RHAGOLYGON GYRFA (Canllaw i Brifysgolion The Guardian 2020) YN Y DU 6 EG
RHAGOLYGON GYRFA (Canllaw i Brifysgolion The Guardian 2020) YN Y DU 6 EG
LLENYDDIAETH SAESNEG GYDAG YSGRIFENNU CREADIGOL CAMPWS PARC SINGLETON
LLENYDDIAETH SAESNEG CAMPWS PARC SINGLETON
Bydd astudio Llenyddiaeth Saesneg yn rhoi’r sgiliau i ddarllen ac ysgrifennu yn feirniadol ac yn greadigol, gan ymgysylltu â phynciau a syniadau pwerus a chyffredin. Cei gyfle i astudio dros fil o flynyddoedd o lenyddiaeth, o destunau Hen Saesneg i'r gwaith cyfredol sydd ar y rhestr fer ar gyfer Gwobr fawreddog Dylan Thomas. Gelli astudio llenyddiaeth genedlaethol a byd-eang gan gynnwys cyfnodau canoloesol a’r Dadeni, ffuglen Gothig, llenyddiaeth y 19eg ganrif a thestunau modern, cyfoes a digidol.
Cynigia’n cyrsiau gradd mewn Llenyddiaeth Saesneg gydag Ysgrifennu Creadigol antur ddwys mewn darllen sy’n meithrin creadigrwydd ac ymwybyddiaeth feirniadol. O gael dy addysgu gan awduron profiadol, uchel eu parch sydd wedi cyhoeddi’n doreithiog, fe fyddi di’n cael profiad ymarferol mewn sawl math o ysgrifennu ar gyfer y cyhoedd, gan gynnwys ffuglen, drama, sgriptio, barddoniaeth a ffeithiol creadigol.
BlwyddynSylfaen ar gael CyfleoeddByd-eang ar gael
BlwyddynSylfaen ar gael CyfleoeddByd-eang ar gael
Rhestrir ymanylion llawnynyGrid Cyfeirnodi Cyrsiau (tudalen 143)
Rhestrir ymanylion llawnynyGrid Cyfeirnodi Cyrsiau (tudalen 143)
Byddi di’n dysgu amrywiaeth o sgiliau ysgrifennu a fydd yn dy baratoi i ddilyn gyrfa fel awdur, gan gynnwys nofelau, dramâu, barddoniaeth, sgriptiau ffilm ac ysgrifennu ffeithiol. Fe fyddi di’n hefyd astudio hanes, traddodiadau a theori dros 1,000 o flynyddoedd o lenyddiaeth Saesneg yn cynnwys hen destunau Saesneg i'r gweithiau cyfredol. Gelli astudio llenyddiaeth genedlaethol a byd-eang gan gynnwys cyfnodau canoloesol a’r Dadeni, ffuglen Gothig, llenyddiaeth y 19eg ganrif a thestunau modern, cyfoes a digidol. Trefnwn ymweliadau â theatrau, archifdai ac amgueddfeydd cenedlaethol er mwyn rhoi’r cyfle i ymgyfarwyddo ag asiantaethau, cyhoeddwyr, golygyddion ac ysgrifenwyr.
FEL ARFER MAE’R MEYSYDD SY’N CAEL EU HASTUDIO’N CYNNWYS: Blwyddyn 1 • Angenfilod, Theorïau, Trawsnewidiadau • Byd y Ddrama Lwyfan • Hanfodion Saesneg • Ysgrifennu Creadigol: Genre Ffuglen • Ysgrifennu Creadigol: Steiliau Ffuglen Blwyddyn 2 • Cyflwyniad i Greadigol Ffeithiol • Cyflwyniad i Ysgrifennu Barddoniaeth • Cyflwyniad i Ysgrifennu Ffuglen • Cyflwyniad i Ysgrifennu Drama Blwyddyn 3 • Modiwl Gwobr Dylan Thomas Rhyngwladol • Prosiect Personol Ysgrifennu Creadigol • Ysgrifennu Barddoniaeth Pellach • Ysgrifennu Creadigol Ffeithiol Pellach
Rydym yn cynnig cynnwys cwrs amrywiol a hyblyg, gelli lywio dy gwrs yn ôl dy ddiddordebau dy hun, boed hynny mewn ffuglen Gothig a phoblogaidd, rhywedd a diwylliant, llenyddiaeth y Dadeni, llenyddiaeth genedlaethol a byd-eang, modernrwydd ac ysgrifennu cyfoes, llenyddiaeth y 19eg ganrif, neu ysgrifennu creadigol a phroffesiynol. Byddi di’n dysgu gan awduron profiadol a sefydledig y mae eu gwaith wedi cael ei gyhoeddi, ei ddarlledu a'i berfformio'n eang. Mae gennym gysylltiadau agos gyda diwydiannau creadigol, gelli gymryd rhan mewn prosiectau gyda Chanolfan Dylan Thomas a Theatr Genedlaethol Cymru. Trefnwn ymweliadau â theatrau, archifdai ac amgueddfeydd cenedlaethol er mwyn rhoi i’n myfyrwyr brofiad addysgol cyfoethog a’r cyfle i ymgyfarwyddo ag amrywiaeth o amgylcheddau proffesiynol.
FEL ARFER MAE’R MEYSYDD SY’N CAEL EU HASTUDIO’N CYNNWYS: Blwyddyn 1 • Angenfilod, Theorïau, Trawsnewidiadau • Byd y Ddrama Lwyfan • Dulliau o droi at Rywedd mewn Llenyddiaeth Saesneg • Hanfodion Saesneg • Ysgrifennu Creadigol: Genre Ffuglen Blwyddyn 2 • Archwilio’r Siambr Waedlyd: Canoloesol i Ôl-fodern • Gwrthdaro a Gothig yn y Bedwaredd Ganrif ar Bymtheg Hir • Rhannau o’r Undeb: Gwneud a Thorri Diwylliant Prydain • Shakespeare Dadleuol • Tir Neb: Llenyddiaeth rhwng y Rhyfeloedd Blwyddyn 3 • Barddoniaeth yn yr Ugeinfed Ganrif • G wallgofrwydd, Anhwylder ac Iselder: Llenyddiaeth a Meddygaeth wrth Ddechreuad i Enomau • Modiwl Gwobr Dylan Thomas Rhyngwladol • Pethau: Llenyddiaeth Fictorianaidd a Diwylliant Materol • Prosiect Personol Ysgrifennu Creadigol • Traethawd Estynedig – Llenyddiaeth Saesneg
CYNNIG NODWEDDIADOL: BBB
CYNNIG NODWEDDIADOL: BBB
Rhestrir y manylion llawn am y gofyniad mynediad a nodweddion y cwrs yn y Grid Cyfeirnodi Cyrsiau (tudalen 143)
Rhestrir y manylion llawn am y gofyniad mynediad a nodweddion y cwrs yn y Grid Cyfeirnodi Cyrsiau (tudalen 143)
BA Anrhydedd Sengl ▲ ♦ Llenyddiaeth Saesneg ♦ Llenyddiaeth Saesneg (gyda Blwyddyn Sylfaen) ▲ ♦ Saesneg gyda Rhywedd
GYRFAOEDD POSIB: • Addysg • Cyfryngau a chysylltiadau cyhoeddus • Newyddiaduraeth • Sgriptio a Diwydiannau Creadigol • Ysgrifennu a Chyhoeddi BA Prif Bwnc / Is-bwnc Anrhydedd ▲ Llenyddiaeth Saesneg gydag Ysgrifennu Creadigol ♦ Llenyddiaeth Saesneg gydag Ysgrifennu Creadigol (gyda Blwyddyn Dramor) ♦ Llenyddiaeth Saesneg gydag Ysgrifennu Creadigol (gyda Blwyddyn Sylfaen) ▲ 3 BLYNEDD ♦ 4 BLYNEDD Am y codau UCAS unigol, gweler tudalen we’r cwrs
BA Cydanrhydedd Llenyddiaeth Saesneg a ♦ Almaeneg (gyda Blwyddyn Dramor) ▲ ♦ Astudiaethau Americanaidd ▲ Cyfryngau ▲ ♦ Cymraeg (iaith gyntaf) ▲ ♦ Cymraeg (ail iaith) ♦ Ffrangeg (gyda Blwyddyn Dramor) ▲ ♦ Gwareiddiad Clasurol ▲ ♦ Gwleidyddiaeth ▲ ♦ Hanes ▲ ♦ Hanes yr Henfyd ▲ ♦ Saesneg Iaith ♦ Sbaeneg (gyda Blwyddyn Dramor) ▲ ♦ TESOL ▲ ♦ Gellir ymestyn cyrsiau 3 blynedd i 4 blynedd i gynnwys Blwyddyn Dramor
• Ysgrifennu Ffuglen Pellach • Ysgrifennu i Radio a Sgrîn
▲ 3 BLYNEDD ♦ 4 BLYNEDD Am y codau UCAS unigol, gweler tudalen we’r cwrs
GYRFAOEDD POSIB: • Addysgu ac addysg • Cyfathrebu a’r cyfryngau • Cyhoeddi, hysbysebu, cysylltiadau cyhoeddus • Darlledu a newyddiaduraeth • R heoli llwyfan a’r diwydiannau creadigol
Am fanylion llawn y cwrs, gan gynnwys rhestr fodiwl llawn, gweler: abertawe.ac.uk/israddedig/cyrsiau
Am fanylion llawn y cwrs, gan gynnwys rhestr fodiwl llawn, gweler: abertawe.ac.uk/israddedig/cyrsiau
102
103
Made with FlippingBook - Online magazine maker