PWLS
YSGOL FEDDYGAETH PRIFYSGOL ABERTAWE
DATHLU EIN
“Twin Town”
OEDDECHCHI’NGWYBOD... BOD 100% O’N GRADDEDIGION ASTUDIAETHAU CYDYMAITH MEDDYGOL WEDIPASIO’RARHOLIADCENEDLAETHOL? MAE’RCYFLAWNIADHWNYNSICRHAU MAI’RFANHONYW’RPRIF LE I ASTUDIO A HYFFORDDI I FYND YN GYDYMAITH MEDDYGOL YNGNGHYMRU A’R DU
cyfradd basio 100%
Mae’r efeilliaid un ffunud,Will ac Alex Carroll-Adams, wedi cael eu haduno yn Ysgol Feddygaeth Prifysgol Abertawe wrth i’r ddau ddilyn eu huchelgais i fod yn feddygon.
Erbyn hyn mae Will, sydd yn ei bedwaredd flwyddyn a’i flwyddyn olaf o’n cwrs Meddygaeth i Raddedigion, wedi cael cwmni Alex, sydd newydd gychwyn ei astudiaethau. Darganfu’r efeilliaid 27 oed eu bod yn danbaid dros eu darpar broffesiwn ar ôl cwblhau graddau anfeddygol. Yn ôl Will, a enillodd BSc mewn Anthropoleg: “IRoedd wastad yn edifar gen i nad oeddwn wedi astudio meddygaeth, ac yna yn ystod fy ngradd sylweddolais fy mod yn cael blas ar anthropoleg fforensig, sef astudio ysgerbydau ac archwilio’r esgyrn. Doeddwn i ddim wedi sylweddoli y gallai anthropoleg fod yn bwnc a allai fy arwain at feddygaeth hyd nes i mi ddysgu mwy am y cwrs meddygaeth i raddedigion.”
ystyried dilyn yn ôl troed Will. “Ar ôl treulio cymaint o amser gyda’n gilydd pan oedden ni’n blant, wnaethon ni ddim anelu at fod yn yr un lle â’n gilydd, ond trwy ddamwain mae’r ddau ohonom yma yn Abertawe,” medd Alex, a enillodd BA mewn addysg gynradd. Kamila Hawthorne, Pennaeth Meddygaeth i Raddedigion, “Mae Will ac Alex yn dangos bod yna fwy nag un ffordd o fynd yn feddyg. Y peth pwysicaf y gall ymgeiswyr a myfyrwyr ei ddysgu yw’r grefft o wrando ar y cleifion y byddan nhw’n eu cyfarfod, a gofalu amdanyn nhw gyda pharch a thosturi.” Ychwanega’r Athro
PAM DEWIS MYND YN Gydymaith Meddygol? A oes gennych ddiddordeb mewn cael gyrfa’n gweithio ochr yn ochr â meddygon mewn ysbytai neu feddygfeydd, yn diagnosio ac yn rheoli triniaethau cleifion? Ein cwrs gradd MSc integredig dwy flynedd mewn Astudiaethau Cydymaith Meddygol yw’r unig gwrs yn Ne Cymru, a bydd yn eich helpu i feithrin gwybodaeth a sgiliau clinigol i basio’r Arholiad Cenedlaethol a chychwyn ar eich rôl newydd mewn
gofal iechyd.
Ceir galw cynyddol am Gymdeithion Meddygol ledled y DU, a bydd cryn ofyn am eich sgiliau a’ch gradd mewn amrywiol leoliadau. Fel y dengys ein cyfradd basio yn yr Arholiad Cenedlaethol, trwy ein cwricwlwm sbiral byddwch yn graddio fel Cydymaith Meddygol hyderus a chymwys, yn barod i wasanaethu ar draws ymarferion clinigol.
Mwy o wybodaeth am eich rôl mewn gofal iechyd yn y dyfodol, yn cynnwys gofynion mynediad a sut i ymgeisio:
Mwy o wybodaeth am yr hyn sy’n gwneud meddyg da:
Yn raddol, dechreuodd Alex
Diddordeb mewn Astudiaethau Cydymaith Meddygol? Gweler tudalen 32
Diddordeb mewn Meddygaeth i Raddedigion? Gweler T32
22
23
Made with FlippingBook - professional solution for displaying marketing and sales documents online