Prosbectws-Israddedig-2021-Prifysgol-Abertawe

NIWROFFISIOLEG CAMPWS PARC SINGLETON

NYRSIO CAMPWS PARC SINGLETON

NYRSIO (Canllaw i Brifysgolion The Guardian 2020) YN Y DU 7 FED

% CYFLOGADWYEDD GRADDEDIGION* (Cyrchfannau Ymadawyr Addysg Uwch 2018)

Mae ein gradd mewn Niwroffisioleg yn rhoi'r hyfforddiant arbenigol sydd ei angen arnat i ddiagnosio ac yn trin pobl ag anhwylderau niwrolegol fel strôc, epilepsi, sglerosis ymledol, dementia. Mae’n cyfuno gwaith academaidd â phrofiad clinigol. Fe fyddi di’n defnyddio’r offer diagnostig diweddaraf a chymwysiadau meddalwedd yn ein cyfleusterau ardderchog ac yn datblygu dy sgiliau ar leoliadau gwaith mewn ysbytai ledled Cymru.

Bydd ein cwrs gradd Nyrsio a gydnabyddir yn rhyngwladol yn rhoi'r sgiliau a'r profiad sydd eu hangen arnat i lansio gyrfa werth chweil. Bydd ein cwrs nyrsio oedolion yn dysgu ti am anghenion cyfannol pobl o oedolaeth gynnar i henaint, tra ein cwrs nyrsio plant yn dysgu ti am anghenion iechyd a llesiant holistaidd plant, pobl ifanc a'u teuluoedd. Bydd ein cwrs Nyrsio Iechyd Meddwl yn rhoi'r wybodaeth ddamcaniaethol ac ymarferol sydd ei hangen arnat i ddarparu gofal nyrsio tosturiol o safon uchel i bobl sy'n delio â salwch meddwl, yn ogystal â rhoi cymorth i'w teuluoedd.

DIM FFIOEDD DYSGU Myfyrwyr yDUa’rUE** Gwna gais am becyn cymorth ychwanegol drwy gynllun Bwrsariaeth GIG Cymru. (**amodau yn berthnasol) abertawe.ac.uk/benthyciadau-a- grantiau/cwrs-a-ariennir-gan-y-gig

DIM FFIOEDD DYSGU Myfyrwyr yDUa’rUE** Gwna gais am becyn cymorth ychwanegol drwy gynllun Bwrsariaeth GIG Cymru. (**amodau yn berthnasol) abertawe.ac.uk/benthyciadau-a- grantiau/cwrs-a-ariennir-gan-y-gig

Caiff y cwrs ei achredu gan yr Ysgol Genedlaethol Gwyddorau Gofal Iechyd ac mae llawer o'n staff academaidd yn gweithio fel gwyddonwyr gofal iechyd ac yn ymgymryd â gwaith ymchwil hefyd, gan gynnig cyfuniad heb ei ail o drylwyredd gwyddonol ac arbenigedd proffesiynol. Mae ein cyfleusterau ardderchog yng Ngholeg y Gwyddorau Dynol ac Iechyd yn cynnwys ystafell glinigol realistig sy'n dy alluogi i roi dy wybodaeth ddamcaniaethol ar waith mewn amgylchedd sy'n adlewyrchu'r amodau gwirioneddol y byddi'n eu hwynebu pan wyt ti'n mynd ar leoliad. Fel myfyriwr niwroffisioleg, byddi di’n treulio tua hanner dy gwrs ar leoliadau gwaith clinigol ledled Cymru, a fydd yn darparu’r sgiliau sydd eu hangen arnat i ddechrau dy yrfa.

FEL ARFER MAE’R MEYSYDD SY’N CAEL EU HASTUDIO’N CYNNWYS: Blwyddyn 1 • Anatomi a ffisioleg ar gyfer gwyddorau gofal iechyd • Anatomi niwrosynhwyraidd, ffisioleg a phathoffisioleg • Gwyddor niwrosynhwyraidd • Hanfodion mathemateg a ffiseg ar gyfer y gwyddorau gofal iechyd • Mesur a thriniaeth glinigol niwrosynhwyraidd • Pathoffisioleg ar gyfer gwyddorau gofal iechyd • Ymarfer proffesiynol Blwyddyn 2 • Niwroanatomi a ffisioleg • Niwroffisioleg ac offerwaith cymhwysol • Niwroffisioleg glinigol • Potensial wedi’i ysgogi • Prosesu a delweddu arwyddion offerwaith Blwyddyn 3 • EEG annormal a dehongli • Niwropatholeg • Prosiect ymchwil gwyddorau gofal iechyd

Bydd hanner y cwrs yn cael ei addysgu yn y brifysgol a'r hanner arall mewn lleoliadau gofal iechyd ar draws de-orllewin Cymru, gan gynnwys lleoliadau yn y GIG a'r sector annibynnol mewn ysbytai a lleoliadau cymunedol. Byddi di’n datblygu'r sgiliau proffesiynol i roi gofal nyrsio o ansawdd uchel mewn amrywiaeth o leoliadau clinigol a chymunedol, yn aml yn gweithio fel rhan o dîm amlddisgyblaeth ar draws y sectorau iechyd a gofal cymdeithasol. Mae ein staff academaidd yn cynnwys nyrsys, meddygon a gweithwyr iechyd proffesiynol perthynol i iechyd cymwysedig, y mae llawer ohonynt yn gweithio fel clinigwyr hefyd, gan ddarparu cyfuniad heb ei ail o drylwyredd damcaniaethol, dealltwriaeth broffesiynol ac arbenigedd ymarferol ac ein cyfleusterau ardderchog gan gynnwys ystafell glinigol realistig.

FEL ARFER MAE’R MEYSYDD SY’N CAEL EU HASTUDIO’N CYNNWYS: Blwyddyn 1 • Beth yw nyrsio ? • Cyflwyniad i sylfeini ymarfer nyrsio • Cyflwyniad i ymarfer proffesiynol • Datblygu gwybodaeth nyrsio • Dysgu sut i ddysgu mewn Addysg Uwch ac ymarfer clinigol Blwyddyn 2 • Cyflyrau gydol oes a gofal lliniarol • Datblygu ymarfer nyrsio • Gofal aciwt • Hybu iechyd ac iechyd cyhoeddus Blwyddyn 3 • Arweinyddiaeth a rheoli • Atgyfnerthu ymarfer nyrsio • Rheoli gofal cymhleth mewn sefyllfaoedd sy’n newid yn gyflym • Ymestyn ymarfer nyrsio proffesiynol

CyfleoeddByd-eang ar gael

CyfleoeddByd-eang ar gael Ysgoloriaethau/ Bwrsariaethau Cymraeg ar gael

Rhestrir ymanylion llawnynyGrid Cyfeirnodi Cyrsiau (tudalen 142)

Rhestrir ymanylion llawnynyGrid Cyfeirnodi Cyrsiau (tudalen 142)

CYNNIG NODWEDDIADOL: BBB (gan gynnwys Bioleg, Cemeg, Ffiseg neu Fathemateg)

CYNNIG NODWEDDIADOL: BBB

Rhestrir y manylion llawn am y gofyniad mynediad a nodweddion y cwrs yn y Grid Cyfeirnodi Cyrsiau (tudalen 142)

Rhestrir y manylion llawn am y gofyniad mynediad a nodweddion y cwrs yn y Grid Cyfeirnodi Cyrsiau (tudalen 142)

BSc Anrhydedd Sengl ▲  Gwyddor Gofal Iechyd (Niwroffisioleg) ▲ 3 BLYNEDD Am y codau UCAS unigol, gweler tudalen we’r cwrs

BSc Anrhydedd Sengl ▲ Nyrsio (Iechyd Meddwl) ▲  Nyrsio (Oedolion) (Campws Singleton Abertawe neu Gaerfyrddin) ▲ Nyrsio (Plant)

▲ 3 BLYNEDD Llawn-amser ♦ 4 BLYNEDD Rhan-amser Am y codau UCAS unigol, gweler tudalen we’r cwrs

GYRFAOEDD POSIB: Cyflog cychwynnol y GIG i Wyddonwyr Gofal Iechyd yw £24,214 (Band 5). Mae enillion gyrfa nodweddiadol yn cynyddu i £43,772. Gall ymgynghorydd yn y GIG ennill hyd at £102,506. Gall cyflogau amrywio'n sylweddol yn y sector preifat.

GYRFAOEDD POSIB: Mae rhagolygon swydd yn ardderchog, gyda 100% o’n graddedigion nyrsio wedi cyflogi mewn swydd broffesiynol neu reolaethol ymhen chwe mis (Cyrchfannau Ymadawyr Addysg Uwch 2018). Cyflog cychwynnol y GIG i Nyrsys yw £24,214 (Band 5). Mae enillion gyrfa nodweddiadol yn cynyddu i £43,772.

*100% o'n myfyrwyr Gwyddorau Gofal Iechyd wedi cyflogi mewn swyddi proffesiynol neu rheoli o fewn chwe mis ar ôl graddio (Cyrchfannau Ymadawyr Addysg Uwch 2018)

MAE ACHREDIADAU’N CYNNWYS:

MAE ACHREDIADAU’N CYNNWYS:

Am fanylion llawn y cwrs, gan gynnwys rhestr fodiwl llawn, gweler: abertawe.ac.uk/israddedig/cyrsiau

Am fanylion llawn y cwrs, gan gynnwys rhestr fodiwl llawn, gweler: abertawe.ac.uk/israddedig/cyrsiau

110

111

Made with FlippingBook - Online magazine maker