Prosbectws-Israddedig-2021-Prifysgol-Abertawe

CHWILIA AM Y SYMBOLAU CANLYNOL DRWYDDI DRAW YN NHUDALENNAU'R CYRSIAU: Ceir Cyfleoedd Byd-eang ar y cwrs hwn Ceir Llwybr Blwyddyn Sylfaen ar y cwrs hwn Ceir Cyfleoedd am Ysgoloriaethau Cymraeg ar y cwrs hwn Rhestrir y manylion llawn am y cyfleoedd hyn ar gyfer pob cwrs yn y grid cyfeirnodi cyrsiau (tudalennau 134 - 144)

Y DYNIAETHAU CAMPWS PARC SINGLETON

CYNNIG NODWEDDIADOL: Safon Uwch neu gyfwerth: CDD/DDD (gwnawn gynigion hyblyg yn dibynnu ar raddau a ragwelir) TGAU: Saesneg a Mathemateg gradd C o leiaf Mae Blwyddyn Sylfaen y Dyniaethau yn cynnig cyflwyniad arloesol a chyffrous i addysg uwch ac fe'i cynlluniwyd i ddarparu mynediad ehangach i radd anrhydedd achrededig yng Ngholeg y Celfyddydau a'r Dyniaethau. Byddwn yn dy gynorthwyo i gael y wybodaeth hanfodol a'r sgiliau allweddol, gan gynnwys y wybodaeth bynciol eang y bydd angen arnat i ffynnu a llwyddo yn dy radd. FEL ARFER MAE’R MEYSYDD SY’N CAEL EU HASTUDIO’N CYNNWYS: Cyflwyniad i Fod yn Ddynol, Cyflwyniad i Ymchwil ac Ymholiad Cymdeithasol, Datblygu Personol a Chyfathrebu, Prosiect Terfynol, Sgiliau Ysgrifennu Academaidd ac Astudio DILYNIANT I’R RHAGLENNI GRADD BA ANRHYDEDD SENGL CANLYNOL*: • A ddysg • A studiaethau Blynyddoedd Cynnar gyda Statws Ymarferydd Blynyddoedd Cynnar • Astudiaethau Americanaidd • Astudiaethau Canoloesol • Athroniaeth • Cyfryngau a Chyfathrebu • Cysylltiadau Cyhoeddus a’r Cyfryngau • Cysylltiadau Rhyngwladol • Eifftoleg • Gwareiddiad Clasurol • Gwleidyddiaeth (llwybr i Athroniaeth, Gwleidyddiaeth ac Economeg) • Hanes • Hanes yr Henfyd • Llenyddiaeth Saesneg •  Llenyddiaeth Saesneg gydag Ysgrifennu Creadigol (BA Prif Bwnc/Is-bwnc Anrhydedd) • Rhyfel a Chymdeithas • Saesneg Iaith • Y Clasuron

ANRHYDEDD SENGL Lle mae gennyt un prif bwnc, ond gelli hefyd ddewis modiwlau atodol yn ystod y flwyddyn gyntaf a'r ail flwyddyn fel arfer.

CYDANRHYDEDD Lle rwyt yn astudio dau bwnc yn gydradd â'i gilydd, ac fel arfer ni chei’r opsiwn i ddewis modiwlau atodol.

LLE BYDDI DI’N ASTUDIO

MYFYRIWR ISRADDEDIG Rhywun sy'n astudio am radd baglor, ond nid yw wedi'i chwblhau eto.

MYFYRIWR ÔL-RADDEDIG Rhywun sy'n gwneud astudiaeth bellach neu waith ymchwil, gradd meistr fel arfer ar ôl iddo gwblhau ei radd baglor tair neu bedair blynedd.

CAMPWS Y BAE

CAMPWS PARC SINGLETON

BLWYDDYN SYLFAEN Dyma lwybr mynediad amgen i gynllun gradd a elwir hefyd yn 'flwyddyn 0' (gweler tudalen 42)

YSGOLORIAETHAU Arian a ddyfernir ar sail dy gyflawniad academaidd. Nid oes angen talu ysgoloriaeth yn ôl ond mae angen i ti fodloni meini prawf penodol.

MATH O RADDAU BA – Baglor yn y Celfyddydau BSc – Baglor mewn Gwyddoniaeth BEng – Baglor mewn Peirianneg LLB – Baglor mewn Y Gyfraith LLM – Meistr mewn Y Gyfraith MEng – Meistr mewn Peirianneg MB BCh – Baglor mewn Meddygaeth MMath – Meistr mewn Mathemateg MPhys – Meistr mewn Ffiseg MSci – Meistr mewn Gwyddoniaeth

BWRSARIAETHAU A GRANTIAU

BENTHYCIAD I FYFYRWYR Arian a fenthycir o sefydliad allanol, megis Cwmni Benthyciadau i Fyfyrwyr neu Gyllid Myfyrwyr Cymru. Bydd angen i ti ad-dalu unrhyw fenthyciad yn ogystal â llog, ond ni fydd angen i ti wneud hynny nes dy fod wedi gorffen neu adael dy gwrs. Mae faint y byddi yn ei ad-dalu bob mis yn dibynnu ar dy incwm nid faint yr wyt wedi'i fenthyca.

Arian a ddyfarnwyd i'th alluogi i astudio mewn Prifysgol. Mae'r rhain fel arfer ar sail dy amgylchiadau personol, megis incwm. Nid oes angen eu talu yn ôl. Mae faint o arian y byddi yn ei gael fel arfer yn dibynnu ar incwm dy rieni a ble rwyt ti'n dewis byw ac astudio.

Am fanylion llawn y cwrs a chodau UCAS unigol gweler y rhestr o gyrsiau A-Z ar: abertawe.ac.uk/israddedig/cyrsiau a darganfydda’r radd a restrir ‘gyda Blwyddyn Sylfaen’ *Mae cwblhau’r flwyddyn sylfaen yn darparu dilyniant i’r rhaglenni gradd a restrwyd 46

47

Made with FlippingBook - Online magazine maker