Prosbectws-Israddedig-2021-Prifysgol-Abertawe

RHAGOLYGON GRADDEDIGION UCHAF YN Y DU 5

MARCHNATA CAMPWS Y BAE

MATHEMATEG CAMPWS Y BAE

RHEOLAETH BUSNES A MARCHNATA (Gwobrau WhatUni 2019) UCHAF YN Y DU

A allet weld dy hun yn gweithio i asiantaeth farchnata amlwladol gyda brand adnabyddus? Bydd y radd hon yn dy helpu i sefyll allan fel myfyriwr marchnata graddedig ymroddedig sy'n meddu ar y sgiliau creadigol dynamig sydd eu hangen i reoli marchnata mewn modd pendant ar lefel fyd-eang, genedlaethol neu leol.

Mathemateg yw un o'r disgyblaethau mwyaf bythol a rhyngwladol sydd i'w cael. Mae'n bwnc hynafol a modern sy'n ffurfio'r sylfeini y mae'r byd modern wedi'i adeiladu arnynt. Mae gwyddoniaeth a busnes cyfoes yn seiliedig ar fathemateg, ac mae ein cyrsiau gradd yn adlewyrchu cysylltiad â diwydiant. Wrth i ti fynd yn dy flaen drwy'r cwrs, bydd y galluoedd mathemategol y byddi di’n eu datblygu yn cyfuno â sgiliau trosglwyddadwy sy'n hanfodol i sicrhau cyflogaeth yn y diwydiant ehangach.

(Canllaw Cyflawn i Brifysgolion 2020)

CyfleoeddByd-eang ar gael

BlwyddynSylfaen ar gael CyfleoeddByd-eang ar gael Ysgoloriaethau/ Bwrsariaethau Cymraeg ar gael

Rhestrir ymanylion llawnynyGrid Cyfeirnodi Cyrsiau (tudalen 141)

Yn y flwyddyn gyntaf, byddi di’n datblygu sylfaen graidd mewn rheoli busnes a marchnata. Yn y blynyddoedd dilynol, byddi di’n arbenigo mewn modiwlau sy'n benodol i farchnata ac yn cael cyfle i astudio modiwlau dewisol o ddisgyblaethau busnes eraill. Byddi di’n dysgu sut i feddwl yn feirniadol a gwneud penderfyniadau marchnata strategol ar sail gwybodaeth, gan effeithio ar y byd go iawn. Rydym wedi datblygu’r strwythur a chynnwys y cwrs yn unol â Thystysgrif y Sefydliad Marchnata Siartredig (CIM) a, thrwy darlithoedd, tiwtorialau a chyfarfodydd un-i-un, byddi di’n derbyn gwybodaeth arbenigol o’r staff academaidd. Byddi di hefyd yn cael mynediad llawn i'n hystafell creu cynnwys fideo a digidol Mae Blwyddyn mewn Diwydiant ar gael i bob myfyriwr israddedig o fewn yr Ysgol Reolaeth, sy’n rhoi cyfle i ti ennill profiad diwydiant y byd go iawn, gan dy wneud yn ymgeisydd deniadol ar gyfer swyddi ar ôl graddio.

Wyt ti eisiau profi blwyddyn fythgofiadwy yn astudio mewn gwlad arall, cwrdd â phobl newydd, archwilio diwylliannau newydd a thyfu fel person; yn broffesiynol ac yn bersonol ? Mae Blwyddyn Dramor hefyd ar gael gyda sefydliad tramor. FEL ARFER MAE’R MEYSYDD SY’N CAEL EU HASTUDIO’N CYNNWYS: Blwyddyn 1 • Cyd-destun byd-eang y sefydliad • Cyllid ar gyfer busnes • Marchnata • Rheoli pobl • Sgiliau dadansoddi hanfodol ar gyfer busnes Blwyddyn 2 • Cynllunio marchnata strategol

CYNNIG NODWEDDIADOL: ABB-BBB Rhestrir y manylion llawn am y gofyniad mynediad a nodweddion y cwrs yn y Grid Cyfeirnodi Cyrsiau (tudalen 141) BSc Anrhydedd Sengl ▲ Marchnata ♦ Marchnata (gyda Blwyddyn mewn Diwydiant / Dramor) ▲ 3 BLYNEDD ♦ 4 BLYNEDD Mae hefyd opsiwn i astudio marchnata dan y llwybr Rheolaeth Busnes. Am fwy o wybodaeth, gweler tudalen 123.

Rhestrir ymanylion llawnynyGrid Cyfeirnodi Cyrsiau (tudalen 141)

Mae'r cwrs gradd Mathemateg yn cwmpasu sail eang o fathemateg glasurol a modern. Rydym yn cynnig amrywiaeth o fodiwlau sy'n ymdrin â mathemateg bur a chymhwysol ac mae pob myfyriwr anrhydedd sengl yn cwblhau traethawd estynedig mewn maes o'i ddewis yn ei flwyddyn olaf. Ym mhob un o'n cynlluniau byddi’n dysgu sut i ddefnyddio rhesymu, llunio dadleuon cadarn a datblygu sgiliau cyfathrebu. Cei dy addysgu yn Adeilad newydd ein Ffowndri Gyfrifiadurol a gostiodd £32.5 miliwn i'w adeiladu ac sy'n darparu'r cyfleusterau addysgu diweddaraf sydd o'r safon uchaf. Mae'r rhain yn cynnwys Ystafell Ddarllen benodedig ar gyfer Mathemateg, yng nghanol yr adran, lle y gall y myfyrwyr astudio.

GYRFAOEDD POSIB: • Actiwari • Cyfrifydd • Dadansoddwr ystadegol • Gwyddonydd data • Peirannwr meddalwedd • Ymgynghorydd Rheoli

Cynnig Nodweddiadol: BSc: AAB-ABB (gan gynnwys Mathemateg) MMath: AAA (gan gynnwys Mathemateg) Rhestrir y manylion llawn am y gofyniad mynediad a nodweddion y cwrs yn y Grid Cyfeirnodi Cyrsiau (tudalen 141) BSc Anrhydedd Sengl ▲ Mathemateg ♦ Mathemateg (gyda Blwyddyn mewn Diwydiant / Dramor) ♦ Mathemateg (gyda Blwyddyn Sylfaen) ▲ Mathemateg Bur ▲ Mathemateg Gymhwysol ▲ Mathemateg ar gyfer Cyllid ♦ Mathemateg ar gyfer Cyllid (gyda Blwyddyn mewn Diwydiant / Dramor) BSc Cydanrhydedd Mathemateg a ▲ Addysg ♦ Addysg (gyda Blwyddyn Dramor) ▲ Gwyddor Chwaraeon

FEL ARFER MAE’R MEYSYDD SY’N CAEL EU HASTUDIO’N CYNNWYS: Blwyddyn 1 • Algebra cryno a lliniol • Dulliau algebra • Mecaneg / ystadegau Blwyddyn 2 • Dadansoddiad gwirioneddol a chalcwlws fector • Man fector a theori grŵp • Tebolygrwydd Blwyddyn 3 / MMath: • Biofathemateg • Dadansoddiad cymhleth • Dadansoddiad swyddogaethol • Damcaniaeth codio algebra • Dulliau rhifiadol

Am y codau UCAS unigol, gweler tudalen we’r cwrs

• Marchnata Digidol • Marchnata lleoedd

• Marchnata Rhyngwladol • Ymddygiad defnyddwyr Blwyddyn 3 • Marchnata cyfathrebu • Marchnata gwasanaethau

GYRFAOEDD POSIB: • Prynwr Cyfryngau • Rheolwr Brand • Rheolwr Marchnata • Swyddog Gweithredol Cyfrif Cysylltiadau Cyhoeddus • Ymgynghorydd Rheoli

• Moeseg marchnata • Ymchwil marchnata

MMath Anrhydedd Sengl ♦ M Math Mathemateg H  MMath Mathemateg

• Mathemateg gyllidol • Mecaneg gwantwm • Prosesau stocastig • Systemau dynamig

(gyda Blwyddyn Dramor)

Datblygwyd strwythur y cwrs yn unol â Thystysgrif CIMmewn Marchnata Proffesiynol a Diploma mewn Marchnata Proffesiynol

Gwyddor Actiwaraidd - gweler tudalen 88

MAE ACHREDIADAU’N CYNNWYS:

▲ 3 BLYNEDD ♦ 4 BLYNEDD H 5 BLYNEDD Am y codau UCAS unigol, gweler tudalen we’r cwrs

Am fanylion llawn y cwrs, gan gynnwys rhestr fodiwl llawn, gweler: abertawe.ac.uk/israddedig/cyrsiau

Am fanylion llawn y cwrs, gan gynnwys rhestr fodiwl llawn, gweler: abertawe.ac.uk/israddedig/cyrsiau

104

105

Made with FlippingBook - Online magazine maker