Prosbectws-Israddedig-2021-Prifysgol-Abertawe

RHAGLEN PERFFORMIAD UCHEL Mae ein Rhaglen Perfformiad Uchel yn cynnig cymorth i athletwyr elît mewn ystod o gampau gwahanol. Cyflawnir pob rhaglen ar y cyd â chlwb chwaraeon proffesiynol neu gorff llywodraethu cenedlaethol ar gyfer partner chwaraeon. Ar hyn o bryd mae ein rhaglen yn cefnogi chwe champ ac mae’n tyfu bob blwyddyn. Mae pob camp yn derbyn hyfforddiant perfformiad uchel, gwasanaethau ym maes y gwyddorau chwaraeon, rheoli ffordd o fyw athletwyr, ffisiotherapi a chymorth cryfder a chyflyru. Ar hyn o bryd, dyma’r chwaraeon: Rygbi dynion a menywod, pêl-droed dynion, nofio, hoci dynion a menywod, pêl-rwyd, a thenis bwrdd. Mae’r Brifysgol yn cynnig Cynllun Ysgoloriaethau i Athletwyr Dawnus (TASS) i athletwyr dawnus iawn a phecyn cymorth gwerth hyd at £5,500 a allai gynnwys; hyfforddiant cryfder a chyflyru, ffisiotherapi, cymorth seicolegol a chyngor maethol – a darperir pob un ohonynt gan ymarferwyr cymwys. Ceir nifer o becynnau ysgoloriaeth, i gael rhagor o wybodaeth: abertawe.ac.uk/ysgoloriaethau

CHWARAEON CYSTADLEUOL Ni yw’r Brifysgol sy’n gwella gyflymaf yn nhablau Chwaraeon Prifysgolion a Cholegau Prydain (BUCS) ac rydym yn yr 18fed safle ar hyn o bryd yn nhabl 2018-19. Yn ystod 2018-19, gwnaethon ni ennill ein nifer uchaf o bwyntiau yng nghynghrair Chwaraeon Prifysgolion a Cholegau Prydain, ac adeiladu ar hyn ymhellach yn 2019-20 oherwydd bod ein perfformiadau’n gwella ac mae nifer o dimau’n tyfu. Ceir ystod eang o gyfleoedd i ti gynrychioli’r Brifysgol yn gystadleuol yng ngemau Chwaraeon Prifysgolion a Cholegau Prydain a chystadlaethau domestig allweddol oherwydd cei ymaelodi â dros 50 o glybiau chwaraeon. Mae ein clybiau’n cynnig ystod o sesiynau hyfforddi a arweinir gan hyfforddwyr i roi’r cyfle i ti gyflawni dy nodau o ran chwaraeon.

CHWARAEON

VARSITY Gemau’r Prifysgolion yw’r digwyddiad mwyaf i fyfyrwyr yng Nghymru, a’r ail fwyaf o blith Gemau Varsity Prifysgolion Prydain, tu ôl i’r gêm rhwng Rhydychen a Chaergrawnt. Yn ystod Gemau’r Prifysgolion, mae Prifysgol Abertawe a Phrifysgol Caerdydd yn cystadlu mewn dros 30 o gampau gwahanol, o bêl-fasged, rhwyfo, golff a hoci i gleddyfaeth, sboncen a Ffrisbi Eithafol. Gwylia uchafbwyntiau Gemau’r Prifysgolion y llynedd fan hyn: welshvarsity.com

Sgania i wylio:

VARSITY: ABERTAWE VS CAERDYDD

34

35

Made with FlippingBook - Online magazine maker