Prifysgol Abertawe Prosbectws Ol-raddedig 2023

AELODAETH Â’R GAMPFA Fel rhan o ffordd o fyw gytbwys ac iach ym Mhrifysgol Abertawe, gall myfyrwyr ymaelodi â’r gampfa a chael nifer o fanteision am bris llai. Mae bod yn aelod hefyd yn rhoi mynediad i’r gampfa ar gampysau’r Bae a Singleton. CHWARAEON CYSTADLEUOL Rydym yn gorffen yn yr 20 uchaf o Brifysgolion a Cholegau Chwaraeon Prydain (BUCS). Ceir ystod eang o gyfleoedd i ti gynrychioli’r Brifysgol yn gystadleuol yng ngemau Chwaraeon Prifysgolion a Cholegau Prydain a chystadlaethau domestig allweddol oherwydd cei ymaelodi â dros 55 o glybiau chwaraeon. Mae ein clybiau yn darparu ystod o sesiynau hyfforddi dan arweiniad hyfforddwyr i roi’r cyfle i ti gyflawni dy nodau chwaraeon.

Edrych ar luniau Varsity 2022

VARSITY ABERTAWE VS CAERDYDD

Varsity Cymru yw’r digwyddiad myfyrwyr mwyaf yng Nghymru a’r ail fwyaf o Gemau Varsity Prydain, ar ôl Rhydychen/Caergrawnt. Yn ystod Gemau’r Prifysgolion, mae Prifysgol Abertawe a Phrifysgol Caerdydd yn cystadlu mewn dros 30 o gampau gwahanol, o bêl-fasged, rhwyfo, golff a hoci i gleddyfaeth, sboncen a Ffrisbi Eithafol. Gwylia uchafbwyntiau Gemau’r Prifysgolion yma: welshvarsity.com

18 SAFLE BUCS FED Tabl Chwaraeon Prifysgolion a Cholegau Prydain (BUCS) 2018-19

Yn ogystal â’n lleoliad arfordirol rhagorol mae Abertawe’n cynnig rhai o’r chwaraeon gorau mewn unrhyw brifysgol ym mhrydain yn y DU.

Llewod Prydain ac Iwerddon, Capten Cymru a’r Gweilch a chyn-fyfyriwr y Gyfraith Abertawe Alun Wyn Jones

O ganlyniad i’r Ysgoloriaeth Chwaraeon yn y brifysgol, ces i gyfle i ddilyn dau lwybr gyrfaol ar yr un pryd. Mae gen i atgofion melys o’m hamser ym Mhrifysgol Abertawe, yn enwedig ennill Gêm y Prifysgolion. Dwi’n gwybod na fydd gyrfa mewn chwaraeon yn para am byth, felly dwi’n fodlon ystyried dychwelyd i wella fy nghymwysterau yn y dyfodol.

51

Made with FlippingBook flipbook maker