BlwyddynSylfaen ar gael CyfleoeddByd-eang ar gael Ysgoloriaethau/ Bwrsariaethau Cymraeg ar gael RHAGOLYGON GRADDEDIGION (Tabl Cynghrair Prifysgolion The Guardian 2020) DU 2 AIL YN Y
PEIRIANNEG: GWYDDOR DEUNYDDIAU A PHEIRIANNEG CAMPWS Y BAE
BlwyddynSylfaen ar gael CyfleoeddByd-eang ar gael Ysgoloriaethau/ Bwrsariaethau Cymraeg ar gael RHAGOLYGON GRADDEDIGION (Tabl Cynghrair Prifysgolion The Guardian 2020) YN Y DU 3 YDD Rhestrir ymanylion llawnynyGrid Cyfeirnodi Cyrsiau (tudalen 143)
PEIRIANNEG: SIFIL CAMPWS Y BAE
Mae Gwyddoniaeth Deunyddiau a Pheirianneg yn archwilio sut y gellir rheoli eiddo'r mater. Mae'n cynnwys elfennau o ffiseg a chemeg, gan gysylltu'n agos â'r rhan fwyaf o feysydd peirianneg eraill. Bydd y radd hon yn dy baratoi ar gyfer gyrfa werth chweil ar draws sectorau peirianneg, gan gynnwys awyrofod, modurol, gweithgynhyrchu, chwaraeon a chynhyrchu ynni.
Mae'r cwrs gradd hwn yn rhoi sylfaen gadarn i ti ym maes dylunio a dadansoddi strwythurau peirianneg sifil. Byddi di’n meithrin sgiliau datrys problemau cymhleth a'r gallu i fraslunio a modelu datrysiadau peirianneg ac yn dod yn gyfforddus wrth baratoi adroddiadau technegol. Bydd y galluoedd dadansoddol y byddi di’n eu datblygu yn cyfuno â phrofiad ymarferol o ddefnyddio cyfarpar o'r radd flaenaf, gan feithrin sgiliau sy'n hanfodol i sicrhau cyflogaeth mewn diwydiant peirianneg sifil.
Wrth i ti symud ymlaen, bydd dy alluoedd dadansoddol datblygol yn cyfuno â phrofiad ymarferol o offer uwch, gan sefydlu sgiliau sy'n hanfodol i sicrhau cyflogaeth yn y diwydiant ehangach. Ymhlith ein cyfleusterau o'r radd flaenaf mae cyfarpar blaenllaw ar gyfer pennu nodweddion priodweddau mecanyddol deunyddiau metelaidd, ceramig, polymerig a chyfansawdd. Mae gennym hefyd amrywiaeth helaeth o labordai sy'n cynnwys microsgopau sganio electronau sydd â galluoedd micro-ddadansoddiad a diffreithiant ôl-wasgariad electronau llawn. Bydd ymweliadau â Tata Steel, Timet, Ensinger ac Airbus yn gyfle i gael profiad o ddiwydiant go iawn.
FEL ARFER MAE’R MEYSYDD SY’N CAEL EU HASTUDIO’N CYNNWYS: Blwyddyn 1 • Adnoddau Deunyddiau • Cemeg Offerynnol a Dadansoddi • Cyflwyniad i Beirianneg Deunyddiau • Priodweddau mecanyddol deunyddiau Blwyddyn 2 • Anffurfiad Mecanyddol mewn Deunyddiau Adeileddol • Deunyddiau Cyfrifiadurol • Deunyddiau Gweithredol a Chlyfar • Esblygiad a rheolaeth micro- strwythurau mewn deunyddiau metelaidd • Polymerau; strwythurau a phrosesau Blwyddyn 3 • Ceramig • Hollt a Lludded • Meteleg Ffisegol o Ddur • Micro-strwythurau a Nodweddu • Rheoli Peirianneg
Drwy astudio gradd fodern sydd â chysylltiadau agos â'r diwydiant sy'n datblygu'n gyflym, byddi di’n dysgu am arferion dylunio presennol a'r safonau peirianneg diweddaraf. Byddwn yn meithrin dy sgiliau modelu ar gyfrifiadur drwy dy annog i ddatblygu dy feddalwedd dy hun er mwyn dadansoddi problemau peirianneg sifil go iawn. Byddi di’n cael budd o weithio â chyfleusterau soffistigedig gan gynnwys labordai o'r radd flaenaf ar gyfer addysgu strwythurau a phrofi deunyddiau. Mae ein labordy hylifau yn cynnwys cafn arbrofi pum metr o hyd a labordy geomecaneg. Mae'n bosibl y byddi hefyd yn defnyddio ein camerâu cyflym soffistigedig ar gyfer dadansoddi straen a delweddu 3D.
FEL ARFER MAE’R MEYSYDD SY’N CAEL EU HASTUDIO’N CYNNWYS: Blwyddyn 1 • Cynaliadwyedd Peirianneg • Dylunio ac Arolygu Priffyrdd • Dylunio Cysyniadol • Labordy Sifil • Mecaneg Beirianegol Blwyddyn 2 • Dylunio Concrit Cyfnerth • Mecaneg Beirianegol • Mecaneg Bridd Sylfaenol • Mecaneg Hylifol • Rheoli Peirianneg Blwyddyn 3 • Dull Elfen Feidraidd • Dylunio Uwch-adeileddau • Geomecaneg • Prosesau Arfordirol a Pheirianneg • Prosiect Ymchwil
Rhestrir ymanylion llawnynyGrid Cyfeirnodi Cyrsiau (tudalen 143)
CYNNIG NODWEDDIADOL: BEng: ABB-BBB MEng: AAB-ABB
GYRFAOEDD POSIB: • Peiriannydd geodechnegol • Peiriannydd safle • Peiriannydd sifil Ymgynghorol • Peiriannydd strwythurol • Syrfëwr rheoli adeiladau • Syrfëwr meintiau ▲ 3 BLYNEDD ♦ 4 BLYNEDD H 5 BLYNEDD Am y codau UCAS unigol, gweler tudalen we’r cwrs BEng Anrhydedd Sengl ▲ Peirianneg Sifil ♦ Peirianneg Sifil (gyda Blwyddyn mewn Diwydiant / Dramor) ♦ Peirianneg Sifil (gyda Blwyddyn Sylfaen) MEng Anrhydedd Sengl ♦ Peirianneg Sifil H Peirianneg Sifil (gyda Blwyddyn mewn Diwydiant / Dramor) CYNNIG NODWEDDIADOL: BEng: ABB-BBB (gan gynnwys Mathemateg) MEng: AAB-ABB (gan gynnwysMathemateg) Rhestrir y manylion llawn am y gofyniad mynediad a nodweddion y cwrs yn y Grid Cyfeirnodi Cyrsiau (tudalen 143)
Rhestrir y manylion llawn am y gofyniad mynediad a nodweddion y cwrs yn y Grid Cyfeirnodi Cyrsiau (tudalen 143)
BEng Anrhydedd Sengl ▲ Gwyddor Deunyddiau a Pheirianneg ♦ Gwyddor Deunyddiau a Pheirianneg (gyda Blwyddyn mewn Diwydiant / Dramor) ♦ Gwyddor Deunyddiau a Pheirianneg (gyda Blwyddyn Sylfaen) MEng Anrhydedd Sengl ♦ Gwyddor Deunyddiau a Pheirianneg H Gwyddor Deunyddiau a Pheirianneg
(gyda Blwyddyn mewn Diwydiant / Dramor)
▲ 3 BLYNEDD ♦ 4 BLYNEDD H 5 BLYNEDD Am y codau UCAS unigol, gweler tudalen we’r cwrs
MAE ACHREDIADAU’N CYNNWYS:
GYRFAOEDD POSIB: • Gwyddonydd datblygu cynhyrchion • Gwyddonydd ymchwil • Metelegydd
MAE ACHREDIADAU’N CYNNWYS:
• Peiriannydd biofeddygol • Peiriannydd deunyddiau • Peiriannydd systemau gweithgynhyrchu
Am fanylion llawn y cwrs, gan gynnwys rhestr fodiwl llawn, gweler: abertawe.ac.uk/israddedig/cyrsiau
Am fanylion llawn y cwrs, gan gynnwys rhestr fodiwl llawn, gweler: abertawe.ac.uk/israddedig/cyrsiau
120
121
Made with FlippingBook - Online magazine maker