Prosbectws-Israddedig-2021-Prifysgol-Abertawe

BlwyddynSylfaen ar gael CyfleoeddByd-eang ar gael Ysgoloriaethau/ Bwrsariaethau Cymraeg ar gael PEIRIANNEG GYFFREDINOL (Tabl Cynghrair Prifysgolion The Guardian 2020) YN Y DU 9 FED

BlwyddynSylfaen ar gael CyfleoeddByd-eang ar gael Ysgoloriaethau/ Bwrsariaethau Cymraeg ar gael FED YN Y DU 6 RHAGOLYGON GRADDEDIGION (Tabl Cynghrair Prifysgol The Guardian 2020) ED

PEIRIANNEG: FECANYDDOL CAMPWS Y BAE

PEIRIANNEG: FEDDYGOL CAMPWS Y BAE

Mae peirianwyr mecanyddol yn trawsnewid syniadau arloesol yn ddyfeisiadau sy'n torri tir newydd. Mae'r ddisgyblaeth yn helpu i ddyfeisio, dylunio a chynhyrchu llawer o'r peiriannau a ddefnyddiwn yn feunyddiol. Mae’r cwrs hwn yn dy baratoi ar gyfer gyrfa sy'n llawn boddhad mewn amrywiaeth o sectorau peirianneg.

Mae Peirianneg Feddygol yn cymhwyso egwyddorion peirianneg at y corff dynol, er mwyn gweithio tuag at fath soffistigedig a phersonol o ofal iechyd yn y dyfodol. Mae'n cyfuno peirianneg â'r offerynnau a ddefnyddir mewn meddygaeth fodern, gyda'r nod o greu technolegau newydd pwysig a fydd yn cael effaith ar fywydau pob un ohonom ac yn ymestyn ein hoes. Gelli fod wrth wraidd y cyfan.

Fel myfyriwr yn astudio ar gyfer ein gradd mewn Peirianneg Fecanyddol, byddi’n meithrin y sgiliau sydd eu hangen arnat i ddilyn gyrfa fuddiol mewn amrywiaeth o sectorau peirianyddol, gan gynnwys peirianneg fodurol, peirianneg fecanyddol a pheirianneg ddylunio. Wrth i ti fynd yn dy flaen drwy'r cwrs, bydd y galluoedd dadansoddol y byddi di’n eu datblygu yn cyfuno â phrofiad ymarferol o ddefnyddio cyfarpar soffistigedig, gan feithrin sgiliau sy'n hanfodol i sicrhau cyflogaeth mewn diwydiant ehangach. Byddi di’n gweithio'n agos â'n cyfleusterau o'r radd flaenaf drwy gydol dy amser yn Abertawe. Ymhlith y rhain mae labordy mecaneg dynameg, labordy hylifau a'n hystafell profi injan JetCat P120. Mae gennym hefyd unedau sydd ar flaen y gad ym maes gweithgynhyrchu digidol a roboteg.

FEL ARFER MAE’R MEYSYDD SY’N CAEL EU HASTUDIO’N CYNNWYS: Blwyddyn 1 • Cynaliadwyedd Peirianneg • Dosbarthiadau Dylunio a Labordy • Dylunio Peirianegol • Mecaneg Hylifol • Thermodynameg Blwyddyn 2 • Dylunio Elfennau Peiriannau • Dadansoddi Diriant • Peirianneg â Chymorth Cyfrifiadur • Systemau Dynameg • Technoleg Gweithgynhyrchu Blwyddyn 3 • Cinemateg a Rhaglenni ar gyfer Roboteg • Dylunio Peirianneg Fecanyddol • Gweithgynhyrchu Optimeddiad

Mae ein cwrs yn dy baratoi ar gyfer gyrfa sy'n llawn boddhad mewn amrywiaeth o sectorau. Byddi di’n meithrin sgiliau craidd peirianneg gan ddysgu am anatomeg, ffisioleg a chyfathrebu â chlinigwyr. Wrth i ti fynd yn dy flaen drwy'r cwrs, bydd y galluoedd dadansoddol a datrys problemau y byddi di’n eu datblygu yn cyfuno â phrofiad ymarferol o ddefnyddio dyfeisiau ac offerynnau meddygol diwydiannol, gan feithrin sgiliau sy'n hanfodol i weithio yn y diwydiant ehangach. Mae tair prif thema i'n graddau mewn Peirianneg Feddygol: Biomecaneg a deunyddiau – datblygu a dadansoddi deunyddiau er mwyn iddynt fod yn gryf ac yn fiogydnaws Offeryniaeth – meintoli technegau diagnostig a therapiwtig uwch Biobrosesau – manylu ar brosesau ffisegol, cemegol a biolegol pwysig yn y corff dynol

FEL ARFER MAE’R MEYSYDD SY’N CAEL EU HASTUDIO’N CYNNWYS: Blwyddyn 1 • Cyflwyniad i Beirianneg Ddeunyddiau • Dulliau Rhifiadol ar gyfer Peirianwyr Biofeddygol • Ffisioleg Ddynol • Gwyddor Peirianneg Gemegol • Systemau Niwrogyhyrysgerbydol Dynol Blwyddyn 2 • Bioleg Celloedd a Mecaneg Celloedd i Beirianwyr • Dulliau Ystadegol mewn Peirianneg • Dylunio Peirianneg Feddygol • Llif Hylifol • Modelu Proses Blwyddyn 3 • Dylunio â Chymorth Cyfrifiadur

Rhestrir ymanylion llawnynyGrid Cyfeirnodi Cyrsiau (tudalen 143)

Rhestrir ymanylion llawnynyGrid Cyfeirnodi Cyrsiau (tudalen 143)

GYRFAOEDD POSIB: • Gwyddonydd ymchwil feddygol • Peiriannydd adsefydlu • Peiriannydd bioddeunyddiau • Peiriannydd biofeddygol • Peiriannydd dylunio prosthetigau • Peiriannydd/gwyddonydd clinigol ▲ 3 BLYNEDD ♦ 4 BLYNEDD H 5 BLYNEDD Am y codau UCAS unigol, gweler tudalen we’r cwrs BEng Anrhydedd Sengl ▲ Peirianneg Feddygol ♦ Peirianneg Feddygol (gyda Blwyddyn mewn Diwydiant / Dramor) ♦ Peirianneg Feddygol (gyda Blwyddyn Sylfaen) MEng Anrhydedd Sengl ♦ Peirianneg Feddygol H Peirianneg Feddygol (gyda Blwyddyn mewn Diwydiant / Dramor) CYNNIG NODWEDDIADOL: BEng: ABB-BBB (gan gynnwys Mathemateg) MEng: AAB-ABB (gan gynnwysMathemateg) Rhestrir y manylion llawn am y gofyniad mynediad a nodweddion y cwrs yn y Grid Cyfeirnodi Cyrsiau (tudalen 143)

CYNNIG NODWEDDIADOL: BEng: ABB-BBB (gan gynnwys Mathemateg) MEng: AAB-ABB (gan gynnwysMathemateg) Rhestrir y manylion llawn am y gofyniad mynediad a nodweddion y cwrs yn y Grid Cyfeirnodi Cyrsiau (tudalen 143) BEng Anrhydedd Sengl ▲ Peirianneg Fecanyddol ♦ Peirianneg Fecanyddol (gyda Blwyddyn mewn Diwydiant / Dramor) ♦ Peirianneg Fecanyddol (gyda Blwyddyn Sylfaen) MEng Anrhydedd Sengl ♦ Peirianneg Fecanyddol H Peirianneg Fecanyddol (gyda Blwyddyn mewn Diwydiant / Dramor) ▲ 3 BLYNEDD ♦ 4 BLYNEDD H 5 BLYNEDD Am y codau UCAS unigol, gweler tudalen we’r cwrs

• Mecaneg Hylifol • Rheoli Peirianneg

• Peirianneg Meinweoedd • Prosiect Dylunio Grŵp Peirianneg Feddygol • Rheoli Peirianneg • Technolegau Mewnblaniadau a Phrosthetig

GYRFAOEDD POSIB: • Peiriannydd cynnal a chadw • Peiriannydd mecanyddol • Peiriannydd modurol • Peiriannydd mwyngloddio • Technegydd gweithdy

MAE ACHREDIADAU’N CYNNWYS:

MAE ACHREDIADAU’N CYNNWYS:

Am fanylion llawn y cwrs, gan gynnwys rhestr fodiwl llawn, gweler: abertawe.ac.uk/israddedig/cyrsiau

Am fanylion llawn y cwrs, gan gynnwys rhestr fodiwl llawn, gweler: abertawe.ac.uk/israddedig/cyrsiau

117 17

116

Made with FlippingBook - Online magazine maker