Prifysgol Abertawe Prosbectws Ol-raddedig 2023

PhD Seicoleg

Ar hyn o bryd rwy’n fyfyrwraig PhD ac yn gyd- gyfarwyddwr y Grŵp Ymchwil Dementia yn yr Adran Seicoleg. Cefais gynnig y cyfle i wneud PhD, sydd wedi’i ariannu gan Brifysgol Abertawe a’r Coleg Cymraeg Cenedlaethol, pan oeddwn ar fin gorffen fy ngradd meistr ac roedd hi’n gyfle rhy dda i’w golli. Roedd pwnc y PhD, sef dwyieithrwydd Cymraeg Saesneg yng nghyd-destun heneiddio a dementia, wedi bod o ddiddordeb i mi erioed ac wedi bod yn amlwg trwy gydol fy ngyrfa academaidd. Rwyf hefyd yn eiriolwr cryf dros hawliau unigolion Cymraeg yng nghyd – destun darparu gwasanaethau gofal sylfaenol trwy gyfrwng y Gymraeg. Roedd y PhD yma yn gyfle i mi gael effaith uniongyrchol ar ymarfer clinigol yng Nghymru ac ateb gofynion nifer o bobl Gymraeg. Yn gyffredinol, mae fy ngwaith ymchwil yn edrych ar sut mae dwyieithrwydd yn effeithio ar brosesu gwybyddol wrth i ni heneiddio. Mae prif astudiaeth y PhD yn ceisio dilysu asesiadau clinigol niwroseicolegol yn Gymraeg fel y gall siaradwyr Cymraeg sy’n byw â chlefyd Alzheimer gael mynediad at asesiadau Cymraeg yn y dyfodol.

Astudiais fy ngradd israddedig a gradd meistr ym Mhrifysgol Abertawe. Graddiais gydag anrhydedd dosbarth cyntaf mewn BSc Seicoleg yn 2017, a chefais ragoriaeth yn fy ngradd MSc Seicoleg Annormal a Chlinigol yn 2018. Penderfynais ddychwelyd i gwblhau PhD oherwydd faint wnes i fwynhau yn Abertawe trwy gydol fy ngraddau blaenorol. Roedd y staff academaidd bob tro yn barod i helpu ac roeddwn yn hyderus y buaswn yn medru cwblhau PhD i’r safon orau bosib o ganlyniad i hynny. Un o’r rhesymau yr oeddwn yn awyddus i geisio am Ysgoloriaeth Ymchwil y Coleg Cymraeg oedd i gyfrannu at y rhwydwaith o ymchwilwyr Cymraeg yng Nghymru. Yn ogystal, mae’r gallu i gynnal ymchwil ac ymdrin â syniadau cymhleth yn ddwyieithog yn fantais fawr wrth chwilio am swydd. Mae Prifysgol Abertawe yn lle arbennig i astudio. Rwy’n dal i fod yma ar ôl saith mlynedd, dyna’r cyfan sydd angen ei ddweud.

Rwyf hefyd yn eiriolwr cryf dros hawliau unigolion Cymraeg yng nghyd- destun darparu gwasanaethau gofal sylfaenol trwy gyfrwng y Gymraeg. Roedd y PhD yma yn gyfle i mi gael effaith uniongyrchol ar ymarfer clinigol yng Nghymru ac ateb gofynion nifer o bobl Gymraeg.

122

Made with FlippingBook flipbook maker