Y CYFRYNGAU, CYFATHREBU A CHYSYLLTIADAU CYHOEDDUS CAMPWS SINGLETON
ASTUDIAETHAU'R CYFRYNGAU A FFILM YN Y DU 10
RHAGLENNI YMCHWIL
(Complete University Guide 2022) ¨
• Astudiaethau'r Cyfryngau a Chyfathrebu PhD/MPhil ALl RhA • Astudiaethau'r Cyfryngau MA drwy Ymchwil ALl RhA
• Dyniaethau Digidol MA drwy Ymchwil ALl RhA • Sgrinio/Llwyfannu Ewrop MA drwy Ymchwil ALl RhA • Y Cyfryngau Digidol MA drwy Ymchwil ALl RhA MPhil ALl
PAM ABERTAWE? • Mae gan Brifysgol Abertawe enw rhagorol am arferion y cyfryngau, cyfathrebu, newyddiaduraeth a chysylltiadau cyhoeddus. • Caiff ein rhaglenni eu hardystio gan ddiwydiant, sy’n golygu y bydd dy astudiaethau gyda ni yn dy alluogi i ddatblygu portffolio o sgiliau a fydd yn gwella dy ragolygon gyrfa a chyflogadwyedd. • Caiff yr addysgu ei lywio gan weithgarwch ymchwil y staff a'n cryfderau sefydledig yn y meysydd pwnc hyn. • Cei dy ysbrydoli wrth astudio ar ein campws Parc Singleton, mewn parcdir sy'n edrych dros Fae Abertawe. • Mae ein myfyrwyr a'n staff hefyd yn cynnal gwefan gymunedol sy'n cynnwys newyddion a barn yr adran. CYLLID Mae amrywiaeth o ysgoloriaethau a bwrsariaethau ôl-raddedig ar gael: a bertawe.ac.uk/ol-raddedig/ ysgoloriaethau
RHAGLENNI A ADDYSGIR
• Cyfathrebu, Arferion y Cyfryngau a Chysylltiadau Cyhoeddus MA ALl RhA • Cyfathrebu a Newyddiaduraeth Chwaraeon MA ALl RhA
• Newyddiaduraeth Ryngwladol MA ALl RhA • Rheoli (Cyfryngau) MSc ALl RhA * • Y Cyfryngau Digidol MA ALl RhA
O'r cyfryngau print a darlledu traddodiadol i ffilm a theledu, cyhoeddi digidol, rhwydweithio cymdeithasol, a chysylltiadau cyhoeddus, mae’r cyfryngau’n dylanwadu’n fwyfwy ar y ffordd rydym yn rhyngweithio â’n cymdeithas. Mae’n llunio ein ffordd o'n gweld ein hunain ac eraill, a gall fod yn arf bwerus i gyflawni newid cymdeithasol, er gwell neu er gwaeth. Mae ein gwaith dadansoddi academaidd o'r cyfryngau a chyfathrebu wedi'i lywio gan ymchwil ac ymarfer ac mae'n canolbwyntio ar addysgu. Caiff myfyrwyr eu haddysgu gan academyddion brwdfrydig a chanddynt gefndiroedd a gwybodaeth helaeth yn y diwydiant.
YR HYN Y GELLI DI EI DDISGWYL • Cei dy addysgu gan ymarferwyr proffesiynol uchel eu cymhelliant sydd â chymwysterau academaidd o safon. • Elfen ymarferol sylweddol (yn yr addysgu a'r lleoliadau gwaith) mewn
• Un o brif elfennau ein rhaglenni yw'r prosiect mawr neu'r traethawd estynedig sy'n rhoi cyfle i fyfyrwyr ddatblygu arbenigedd mewn maes diddordeb penodol. • Os wyt ti eisoes yn weithiwr proffesiynol yn y diwydiant, mae'r cwrs hwn yn cynnig sgiliau a chymwysterau dynamig yn y cyfryngau newydd i roi hwb i dy ddatblygiad proffesiynol parhaus.
¨ Safleoedd sy’n benodol i israddedigion sy’n cynnwys asesu ansawdd ymchwil sefydliad.
newyddiaduraeth, cysylltiadau cyhoeddus tirwedd y cyfryngau digidol a chynhyrchu ffilmiau.
* Addysgir y cwrs ar Gampws Singleton a Champws y Bae Gelli di ddechrau’r rhaglen hon ym mis Ionawr hefyd, gweler tudalen 58
Ysgoloriaethau Cymraeg ar gael, gweler tudalen 44
71
Made with FlippingBook flipbook maker