Prosbectws-Israddedig-2021-Prifysgol-Abertawe

CyfleoeddByd-eang ar gael Ysgoloriaethau/ Bwrsariaethau Cymraeg ar gael (Canllaw Cyflawn i Brifysgolion 2020; Canllaw i Brifysgolion The Guardian 2020) YSGOL FEDDYGAETH 5 UCHAF YN Y DU

MEDDYGAETH I RADDEDIGION CAMPWS PARC SINGLETON

Cwrs gradd carlam, arloesol pedair blynedd sy’n agored i raddedigion mewn unrhyw ddisgyblaeth yw ein rhaglen Meddygaeth i Raddedigion (MBBCH). Gyda phwyslais mawr ar sgiliau clinigol a chyfathrebu, mae ein cwrs cwricwlwm meddygol integredig wedi’i strwythuro i adlewyrchu’r ffordd y mae cleifion yn cysylltu â meddygon a sut mae meddygon yn ymgysylltu â’u symptomau. Byddi di'n astudio gwyddorau biofeddygol sylfaenol yng nghyd- destun meddygaeth glinigol, iechyd y cyhoedd, patholeg, therapiwteg, moeseg, materion seicogymdeithasol wrth reoli cleifion. Drwy gyfuniad o ddysgu yn y Brifysgol

Mae ein proses o gyfweld am le ar y cwrs yn un strwythuredig, gan ystyried y rhinweddau hyn sydd eu hangen i fod yn feddyg, fel a bennir yn ‘Good Medical Practice’, a’r gallu i gyflawni’r canlyniadau yn ‘Outcomes for Graduates’. I grynhoi: • Sgiliau cyfathrebu • Sgiliau datrys problemau • Ymdopi â phwysau • Mewnwelediad ac uniondeb cymeriad • Brwdfrydedd at feddygaeth/ cydnerthedd i lwyddo ACHREDWYD GAN Y CYNGOR MEDDYGOL CYFFREDINOL Dylai ymgeiswyr fod yn ymwybodol o’r ffaith fod angen i bob myfyriwr meddygol lwyddo yn nwy ran yr Asesiad Trwyddedu Meddygol MLA gyda’r Cyngor Meddygol Cyffredinol (GMC) er mwyn ennill cofrestriad i ymarfer o 2022 ymlaen, yn ogystal â phasio arholiadau terfynol y brifysgol a dangos eu haddasrwydd i ymarfer. MEDDYGON I GYMRU Mae gan yr Ysgol Feddygaeth becyn eang a pharhaus o fesurau ar gyfer mynd i’r afael â’r heriau arwyddocaol sy’n wynebu’r gweithlu meddygon yng Nghymru, gan gynnwys recriwtio a chadw meddygon. Mae'r mesurau hyn wedi'u cynllunio i gynyddu'r nifer o ymgeiswyr sy'n byw yng Nghymru sy'n cyfweld am feddygaeth a'r nifer o feddygon cymwys sy'n ymarfer yng Nghymru.

Rhestrir ymanylion llawnynyGrid Cyfeirnodi Cyrsiau (tudalen 142)

CYNNIG NODWEDDIADOL: 2:1 (Gradd baglor mewn unrhyw bwnc)

a sesiynau ymarferol, byddi di’n mwynhau lefel uchel o gysylltiad clinigol drwy Gyfleoedd Dysgu yn y Lleoliad Hunan-ddewisol (LOCS), ymluniadau arbenigol, isdarlithyddiaeth a dysgu yn y gymuned. Gelli di deilwra dy astudiaethau i ffocysu ar feddygaeth yn y gymuned, gyda lleoliadau clinigol mewn gofal sylfaenol yng Nghanolbarth a Gorllewin Cymru. Ynghyd â chanolbwyntio’n gryf ar sgiliau clinigol a chyfathrebu, byddi'n datblygu rhinweddau academaidd, ymarferol a phersonol i allu ymarfer meddygaeth mewn modd cymwys a hyderus. GWNEUD CAIS AM FEDDYGAETH Mae'n rhaid i ti eistedd GAMSAT cyn gwneud cais. Cynigir cyfweliadau i ymgeiswyr sy'n bodloni sgôr toriad cyffredinol yn y GAMSAT.

Rhestrir y manylion llawn am y gofyniad mynediad a nodweddion y cwrs yn y Grid Cyfeirnodi Cyrsiau (tudalen 142)

Dewisais astudio yn Abertawe gan ei fod yn bwysig i fi gael fy addysg yng Nghymru a dyma’r unig brifysgol i gynnig cwrs i raddedigion. Wrth ymweld ag Abertawe, roeddwn yn teimlo fel fy mod yn gael fy nghroesawu, yn rhan o deulu. Mae’r ffaith fod Abertawe yn 3ydd uchaf yn y Deyrnas Unedig ar gyfer cwrs feddygol yn fonws mawr iawn hefyd! Mae bod ar leoliad yn gyffrous ac yn fy atgoffa pam fy mod eisiau astudio’r cwrs a bod yn feddyg. Mae gwrando ar straeon cleifion yn fraint ac yn helpu gyda’r dysgu i wneud cyswllt rhwng y cyflwr meddygol a sut mae hyn yn effeithio ar bobl mewn bywyd go iawn. Roedd hi’n bwysig i fi i gymryd mantais o’r cyfle i astudio rhan o’r cwrs yn y Gymraeg a bues i’n ffodus i dderbyn ysgoloriaeth Academi Hywel Teifi ac Ysgoloriaeth Cymhelliant y Coleg Cymraeg Cenedlaethol. Dwi’n teimlo gymaint fwy cyfforddus yn mynegi fy hun yn y Gymraeg felly does dim syndod bod nifer o gleifion tra mewn sefyllfa anghyfarwydd o fod mewn poen neu yn yr ysbyty hefyd yn teimlo mwy cyfforddus yn siarad eu hiaith gyntaf. Mae bod yn lysgennad i’r Coleg Cymraeg wedi rhoi’r cyfle i fi gwrdd â myfyrwyr newydd ac i fynd o amgylch ysgolion Cymru i sôn am fy mhrofiadau, mae hefyd yn edrych yn grêt ar fy CV!

RHAGLENNI GRADD AR GAEL: ♦ MBBCh Meddygaeth

♦ 4 BLYNEDD Am y codau UCAS unigol, gweler tudalen we’r cwrs

LLWYBR MEDDYGAETH I RADDEDIGION

Fel rhan o’n hymrwymiad i ehangu mynediad i feddygaeth, gallwn dy warantu y cei gyfweliad ar gyfer ein cwrs MBBCh Meddygaeth i Raddedigion trwy ddilyn un o’n graddau llwybrau i feddygaeth. Am fwy o wybodaeth: abertawe.ac.uk/y-brifysgol/ colegau/ysgol-feddygaeth- prifysgol-abertawe/llwybrau-i- feddygaeth

MEDDYGAETH I RADDEDIGION I ddysgu mwy am ein storïau myfyrwyr, gweler: abertawe.ac.uk/astudio/ ein-storiau-myfyrwyr

GYRFAOEDD POSIB:

MAE ACHREDIADAU’N CYNNWYS:

Mae lleoliadau clinigol wedi'u hymgorffori fel rhan o'r rhaglen hon

DARGANFODMWY: abertawe.ac.uk/meddygaeth meddygonigymru

Am fanylion llawn y cwrs, gan gynnwys rhestr fodiwl llawn, gweler: abertawe.ac.uk/israddedig/cyrsiau

106

107

107

Made with FlippingBook - Online magazine maker