Cylchgrawn Pwls - Cyf 01 Rhifyn Canmlwyddiant

PWLS

YSGOL FEDDYGAETH PRIFYSGOL ABERTAWE

Heriau GWAITHYMCHWILBYD-EANG DEWCHIGYFARFODÂ’RATHROMICROBIOLEG,PAULDYSON– MAEEIYMCHWILYNARCHWILIOBACTERIAA’RRÔLSYDDGAN FACTERIAYNEINHIECHYDA’NLLESIANT…ACFEDDECHREUODD YCWBLGYDAPHRIDD!

OEDDECH CHI’N GWYBOD... bod 98% o raddedigion Fferylliaeth y DU yn gweithio, neu mewn astudiaethau pellach, chwe mis ar ôl graddio

FFOCWS AR

Fferylliaeth

YN 2021 BYDD YSGOL FEDDYGAETH PRIFYSGOL ABERTAWE YN LANSIO’I CHWRS FFERYLLIAETH NEWYDD CYNTAF ERS CANRIF. PAM FFERYLLIAETH? PAM ABERTAWE? PAM NAWR? Mae gan fferyllwyr gymysgedd unigryw o wybodaeth wyddonol a phroffesiynol, sy’n eu gwneud yn arbenigwyr gofal iechyd ar feddyginiaethau. Bellach, nhw yw’r proffesiwn gofal iechyd mwyaf ond dau ac maent yn gweithio mewn amrywiaeth eang o rolau mewn fferylliaeth gymunedol a fferylliaeth gofal sylfaenol, ysbytai, ac yn y diwydiant fferyllol.

Am sawl blwyddyn, ffocws fy ngwaith ymchwil oedd Bacteria Pridd sy’n cynhyrchu gwrthfiotigau. Fe ŵ yr pob un ohonom fod gennym argyfwng byd- eang o ran ymwrthedd i wrthfiotigau, felly mae yna angen parhaus i geisio dod o hyd i wrthfiotigau newydd y bydd modd eu defnyddio mewn meddygaeth. Ers deg mlynedd bellach rydw i wedi canolbwyntio ar ymyriant RNA mewn pryfed a therapi canser… Mewn ffordd, mae gan bob math o bryf ei ficrobiom ei hun yn ei goluddion. Mae deiet pryfed yn tueddu i fod yn benodol iawn. Ceir pryfed sy’n bwydo ar waed a phryfed sy’n bwydo ar sudd planhigion neu baill – nid yw’r ffynonellau maetholion yma’n gymhleth iawn. Fel arfer, mae ganddyn nhw ddiffyg mewn rhywbeth neu’i gilydd, a’r rheswm pam y mae gan bryfed yn benodol facteria arbennig yn eu coluddion yw er mwyn i’r bacteria yma syntheseiddio beth bynnag sydd ar goll yn eu deiet. Mae hyn yn gweithio’r ddwy ffordd. Mae’r pryfed, wedyn, yn darparu maeth ac egni ar gyfer y pryfed sy’n byw yn eu coluddion. Dyma berthynas symbiotig rhwng y bacteria a’r pryf. Rydym yn defnyddio’r bacteria sy’n byw y tu mewn i bryfed i gyflawni ymyriant RNA – yn y bôn, system gellog sy’n defnyddio dilyniant DNA y genyn ei hun i’w ddiffodd. Mae Prifysgol

Mae Fferylliaeth yn Abertawe yn adeiladu ar gryfderau’r Ysgol Feddygaeth trwy roi dull rhyngddisgyblaethol ar waith. Rydym yn sylweddoli bod Fferyllwyr, Meddygon a Nyrsys yn gweithio gyda’i gilydd mewn lleoliadau clinigol, felly fe ddylai addysg a hyfforddiant adlewyrchu hyn. Bydd ein myfyrwyr Fferylliaeth yn elwa ar ein profiad a’n harbenigedd mewn gwyddor glinigol a gwyddor bywyd, ymchwil, hyfforddiant ac ymarfer, gan eu helpu i feithrin ymarfer, gwyddor a gwybodaeth fferyllol hollbwysig.

Yn fwyfwy y dyddiau hyn, mae Fferyllwyr yn darparu gwasanaethau clinigol newydd a gwell ar draws lleoliadau gofal iechyd, o’r gymuned a gofal sylfaenol i fferylliaeth ysbytai, fferylliaeth ddiwydiannol a’r byd academaidd. Mae ein Gradd Fferylliaeth yn cydnabod y rolau newydd ac uwch hyn ac yn integreiddio gwyddorau ac ymarfer â ffocws cryf ar sgiliau clinigol, sgiliau cyfathrebu a thechnoleg ddigidol er mwyn paratoi’r myfyrwyr i gwrdd â’r heriau sydd ynghlwmwrth wedd newidiol Fferylliaeth.

7 thema

Edrychwn ymlaen at weithio gyda’r Ysgol Feddygaeth a chwarae rhan bwysig yn y dasg o hyfforddi fferyllwyr y dyfodol Fferyllfa Evans, Llanelli “ • Fferylleg • Cemeg Fferyllol • Ffarmacoleg • Bioleg a Biocemeg • Anatomeg a Ffisioleg • Fferylliaeth Glinigol • Ymarfer Fferylliaeth “ I wneud cais i astudio Fferylliaeth, byddwch angen graddau ABB-BBB mewn Safon Uwch, yn cynnwys Cemeg, ac o leiaf un pwnc STEM arall, fel Bioleg, Ffiseg, Mathemateg neu Seicoleg. Hefyd, byddwch angen TGAU Mathemateg a Saesneg, Gradd C (4) neu uwch. Cewch fwy o wybodaeth ar ein tudalen Fferylliaeth:

“ Fel gwyddonydd rydych chi eisiau gwneud rhywbeth a fydd yn newid bywydau… dyna yw fy nod” “

tiwmorau. Y syniad oedd chwilio am facteria y gellid eu defnyddio, o bosibl, i dargedu tiwmorau mewn cleifion… Cewch wybod sut y caiff gwaith ymchwil Paul ei lywio a’i ariannu gan CANCER RESEARCH UK yng Nghyfres

Abertawe wedi patentu’r dechnoleg hon a ddatblygwyd gennym ar gyfer pryfed, ac un diwrnod gofynnwyd i mi yn eithaf didaro – “ allwch chi ddim meddwl am rywbeth a fyddai hyd yn oed yn fwy defnyddiol?! ” Ac fe ddechreuodd olwynion fy meddwl droi… efallai y byddai modd i ni wneud rhywbeth tebyg i’r hyn yr ydym yn ei wneud gyda phryfed ar gyfer trin

Yn ystod y Radd Meistr integredig (MPharm) bedair blynedd hon mewn Fferylliaeth, bydd y cwricwlwm yn adlewyrchu’r ffordd y mae Fferyllwyr yn ymdrin â chleifion a’r modd y mae cleifion yn eu cyflwyno’u hunain i Fferyllwyr.

Podlediadau Prifysgol Abertawe, ‘Archwilio Problemau Byd-eang’

Rydym yn gweithio tuag at gael ein hachredu gan y Cyngor Fferyllol Cyffredinol. Mae’r cwrs MPharmmewn Fferylliaeth wedi’i achredu dros dro, hyd nes y caiff y rhaglen achrediad llawn

Diddordeb mewn Geneteg? Gweler tudalen 32 i gael gwybod mwy am ein cyrsiau

16

17

Diddordeb mewn Fferylliaeth? Gweler tudalen 32 i gael gwybod mwy am ein cyrsiau

Made with FlippingBook - professional solution for displaying marketing and sales documents online