Prosbectws-Israddedig-2021-Prifysgol-Abertawe

MEDDYGAETH NIWCLEAR, FFISEG RADIOTHERAPI, FFISEG YMBELYDREDD CAMPWS PARC SINGLETON

NEWYDDIADURAETH, Y CYFRYNGAU A CHYFATHREBU CAMPWS PARC SINGLETON

% CYFLOGADWYEDD GRADDEDIGION* (Cyrchfannau Ymadawyr Addysg Uwch 2018)

Bydd ein graddau yn rhoi'r hyfforddiant arbenigol sydd ei angen arnat i ddechrau gyrfa fedrus, gwerth chweil yn y proffesiwn gofal iechyd fel technolegydd ffiseg feddygol, dosimetrydd ym maes ffiseg radiotherapi, neu ffisegydd ymbelydredd. Mae pob un o'r cyrsiau yn cyfuno gwaith academaidd manwl â sgiliau clinigol a thechnolegol ymarferol mewn amrywiaeth o leoliadau gofal iechyd arbenigol.

Yn ogystal â bod yn ddefnyddwyr gwybodaeth dorfol, mae graddedigion heddiw hefyd yn ei churadu ac yn ei chreu a'r dyddiau hyn, mae angen i ddarpar newyddiadurwyr ddatblygu eu brand personol eu hunain mewn marchnad or-lawn. Nod y rhaglen felly yw rhoi set sgiliau driphlyg i fyfyrwyr, sy'n cynnwys sgiliau dadansoddi, ymarferol a chyflogadwyedd, a fydd yn eu paratoi i fentro i'r farchnad swyddi graddedig â hyder.

BlwyddynSylfaen ar gael CyfleoeddByd-eang ar gael

Rhestrir ymanylion llawnynyGrid Cyfeirnodi Cyrsiau (tudalen142)

DIM FFIOEDD DYSGU Myfyrwyr yDUa’rUE** Gwna gais am becyn cymorth ychwanegol drwy gynllun Bwrsariaeth GIG Cymru. (**amodau yn berthnasol) abertawe.ac.uk/benthyciadau-a- grantiau/cwrs-a-ariennir-gan-y-gig

CYNNIG NODWEDDIADOL: BBB

Byddi di’n treulio hanner dy gwrs ar leoliadau gwaith clinigol ledled Cymru, a fydd yn darparu’r sgiliau ymarferol sydd eu hangen arnat i ddechrau dy yrfa. FEL ARFER MAE’R MEYSYDD SY’N CAEL EU HASTUDIO’N CYNNWYS: Blwyddyn 1 • Anatomi a ffisioleg ar gyfer gwyddorau gofal iechyd • Hanfodion mathemateg a ffiseg ar gyfer y gwyddorau gofal iechyd • Pathoffisioleg ar gyfer gwyddorau gofal iechyd • Sail wyddonol ffiseg feddygol Blwyddyn 2 † • Cylchred oes cyfarpar meddygol • Delweddu meddygol • Meddygol ymbelydredd nad yw’n ïoneiddio a mesuriadau ffisiolegol • Prosesu a delweddu arwyddion offerwaith • Ymarfer o amddiffyniad ymbelydredd Blwyddyn 3 † • Arwydd clinigol, patholeg a gofal cleifion • Ffiseg ac offeryniaeth • Prosiect ymchwil gwyddorau gofal iechyd • Radiobioleg a ffiseg radiotherapi clinigol • Ymarfer ffiseg radiotherapi

Mae ein cwrs Meddygaeth Niwclear yn dy ddysgu am ddefnyddio isotopau a gwahanol fathau o ymbelydredd i ddiagnosio a thrin llawer o glefydau. Fel technolegydd ffiseg feddygol, byddi di'n gweithredu, yn cynnal ac yn monitro offer cymhleth, arbenigol a ddefnyddir i ddiagnosio a thrin cleifion. Mae Ffiseg Radiotherapi yn dy ddysgu sut i ddefnyddio radiotherapi i drin gwahanol ganserau. Fel ffisegydd radiotherapi, byddi di’n gweithio fel aelod o dîm i ddatblygu cynlluniau triniaeth unigol ac yn gyfrifol am galibradu a defnyddio offer radiotherapi soffistigedig yn drachywir. Ar ein cwrs Ffiseg Ymbelydredd, byddi di'n dysgu am y ffordd y defnyddir pelydrau-x, deunyddiau ymbelydrol, laserau ac ymbelydredd uwch-fioled mewn cyd-destun clinigol i gymryd delweddau o gleifion, diagnosio a thrin clefydau a monitro ymateb cleifion i driniaeth. Fel ffisegydd ymbelydredd, byddi'n defnyddio offer soffistigedig i fesur a chyfrifo'r dognau o ymbelydredd a dderbynnir gan gleifion yn ystod triniaeth. Mae llawer o'n staff academaidd yn gweithio fel gwyddonwyr gofal iechyd hefyd, gan gynnig cyfuniad heb ei ail o drylwyredd gwyddonol ac arbenigedd proffesiynol.

Rhestrir y manylion llawn am y gofyniad mynediad a nodweddion y cwrs yn y Grid Cyfeirnodi Cyrsiau (tudalen 142)

Fel bodau dynol, rydym yn treulio mwy o amser yn ymwneud â’r cyfryngau nag unrhyw weithgaredd arall. Dim ond cysgu sy'n cymryd mwy o'n hamser. Yn yr oes ddigidol, caiff y newyddion a'r cyfryngau traddodiadol eu hategu gan amrywiaeth enfawr o blatfformau ar-lein. Felly, ceir mwy o ddewis nag erioed o'r blaen ac nid yw'r ansawdd erioed wedi bod mor amrywiol. Yn oes 'newyddion ffug' er enghraifft, mae'r gallu i wahaniaethu rhwng ffeithiau gwrthrychol a rhethreg amheus yn bwysicach nag erioed. Caiff y rhaglen ei harfarnu'n rheolaidd gan banel o gynrychiolwyr y diwydiant i sicrhau ei bod yn parhau ar flaen y gad wrth ddiwallu anghenion cyflogwyr a'r diwydiant. Bydd y cwrs yn cynnig cyfle i gymryd rhan mewn gweithdai a seminarau dan arweiniad siaradwyr gwadd.

FEL ARFER MAE’R MEYSYDD SY’N CAEL EU HASTUDIO’N CYNNWYS: Blwyddyn 1 • Cyflwyniad i Gyfathrebu yn y Cyfryngau • Cyflwyniad i Hanes y Cyfryngau • Cyflwyniad i Newyddiaduraeth • Cysylltiadau Cyhoeddus: Cyfathrebu Strategol Blwyddyn 2 • Damcaniaethu’r Cyfryngau • Diwylliannau'r Cyfryngau Cymdeithasol • Ymchwilio i Destun, Proses a Chynulleidfaoedd Blwyddyn 3 • Cyfryngu'r 21ain Ganrif • Newyddiaduraeth Ar-lein • Paradeimau Newyddiaduraeth • Paratoi ar gyfer y Traethawd Estynedig

CyfleoeddByd-eang ar gael

BA Anrhydedd Sengl ▲  Newyddiaduraeth, Y Cyfryngau a Chyfathrebu ♦  Newyddiaduraeth, Y Cyfryngau a Chyfathrebu (gyda Blwyddyn Dramor)

Rhestrir ymanylion llawnynyGrid Cyfeirnodi Cyrsiau (tudalen 142)

CYNNIG NODWEDDIADOL: BBB (gan gynnwys Ffiseg neu Fathemateg)

▲ 3 BLYNEDD ♦ 4 BLYNEDD Am y codau UCAS unigol, gweler tudalen we’r cwrs

Rhestrir y manylion llawn am y gofyniad mynediad a nodweddion y cwrs yn y Grid Cyfeirnodi Cyrsiau (tudalen 142)

BSc Anrhydedd Sengl ▲ Gwyddor Gofal Iechyd (Ffiseg Radiotherapi) ▲ Gwyddor Gofal Iechyd (Ffiseg Ymbelydredd) ▲ Gwyddor Gofal Iechyd (Meddygaeth Niwclear) ▲ 3 BLYNEDD Am y codau UCAS unigol, gweler tudalen we’r cwrs

GYRFAOEDD POSIB: • Busnes • Cyhoeddi • Cysylltiadau Cyhoeddus a Marchnata

• M archnata Digidol • Newyddiaduraeth • Teledu a Radio • Y Cyfryngau

GYRFAOEDD POSIB: Cyflog cychwynnol y GIG i Wyddonwyr Gofal Iechyd yw £24,214 (Band 5). Mae enillion gyrfa nodweddiadol yn cynyddu i £43,772. Gall ymgynghorydd yn y GIG ennill hyd at £102,506. Gall cyflogau amrywio'n sylweddol yn y sector preifat. *Mae 100% o'n myfyrwyr Gwyddorau Gofal Iechyd wedi cyflogi mewn swyddi proffesiynol neu rheoli o fewn chwe mis ar ôl graddio (Cyrchfannau Ymadawyr Addysg Uwch 2018)

MAE ACHREDIADAU’N CYNNWYS:

† Modiwlau ym mlwyddyn 2 a 3 yn bwnc penodol ac yn amrywio yn ōl y rhaglen radd

Am fanylion llawn y cwrs, gan gynnwys rhestr fodiwl llawn, gweler: abertawe.ac.uk/israddedig/cyrsiau

Am fanylion llawn y cwrs, gan gynnwys rhestr fodiwl llawn, gweler: abertawe.ac.uk/israddedig/cyrsiau

108

109

109

Made with FlippingBook - Online magazine maker