer a dosbarthiadau o’r radd flaenaf. Mae’r Brifysgol hefyd yn cynnig cyfleuster cryfder a chyflyru o’r radd flaenaf (Y Sied) sydd ar gael i athletwyr elît a thimau. Mae ein timau pêl-droed yn cael defnyddio cyfleuster hyfforddi o safon fyd-eang yn Fairwood, sy’n brif gae hyfforddi i Glwb Pêl-droed Dinas Abertawe. Mae’r cyfleusterau chwaraeon yn cynnwys:
• Cae Artiffisial ar sail dŵr • Caeau Chwarae • Cyrtiau tennis • Gwasanaeth llogi beiciau a llwybrau rhedeg
• Pafiliwn chwaraeon • Pwll Cenedlaethol Cymru Abertawe
• Trac a chae athletau • Trac athletau dan do
• Neuaddau chwaraeon amlbwrpas ac ardaloedd gemau awyr agored
abertawe.ac.uk/chwaraeon
50
Made with FlippingBook flipbook maker