Prosbectws-Israddedig-2021-Prifysgol-Abertawe

ACADEMI

Mae gan Brifysgol Abertawe ddarpariaeth eang a chyffrous ar gyfer myfyrwyr sy’n dymuno astudio cwrs gradd yn gyflawn neu’n rhannol trwy gyfrwng y Gymraeg ac mae Academi Hywel Teifi yma i’th gefnogi i wneud hynny trwy gydol dy amser gyda ni. Bydd parhau i astudio trwy’r Gymraeg wedi i ti adael yr ysgol neu’r coleg nid yn unig yn rhoi mantais i ti yn dy astudiaethau ond hefyd yn rhoi mantais i ti o ran dy gyflogadwyedd. Mae cyfleoedd ar gael i fyfyrwyr sy’n rhugl ac yn hyderus yn yr iaith yn ogystal ag i’r rhai sy’n llai hyderus neu sy’n ddysgwyr. Mae cyfleoedd i ti astudio cymaint ag y gelli o fewn dy bwnc trwy gyfrwng y Gymraeg, neu i fanteisio ar ambell fodiwl neu ddarlith, ac fe gei gefnogaeth ac anogaeth lawn. Mae hawl gen ti gyflwyno dy waith cwrs ac i sefyll dy arholiadau yn y Gymraeg, hyd yn oed os wyt ti wedi dewis dilyn cyrsiau cyfrwng Saesneg. Gweler ein Grid Cyfeirnodi Cyrsiau ar dudalennau 134-144 i ddarganfod beth sydd ar gael fesul pwnc. GWOBR ACADEMI HYWEL Mae Gwobr Academi Hywel Teifi yn gwobrwyo myfyrwyr sy'n cyfrannu at fywyd a gweithgareddau diwylliannol ac academaidd Cymraeg ym Mhrifysgol Abertawe. Mae’r wobr yn cydnabod rôl, cyfraniad a llwyddiannau sy’n ymwneud â chefnogi, hyrwyddo a dathlu’r cyd-destun Cymraeg a Chymreig. Bydd y Wobr yn cael ei chofnodi ar dy dystysgrif gradd.

Megan Fflur Colbourne, Swyddog Materion Cymraeg, Undeb y Myfyrwyr

Lawrlwytha ap Arwain er mwyn derbyn y diweddaraf am ein cyrsiau a’n modiwlau cyfrwng Cymraeg, ynghŷd â gwybodaeth am y gefnogaeth ariannol gan Academi Hywel Teifi a’r Coleg Cymraeg Cenedlaethol. Cei wybodaeth hefyd am y cyfleoedd i fyw a chymdeithasu yn y Gymraeg tra’n astudio yma.

Fy mhrif rôl fel Swyddog Materion Cymraeg yw cynrychioli’r gymuned Gymraeg o fewn y Brifysgol. O ddydd i ddydd rwyf yn sicrhau bod llais y myfyrwyr yn cael ei glywed o fewn yr Undeb a’r Brifysgol. Ystyriaf fy hun fel prif gyswllt y myfyrwyr mewn perthynas â materion Cymraeg a gallant ddod ataf gydag unrhyw gwestiynau neu awgrymiadau am eu profiadau yn y Brifysgol. Dwi am ymdrechu i sicrhau bod bywyd myfyrwyr Cymraeg yn y Brifysgol yn llawn hwyl a bod yna ddigon o gyfleoedd Cymraeg ar gael iddynt, a’u bod yn derbyn yr un statws â phob myfyriwr arall.

abertawe.ac.uk/academi-hywel-teifi

Am fanylion pellach, e-bostia astudio@abertawe.ac.uk

AcademiHywelTeifi

@AcademiHTeifi AcademiHTeifi AcademiHywelTeifi

24

25

Made with FlippingBook - Online magazine maker