Cylchgrawn Pwls - Cyf 01 Rhifyn Canmlwyddiant

PWLS

Pam

YSGOL FEDDYGAETH PRIFYSGOL ABERTAWE

Mae gan Brifysgol Abertawe gysylltiadau rhyngwladol, gyda chysylltiadau o ran staff, myfyrwyr, partneriaethau ac ymchwil yn ymestyn ar draws y byd. Mae ein campysau’n lleoedd bywiog acamrywiol acmae staff amyfyrwyr o fwy na 130 o wahanol wledydd yn rhan o’n cymuned gyfeillgar.

Cymru?

Oeddech chi’n gwybod bod Cymru,“gwladychwedlau”, wedi’i chynnwys yn rhestr cylchgrawn y National Geographic o’r cyrchfannau mwyaf cyffrous i ymweld â nhwyn 2020? Mae rhestr y cylchgrawn teithio o’r 25 lle gorau i ymweld â nhw trwy’r byd wedi’i seilio ar ddiwylliant, dinasoedd, natur ac antur… ac mae Cymru yn llawn dop o’r pethau yma i gyd!

PAR JAMFA Myfyriwr Blwyddyn Gyntaf Meddygaeth i Raddedigion O Wlad Tai

Gorwelion Byd-eang

“Clywais am Brifysgol Abertawe trwy wefan GAMSAT, gan fod Abertawe yn un o’r prifysgolion sy’n derbyn yr arholiad mynediad hwn ar gyfer Meddygaeth i Raddedigion. Fe wnes i gyflwyno cais trwy UCAS ac roedd y cyfarwyddiadau’n hawdd iawn i’w dilyn – gallwch hefyd fynd ar we-dudalen Abertawe i weld beth yw’r gofynion. Gan fy mod yn dod o Wlad Tai, roeddwn i angen 7 yn y prawf IELTS, llythyr cymeradwyo gan fy mhrifysgol flaenorol, 2:1 yn fy ngradd baglor a sgôr GASMAT dda. Fe ddeuthum i Abertawe am dri diwrnod ar gyfer fy nghyfweliad – treuliais y deuddydd cyntaf yn dod i adnabod fy athrawon, fy mentoriaid a’m cyfoedion rhyngwladol trwy fynd ar ymweliadau yr oedd yr Ysgol Feddygaeth wedi’u trefnu, ac erbyn fy nghyfweliad ar y trydydd diwrnod roeddwn i’n teimlo fy mod eisoes yn adnabod fy nghyfoedion. Byddwch yn chi eich hun yn eich cyfweliad, mae’n lle eithriadol o braf ac mae pawb yma i gynnig help llaw” Chwifio’r Faner DEWCH I GYFARFOD Â RHAI O’N STAFF RHYNGWLADOL

Nod Prifysgol Abertawe yw cynnig cyfle i bob un o’i hisraddedigion astudio neu weithio dramor. Mae gennym bartneriaethau gyda mwy na 150 o brifysgolion ledled y byd ac rydym yn cynnig amrywiaeth eang o ddewisiadau ar gyfer astudio dramor am flwyddyn, am semester neu dros yr haf.

BETHAMWELD DROSOCHEICH HUN!

#SwanseaUniGlobal Mae cyflogwyr yn cydnabod bod treulio amser dramor yn: • Magu hyder, hunanymwybyddiaeth ac aeddfedrwydd • Meithrin safbwynt byd-eang ac ymwybyddiaeth ryngddiwylliannol • Hwyluso’r gallu i addasu i amgylcheddau a heriau newydd • Gwella sgiliau cyfathrebu a sgiliau iaith • Meithrin sgiliau trosglwyddadwy a all fod o fudd i’ch gyrfa yn y dyfodol Trwy astudio, gweithio neu wirfoddoli dramor, fe fyddwch yn si ŵ r o ddisgleirio yng nghanol y dorf a meithrin sgiliau newydd, a bydd yn esgor ar rwydwaith rhyngwladol amhrisiadwy ar gyfer eich dyfodol y tu hwnt i’ch gradd.

DR SHANG-MING ZHOU Uwch-ddarlithydd Gwybodeg

YR ATHRO CATHY THORNTON Dirprwy Bennaeth yr Ysgol

DRARUNRAMACHANDRAN CyfarwyddwrDerbyniadauMeddygol

DRMARCELA BEZDICKOVA Uwch-ddarlithydd Anatomeg

SwanUniGlobal

swanseauniglobal

swanseauniglobal

12

13

Made with FlippingBook - professional solution for displaying marketing and sales documents online