Cylchgrawn Pwls - Cyf 01 Rhifyn Canmlwyddiant

PWLS

YSGOL FEDDYGAETH PRIFYSGOL ABERTAWE

YMCHWIL SY’N

canolbwyntio ar bobl

Ein Helusen

Mae ymgysylltu â’r cyhoedd o fudd cymdeithasol mawr ac mae bellach yn rhan greiddiol o waith ymchwil yr Ysgol Feddygaeth. Trwy gynnwys y cyhoedd yn ein hymchwil, daw’r gwaith ymchwil hwnnw’n fwy perthnasol i anghenion a phryderon pobl ac mae’n fwy tebygol o gael ei ddefnyddio i wella penderfyniadau, triniaethau a gwasanaethau’n ymwneud ag iechyd a gofal cymdeithasol.

Mae’r gr ŵ p Gwyddor Data Poblogaeth yn Ysgol Feddygaeth Prifysgol Abertawe o’r farn mai ymgysylltu yw conglfaen ein gwaith. Rydym yn cynnwys y cyhoedd o’r cychwyn cyntaf; o baratoi ceisiadau ymchwil, pennu cyfeiriad gwaith ymchwil parhaus, dosbarthu canlyniadau ymchwil a gweithgareddau – yr holl ffordd at waith ehangach yn ymwneud â chodi ymwybyddiaeth o ddefnyddio data at ddibenion ymchwil. “RYDYM YN DEFNYDDIO DULL SY’N CANOLBWYNTIO AR BOBL ER MWYN SICRHAU BOD EIN GWAITH YN BERTHNASOL AC YN ADLEWYRCHU BUDDIANNAU A GWERTHOEDD Y CYHOEDD” Professor Kerina Jones, Cyfarwyddwr Cyswllt Ymgysylltu â’r Cyhoedd.

ymchwilwyr drafod eu prosiectau, gan gynnig awgrymiadau ynghylch y ffordd orau o ymgysylltu â’r cyhoedd a recriwtio aelodau’r cyhoedd i gymryd rhan. Un cynnig diweddar a roddwyd gerbron y Cyngor Ymchwil Feddygol oedd ariannu prosiect ymchwil cydweithredol i archwilio’r cysylltiadau rhwng eiddilwch a phan fo unigolyn yn byw gyda mwy nag un clefyd cronig ac yn cymryd nifer o feddyginiaethau ar gyfer gwahanol gyflyrau. Ymgynghorwyd â’r Panel Defnyddwyr yn gynnar yn y broses gynllunio a chafodd datganiadau ategol y Panel eu cynnwys yn y cynnig. “RYDW I’N CREDU’N GRYF NA FYDDAI’R CANLYNIAD WEDI’I WIREDDU HEB GYFRANIAD Y PANEL DEFNYDDWYR. DIOLCH I’W GYFRANIAD, CAFODD Y CYNNIG AMGYLLID SGÔR O 9/10” Yr Athro Ronan Lyons, Arweinydd Prosiect a Chyd-gyfarwyddwr Ymchwil Gwyddor Data Poblogaeth. OEDDECH CHI’N GWYBOD... Mae gweithgareddau Gwyddor Data’r Ysgol Feddygaeth wedi denu £30miliwn o arian Llywodraeth y DU. Oherwydd hyn, mae’r gweinyddion sydd yn yr adeilad yn un o’r prif safleoedd cysylltu data trwy’r DU ar gyfer data iechyd dienw.

MAE EINHELUSEN YN CEFNOGI GWAITH YMCHWIL MEDDYGOL SY’N TORRI TIR NEWYDD

Elusen annibynnol yw Sefydliad Meddygol Dewi Sant sy’n codi arian i gefnogi gwaith arloesol mewn ymchwil ac addysg feddygol yn Ysgol Feddygaeth Prifysgol Abertawe. Mae’r Sefydliad yn cefnogi datblygiadau’n ymwneud ag iechyd pobl yma yng Nghymru ac ar draws y byd.

Ffurfiwyd Sefydliad Meddygol Dewi Sant yn 2006 er mwyn cynorthwyo gyda gwaith arloesol cyffrous mewn ymchwil ac addysg feddygol. Dan arweiniad yr Athro Julian Hopkin CBE, Cyn-bennaeth yr Ysgol Feddygaeth, mae’r Sefydliad mewn sefyllfa unigryw i gefnogi gwaith arweinwyr yn eu maes trwy’r byd. Mae datblygiadau sylweddol yn cynnwys ymchwil i ganfod achosion epilepsi ymhlith plant, diagnosis cynnar o glotiau gwaed mewn achosion o strôc neu drawiad ar y galon, a chanolfan ymchwil glinigol ar gyfer diabetes.

blwyddyn i gefnogi prosiectau ymchwil newydd cyffrous. Fel yr esbonia’r Athro Julian Hopkin, Cadeirydd Ymddiriedolwyr yr Elusen: “ Rydym yn mynd ati’n gynnar yn y broses i bennu gwaith ymchwil a all arwain at newid bywydau ac yn cynnig grantiau sbarduno er mwyn sicrhau y bydd cyfleoedd pwysig yn cael eu dilyn. Rydym yn creu cysylltiadau cryf gyda sefydliadau sydd ar garreg ein drws a rhai trwy weddill y byd, gan gydweithio gyda phartneriaidyngNghymrua thuhwnt; ac yn bwysicach na dim, rydym yn buddsoddi yn einmyfyrwyr eithriadol – gwyddonwyr a meddygon gwych y dyfodol. Gyda’n gilydd rydym yn gwneud gwahaniaeth. Fe allwn, ac fe ddylem, gael byd iachach. YSefydliad yw ein ffordd ni o gyfrannu at hyn.” Yn 2020 bydd tri o grantiau o £6,000 yr un yn cael eu dyfarnu ar gyfer cefnogi syniadau ymchwil newydd, er mwyn i brosiectau ymchwil myfyrwyr a staff ddatblygu a thyfu, a mynd yn eu blaen i sicrhau cyllid allanol.

DR NICK JONES Darlithyddac Ymchwilydd

“Fel ymchwilydd ar ddechrau ei yrfa,

mae cyllid sbarduno gan Sefydliad Meddygol Dewi Sant wedi fy ngalluogi i ddilyn rhai o’m syniadau ymchwil fy hun. Mae hefyd wedi rhoi cyfle i mi gydweithio gyda gwyddonwyr gwych yn y DU ac Iwerddon. Roeddwn i eisiau ymchwilio i sut y gall gr ŵ p arbennig o gelloedd gwynion, a elwir yn CD4+ T, ddefnyddio maetholion fel siwgr a phrotein a geir yn ein deiet i gynhyrchu’r egni a’r blociau adeiladu angenrheidiol ar gyfer gweithio’n effeithiol yng nghyd-destun clefydau gwahanol. Cynigiodd Sefydliad Meddygol Dewi Sant gyllid sbarduno ar gyfer rhoi’r gwaith hwn ar y gweill, gan ein galluogi i fapio sut y mae celloedd T yn newid eu ffordd o ddefnyddio maetholion wrth iddyn nhw weithredu. Y darganfyddiad mwyaf diddorol oedd y ffaith fod celloedd T angen asid amino o’r enwglwtamin i ddod yn hollol weithredol, ac mae’r canfyddiad hwn wedi’i gyhoeddi bellach yn Nature Communications”

“RYDYM FOD YMGYSYLLTU Â’R CYHOEDD YN BROSES DDWY FFORDD. MAE’N CYFOETHOGI AC YN YSGOGI GWAITH EIN HYMCHWILWYR, GAN SBARDUNO SYNIADAU NEWYDD A HELPU EIN HYMCHWILWYR I FEDDWL AM FATERION CYMDEITHASOL A MOESEGOL EHANGACH” Lynsey Cross, Swyddog Ymgysylltu â’r Cyhoedd. O’R FARN

Rhan greiddiol o waith ymgysylltu’r gr ŵ p yw’r Panel Defnyddwyr. Mae’r Panel yn cynnwys un ar bymtheg o aelodau’r cyhoedd ac mae’n cyfarfod bob chwarter. Mae’n rhoi cyfle i

Ar hyn o bryd caiff mwy na 40 o brosiectau eu cefnogi. Yn ychwanegol at y rhain, mae’r Sefydliad hefyd yn cynnig Grantiau Sbarduno bob

Mwy o wybodaeth am sut y gallwch gefnogi neu elwa ar Sefydliad Meddygol Dewi Sant:

Diddordeb mewn astudio Iechyd Cleifion a’r Boblogaeth? Gweler tudalen 9 a thudalen 32

14

15

Made with FlippingBook - professional solution for displaying marketing and sales documents online