Prosbectws-Israddedig-2021-Prifysgol-Abertawe

BODDHAD MYFYRWYR (Canllaw i Brifysgolion The Guardian 2020) YN Y DU 2 AIL

ADDYSG CAMPWS PARC SINGLETON

ASTUDIAETHAU AMERICANAIDD CAMPWS PARC SINGLETON

Mae UDA yn cael effaith uniongyrchol a pharhaus ar fywydau pob un ohonom. Mae'n dylanwadu ar ein diwylliant, ein heconomi a'n safbwynt gwleidyddol ac mae ei pholisi tramor yn effeithio ar ein dyfodol. Mae gwybod a deall natur America, ei thraddodiadau hanesyddol, diwylliannol a gwleidyddol, yn ein galluogi i ddeall y grymoedd gwirioneddol sy'n llywio'r ganrif hon yn llawnach.

Mae addysg yn ddisgyblaeth flaengar, a arweinir gan ymchwil, sy’n ymwneud â pholisi ac arfer o safbwynt byd-eang. Mae'n faes astudio sy'n datblygu'n gyflym, sy'n seiliedig ar ddisgyblaethau seicoleg, athroniaeth, hanes a'r gwyddorau cymdeithasol gan ganolbwyntio ar ddeall sut y mae pobl yn dysgu ac sut y mae strwythurau addysg yn meithrin dysgu gydol oes a datblygiad personol.

BlwyddynSylfaen ar gael CyfleoeddByd-eang ar gael Ysgoloriaethau/ Bwrsariaethau Cymraeg ar gael

BlwyddynSylfaen ar gael CyfleoeddByd-eang ar gael

Rhestrir ymanylion llawnynyGrid Cyfeirnodi Cyrsiau (tudalen 134)

Bydd y cwrs yn ymdrin ag addysg mewn llawer o leoliadau gwahanol gan gynnwys ysgolion, addysg bellach ac uwch, gwasanaethu cymdeithasol a llywodraeth leol a chenedlaethol. Mae cyflogadwyedd yn thema allweddol a chei gyfle i roi dy astudiaethau ar waith drwy amrywiaeth o leoliadau gwaith dewisol sy’n cynnwys ysgolion lleol. Fe fyddi di’n astudio'r theori sy'n gysylltiedig â dysgu, addysgu ac asesu ac yn ennill dealltwriaeth o ddylunio cwricwlwm. Bydd hefyd cyfle i astudio cysyniadau addysgu Saesneg fel iaith dramor sy'n canolbwyntio ar y sgiliau a all arwain at gyfleoedd i weithio yn unrhyw le yn y byd.

FEL ARFER MAE’R MEYSYDD SY’N CAEL EU HASTUDIO’N CYNNWYS: Blwyddyn 1 • Archwilio Creadigrwydd a Meddwl Beirniadol • Cyflwyniad i Ddysgu ac Addysgu • Datblygiad Plentyn • Gramadeg ac Ystyr • Llythrennedd, Rhifedd a’r Fframwaith Digidol Blwyddyn 2 • Anghenion Dysgu Ychwanegol • Cwricwlwm ac Asesu • Diogelu ac Hyrwyddo Lles mewn Addysg • Dulliau Ymchwil mewn Addysg • Dysgu Saesneg fel iaith Dramor: Theori ac Ymarfer Blwyddyn 3 • Arfer Addysgol mewn Oes Digidol • Arwain a Rheoli mewn Addysg • Astudiaethau Cwricwlwm • G wahaniaeth ac Amrywiaeth mewn Addysg • Gwneud Penderfyniadau Cyflogadwyedd a Phrofiad Gwaith

Rhestrir ymanylion llawnynyGrid Cyfeirnodi Cyrsiau (tudalen 134)

Mae Astudiaethau Americanaidd yn cwmpasu diwylliant, hanes a gwleidyddiaeth y wlad fwyaf dylanwadol yn y byd, o wladychu i heddiw. Gelli lywio dy gwrs gradd mewn ffordd sy'n gweddu i'th ddiddordebau dy hun, p'un a ydynt ym maes ffilmiau Americanaidd, cerddoriaeth, hil, rhywedd, ymfudo a threfoli, cymdeithasol, hanes economaidd a milwrol, terfysgaeth, neu hawliau sifil a phrotest wleidyddol. Fe fyddi di’n meithrin sgiliau trosglwyddadwy y mae cyflogwyr yn rhoi llawer o werth arnynt, a bydd cyfle i ti i dreulio blwyddyn neu semester yn astudio dramor yn UDA,

FEL ARFER MAE’R MEYSYDD SY’N CAEL EU HASTUDIO’N CYNNWYS: Blwyddyn 1 • Cyflwyniad i Ddiwylliant a Llenyddiaeth Americanaidd • Gwleidyddiaeth a Chymdeithas Americanaidd • Y Profiad Americanaidd Blwyddyn 2 • Ailystyried y De • America mewn Argyfwng • Creu America’r Trawsatlantig • Dinas Efrog Newydd: Hanes a Diwylliant ers 1945 • Getoau, Strydoedd a Maestrefi: Portreadau Diwylliannol a’r Ddinas Americanaidd • Hil ac Ethnigrwydd • Iaith America/Delwedd America Blwyddyn 3 • America a’r Bom • America a Therfysgaeth • Cenedl Saethwyr: Y Gorllewin mewn Hanes, Ffuglen a Mytholeg • Cerddoriaeth Boblogaidd y Ddinas • Ffuglen Americanaidd Gyfoes • Llenyddiaeth a Diwylliant Affricanaidd-Americanaidd • Rhyfel Cartref America mewn Hanes a Chof

CYNNIG NODWEDDIADOL: BBB

Rhestrir y manylion llawn am y gofyniad mynediad a nodweddion y cwrs yn y Grid Cyfeirnodi Cyrsiau (tudalen 134)

CYNNIG NODWEDDIADOL: BBB

Rhestrir y manylion llawn am y gofyniad mynediad a nodweddion y cwrs yn y Grid Cyfeirnodi Cyrsiau (tudalen 134)

BA Anrhydedd Sengl ▲ Addysg ♦ Addysg (gyda Blwyddyn Sylfaen) BA Prif Bwnc / Is-bwnc Anrhydedd ♦ Ieithoedd Modern gydag Addysg BA Cydanrhydedd ▲ Cymraeg ♦ Cymraeg (gyda Blwyddyn Dramor) BSc Cydanrhydedd ▲ Cyfrifiadura* ♦ Cyfrifiadura* (gyda Blwyddyn Dramor) ▲ Mathemateg* ♦ Mathemateg* (gyda Blwyddyn Dramor) ▲ Seicoleg

BA Anrhydedd Sengl ▲ Astudiaethau Americanaidd ♦ Astudiaethau Americanaidd (gyda Blwyddyn Dramor) ♦ Astudiaethau Americanaidd (gyda Blwyddyn Sylfaen) BA Cydanrhydedd Astudiaethau Americanaidd a ▲ ♦ Cysylltiadau Rhyngwladol ▲ ♦ Hanes ▲ ♦  Gwleidyddiaeth ▲ ♦ Llenyddiaeth Saesneg ▲ ♦  Gellir ymestyn cyrsiau 3 blynedd i 4 blynedd i gynnwys Blwyddyn Dramor

gyda dros 40 o ddewisiadau campws yr Unol Daleithiau.

▲ 3 BLYNEDD ♦ 4 BLYNEDD Am y codau UCAS unigol, gweler tudalen we’r cwrs

▲ 3 BLYNEDD ♦ 4 BLYNEDD Am y codau UCAS unigol, gweler tudalen we’r cwrs

*

Mae'r addysgu'n cael ei rannu rhwng Campws Parc Singleton a Champws y Bae

GYRFAOEDD POSIB: • Addysg • Cysylltiadau cyhoeddus a’r cyfryngau • Gwleidyddiaeth a llywodraeth

• Rheolaeth a busnes • Y Gwasanaeth Sifil

GYRFAOEDD POSIB: • Addysgu’r blynyddoedd cynnar • Addysgu ysgolion cynradd • Addysgu ysgolion uwchradd (ar gyfer rhaglenni cydanrhydedd sy’n gysylltiedig i bynciau craidd)

• Cyhoeddi addysgol • Datblygu cymunedol • Gweinyddiaeth addysg

Am fanylion llawn y cwrs, gan gynnwys rhestr fodiwl llawn, gweler: abertawe.ac.uk/israddedig/cyrsiau

Am fanylion llawn y cwrs, gan gynnwys rhestr fodiwl llawn, gweler: abertawe.ac.uk/israddedig/cyrsiau

48

49

Made with FlippingBook - Online magazine maker