Cylchgrawn Pwls - Cyf 01 Rhifyn Canmlwyddiant

PWLS

Yma mae Dr Hugh Jones, tiwtor derbyn, yn rhannu ei awgrymiadau ynghylch astudio Geneteg a Biocemeg... 1. Peidiwch â phoeni os nad ydych yn hollol si ŵ r pa radd yr ydych eisiau ei hastudio eto – dydyn ni ddim yn disgwyl i chi fod gant y cant yn si ŵ r. Mae strwythur modiwlaidd ein rhaglen yn ddigon hyblyg i chi allu newid eich meddwl yn ystod eich blwyddyn gyntaf, yn dibynnu ar eich pynciau Safon Uwch. 2. A ydych wedi ystyried gradd MSci? Mae ein MSci yn radd meistr integredig – byddwch yn gadael y Brifysgol gyda Fframwaith Cymwysterau Addysg Uwch Lefel 7, gan dalu ffioedd israddedigion yn unig. Os byddwch yn gwneud cais am MSci, efallai y byddwn yn gofyn am raddau uwch, ond does gennych chi ddim byd i’w golli oherwydd byddwn yn eich ystyried yn awtomatig ar gyfer y cwrs BSc cyfatebol pe bai eich canlyniadau’n is na’r disgwyl. 3. Os ydych yn ymgeisio am gwrs gradd mewn Meddygaeth, Biocemeg Feddygol neu Eneteg Feddygol, cofiwch gynnwys pumed dewis doeth ar eich ffurflen UCAS – Llwybrau i Feddygaeth yw’r rhain, ac fe allen nhw warantu cyfweliad i chi ar gyfer Meddygaeth i Raddedigion. 4. Mae Ysgoloriaethau Rhagoriaeth a Theilyngdod Prifysgol Abertawe yn arian go iawn – nid gostyngiad ffioedd yn unig: chi fydd yn cael yr arian! Rhoddir £3,000 yn awtomatig i bob myfyriwr sy’n llwyddo i gael AAA a £2,000 i bob myfyriwr sy’n llwyddo i gael AAB (mewn Safon Uwch neu gymhwyster cyfwerth).

YSGOL FEDDYGAETH PRIFYSGOL ABERTAWE

SUT Y GALL EICH GRADD HELPU I achub y byd Ym mhob pwnc gradd, mae cyfleoedd i newid bywydau er gwell…wedi’r cwbl, gwnaeth Mark Zuckerberg greu Facebook yn ei ystafell wely yn Harvard. Ond beth am y cyrsiau hynny lle mae’r holl fyfyrwyr wrthi’n dawel yn newid y byd – yn gweithio’n galed i wneud darganfyddiadau a allai wellamiloedd o fywydau?

DYMA

Yma mae Francesca, myfyriwr Gwyddorau

Francesca

Meddygol Cymhwysol, yn rhannu ei hawgrymiadau ardderchog ar gyfer astudio

1

Byddwch yn drefnus: Mae adolygu’n gymaint haws ar ôl ei drefnu. Rydw i bob amser yn llunio amserlen ar gyfer yr wythnos ac yn codio fy nodiadau mewn lliw, fel y gallaf gario ’mlaen o’r lle y gorffennais. Os byddwch yn adolygu’n dda, fydd dim angen i chi dreulio’r noson cynt yn paratoi’n wyllt, a gallwch dreulio amser yn rhoi trefn ar eich deunyddiau ysgrifennu. Cymerwch seibiant: “Gwaith heb ŵ yl a wna Huw’n ddi-hwyl”, medd y dywediad! Bydd cymryd seibiant yn rheolaidd yn eich helpu i aildanio a chanolbwyntio eich meddwl. Rydw i’n ceisio gwneud amser i ymarfer gyda Chlwb Pêl-rwyd Abertawe a gwirfoddoli i elusen ‘Discovery’ y brifysgol – mae’r ddau beth yn help mawr. Hefyd, mae treulio amser yn sgwrsio am bynciau adolygu gyda’m cyd-fyfyrwyr yn fy helpu i gofio’r hyn yr ydw i wedi bod yn ei adolygu. Cwblhewch hen bapurau arholiad: Mae hen bapurau arholiad yn fy helpu i ganolbwyntio ar y mater dan sylw, hogi fy arddull ysgrifennu a rhoi prawf arnaf fy hun. Po fwyaf o bapurau yr ydw i’n eu cwblhau, po fwyaf hyderus ydw i. Bwydwch eich corff a’ch meddwl: Mae byrbrydau llawn egni’n wych i roi hwb i chi. Ond cofiwch neilltuo amser i fwyta prydau rheolaidd hefyd, oherwydd fe fydd y maeth iawn yn rhoi nerth i chi, yn gwella eich gallu i ganolbwyntio ac yn eich cynnal trwy sesiynau maith. Cofiwch beth yw eich nod: Pan ddaw hi’n fater o sefyll arholiadau, y ffordd orau o lwyddo yw gosod nod i chi eich hun. Cofiwch mai nod y gwaith adolygu yn y pen draw yw mynd i’r Brifysgol. Gwnewch yn si ŵ r mai Prifysgol Abertawe yw eich Dewis Pendant – byddwch yn si ŵ r o lety os gwnewch chi hynny. I mi, fe wnaeth hynny dynnu llawer o bwysau oddi arnaf.

ARAFU DATBLYGIAD CLEFYD PARKINSON: Y tu mewn i’r celloedd ymennydd a gaiff eu tyfu gan y myfyriwr PaigeWhite ceir ensymau Nicotinamide N-methyltransferase. Mae’r ensym hwn i’w gael yn gyffredin mewn pobl sy’n dioddef o gamau olaf clefyd Parkinson, ac mae Paige yn astudio’i weithrediad a’i esblygiad. “Os yw dilyniant yr ensym hwn yn unigryw i bobl, yna mae’n arwydd bod angen gwneud gwaith ymchwil pellach. Os ymchwiliwn ni i’r ffordd y maewedi esblygu, yna efallai y bydd modd i ni ddysgu’n nes ymlaen sut i arfau datblygiad clefyd Parkinson. Mae ein darlithwyr bob amser yn pwysleisio y gall ein hymchwil agor drysau i wyddonwyr eraill a darganfyddiadau pellach – yn fy marn i, mae hynny’n beth gwych” Cwrs gradd anrhydedd uwch pedair blynedd yw’r cwrs MSci – caiff ei alw hefyd yn gwrs meistr integredig gan fod y flwyddyn olaf yn gyfwerth â gradd meistr ôl-radd (Fframwaith Cymwysterau Addysg Uwch Lefel 7).

Yma, mae myfyrwyr sy’n dilyn ein cyrsiau MSci Biocemeg aGeneteg, ac sy’n cynnal prosiectau ymchwil meddygol, yn esbonio sut y gall eu hastudiaethau arwain at rai o ddarganfyddiadau mwyaf y byd. YMCHWILIO I’R GELL LADD NATURIOL: Mae Ben Jenkins, myfyriwr MSci, yn ymchwilio i gell imiwnedd o fath arbennig, a elwir yn gell ladd naturiol, a’r modd y mae’n gweithredu yn ystod beichiogrwydd. Mae celloedd lladd yn bwysig mewn imiwnedd gwrthfeirysol, ac wrth i fenywod beichiog ddod yn fwy tueddol i ddal firysau arbennig, fel y ffliw, efallai y bydd deall y ffordd y mae’r celloedd hyn yn gweithredu yn helpu i ganfod a ydynt yn cyfrannu at yr ymateb gwaeth hwn. “Mae yna gymaint o dechnegau yr ydw i wedi’u dysgu a chynifer o gyfleusterau ar gyfer samplu gwaed, profi samplau gwaed a ddaw o ysbytai, ac ynysu gwahanol fathau o gelloedd trwy amrywiol ffyrdd. O safbwynt imiwnedd, mae Abertawe ar flaen y gad. Mae hi mor ddiddorol darganfod pethau nad oes neb arall wedi dod o hyd iddyn nhwo’r blaen, ac mae gwybod y gallai’r gwaith yma gael effaith ar bobl yn nes ymlaen – y gallai helpu gwyddonwyr eraill i wneud darganfyddiadau pellach – yn deimlad cyffrous.”

2

3 4 5

Mwy o wybodaeth am y prosiectau y gallech fod yn rhan ohonynt:

Diddordeb mewn Geneteg neu Fiocemeg? Neu’r ddau?! Gweler tudalen 32

18

19

Diddordeb mewn Gwyddorau Meddygol Cymhwysol? Gweler tudalen 32

Made with FlippingBook - professional solution for displaying marketing and sales documents online