Prosbectws-Israddedig-2021-Prifysgol-Abertawe

BlwyddynSylfaen ar gael CyfleoeddByd-eang ar gael Ysgoloriaethau/ Bwrsariaethau Cymraeg ar gael PEIRIANNEG GEMEGOL (Canllaw Prifysgolion Da, The Times and Sunday Times 2020) YN Y DU 7 FED

PEIRIANNEG: GEMEGOL CAMPWS Y BAE

Mae ein gradd Peirianneg Gemegol yn darparu hyfforddiant arbenigol mewn peirianneg proses fodern, gan ddatblygu sgiliau dadansoddi a datrys problemau sy'n hanfodol i gymhwyso peirianneg i ddiwydiant. Mae peirianwyr cemegol yn cydweithio'n agos â phrosesau sy'n troi deunyddiau crai yn gynhyrchion gwerthfawr i'w defnyddio gan bobl. Mae eu medrau yn sicrhau bod adnoddau naturiol yn cael eu defnyddio'n gynaliadwy, a bod gwaredu cynhyrchion yn cael ei gynnal mewn modd diogel ac yn gyfrifol.

Mae'r cwrs gradd a achredir yn broffesiynol yn darparu gwybodaeth a sgiliau ar draws y sbectrwm llawn o bynciau peirianneg cemegol, sy'n caniatáu i ti gadw'th opsiynau gyrfa ar agor. Wrth i ti symud ymlaen, bydd dy alluoedd dadansoddol cynyddol yn cyfuno â phrofiad ymarferol, gan sefydlu sgiliau sy'n hanfodol i sicrhau cyflogaeth yn y diwydiant peirianneg gemegol ehangach. Mae ein Labordy Cemegol Peilot yn cynnwys 15 o lwyfannau ar raddfa peilot sy'n cwmpasu ystod eang o weithrediadau uned. Ymhlith y cyfleusterau eraill o'r radd flaenaf y byddi di’n gweithio â nhw o bosibl mae microsgopeg grym atomig, llwyfannau eplesu, cyseiniant plasmon arwyneb a phrofion adlyniad croeswasgu hydrodynamig.

Rhestrir ymanylion llawnynyGrid Cyfeirnodi Cyrsiau (tudalen 143)

FEL ARFER MAE’R MEYSYDD SY’N CAEL EU HASTUDIO’N CYNNWYS: Blwyddyn 1 • Egwyddorion Prosesau Cemegol • Labordy Peirianneg Gemegol ac Amgylcheddol • Mecaneg Hylifol • Sgiliau Peirianneg Gemegol • Trosglwyddo Gwres Blwyddyn 2 • Dylunio Adweithyddion • Gweithrediadau Proses a Chyfarpar Peilot • Llif Hylifol • Peirianneg Fiocemegol • Prosesau Gwahanu Blwyddyn 3 • Diogelwch ac Atal Colledion • Dylunio, Dethol a Rheoli Cyfarpar Prosesu • Prosiect Dylunio Peirianneg Gemegol • Systemau Gronynnol • Technolegau Ynni Carbon Isel

CYNNIG NODWEDDIADOL: BEng: ABB-BBB (gan gynnwys Mathemateg) MEng: AAB-ABB (gan gynnwysMathemateg) Rhestrir y manylion llawn am y gofyniad mynediad a nodweddion y cwrs yn y Grid Cyfeirnodi Cyrsiau (tudalen 143) BEng Anrhydedd Sengl ▲ Peirianneg Gemegol ♦ Peirianneg Gemegol (gyda Blwyddyn mewn Diwydiant / Dramor) ♦ Peirianneg Gemegol (gyda Blwyddyn Sylfaen) MEng Anrhydedd Sengl ♦ Peirianneg Gemegol H Peirianneg Gemegol (gyda Blwyddyn mewn Diwydiant / Dramor) ▲ 3 BLYNEDD ♦ 4 BLYNEDD H 5 BLYNEDD Am y codau UCAS unigol, gweler tudalen we’r cwrs

Rydw i mor hapus wnes i benderfynu astudio ym Mhrifysgol Abertawe. Rwyf wedi cwrdd â phobl anhygoel ac wedi gwneud ffrindiau o bob cwr o'r byd. Mae'r bobl yma mor groesawgar, rwyt ti'n teimlo'n gartrefol. Mae'r gefnogaeth wedi bod yn anhygoel, p'un ai gan fy mentor academaidd, darlithwyr neu wasanaethau cymorth myfyrwyr. Os wyt ti'n ei chael hi'n anodd deall rhywbeth yn y dosbarth, bydd y darlithwyr yn trafod y mater yn ystod oriau swyddfa ac yn sicrhau bod gennyt ti well dealltwriaeth. Rydw i wedi gwneud cymaint o atgofion yma: o astudio trwy'r nos yn y llyfrgell i ddathlu gyda noson fawr allan; ymlacio ar y traeth rhwng darlithoedd neu'n mynd am dro gyda'r nos a gweld fy seren wib gyntaf! Mae Peirianneg Gemegol yn gwrs heriol iawn, ond mae'r Brifysgol yn darparu'r holl adnoddau a chefnogaeth sydd eu hangen arnat i ddilyn y llwybr gyrfa o'th ddewis.

GYRFAOEDD POSIB: • Gwyddonydd datblygu

cynhyrchion/prosesau • Peiriannydd cemegol • Peiriannydd cymwysiadau • Peiriannydd petrolewm • Peiriannydd ynni • Rheolwr peiriannau technegol

MAE ACHREDIADAU’N CYNNWYS:

BEng PEIRIANNEG GEMEGOL

I ddysgu mwy am ein storïau myfyrwyr, gweler: a bertawe.ac.uk/astudio/ ein-storiau-myfyrwyr

Am fanylion llawn y cwrs, gan gynnwys rhestr fodiwl llawn, gweler: abertawe.ac.uk/israddedig/cyrsiau

19

118

119

Made with FlippingBook - Online magazine maker