ASTUDIAETHAU BLYNYDDOEDD CYNNAR CAMPWS PARC SINGLETON
ASTUDIAETHAU BLYNYDDOEDD CYNNAR GYDA STATWS YMARFERYDD Y BLYNYDDOEDD CYNNAR CAMPWS PARC SINGLETON
Mae'r cwrs gradd cyffrous hwn yn cynnig cyfleoedd i ddysgu am fabanod, plant bach a phlant ifanc trwy ddarparu'r wybodaeth ddamcaniaethol, y cyfleoedd ymchwil a phrofiadau ymarferol mewn canolfannau plant megis; Dechrau'n Deg a dosbarthiadau'r Cyfnod Sylfaen. Mae dull dysgu'r cwrs yn seiliedig ar hawliau plant a dysgu holistaidd, ac mae ein haddysgu yn cael ei ategu gan ein hymchwil drylwyr.
Mae Llywodraeth Cymru'n cydnabod bod gweithlu hynod fedrus yn y Blynyddoedd Cynnar yn chwarae rôl hollbwysig wrth helpu i feithrin dysgu a datblygiad ein plant, gan eu hannog i ddatblygu'r sgiliau y bydd eu hangen arnynt i wireddu eu potensial llawn yn eu bywydau. Mae'r radd mewn Astudiaethau Blynyddoedd Cynnar gyda Statws Ymarferydd y Blynyddoedd Cynnar (EYPS), sydd wedi'i hachredu gan Ofal Cymdeithasol Cymru, yn elfen bwysig o'r weledigaeth hon gan ei bod yn cynnig cyfle i fyfyrwyr ymgysylltu â chymunedau Astudiaethau Blynyddoedd Cynnar, â babanod, plant bach, plant ifanc a'u teuluoedd, gan gynnwys cysylltiadau â Safonau Galwedigaethol Cenedlaethol gofynnol drwy 700 o oriau ar leoliad gwaith dros dair blynedd y rhaglen.
BlwyddynSylfaen ar gael CyfleoeddByd-eang ar gael
BlwyddynSylfaen ar gael CyfleoeddByd-eang ar gael
Rhestrir ymanylion llawnynyGrid Cyfeirnodi Cyrsiau (tudalen 134)
Rhestrir ymanylion llawnynyGrid Cyfeirnodi Cyrsiau (tudalen 134)
CYNNIG NODWEDDIADOL: BBB
CYNNIG NODWEDDIADOL: BBB
Rhestrir y manylion llawn am y gofyniad mynediad a nodweddion y cwrs yn y Grid Cyfeirnodi Cyrsiau (tudalen 134)
Rhestrir y manylion llawn am y gofyniad mynediad a nodweddion y cwrs yn y Grid Cyfeirnodi Cyrsiau (tudalen 134)
Mae proffil Astudiaethau'r Blynyddoedd Cynnar yn cynyddu yng Nghymru, ar lefel llywodraeth y DU ac mewn sefydliadau rhyngwladol. Mae'r radd newydd hon wedi mabwysiadu dull dysgu diwylliannol- gymdeithasol sy'n seiliedig ar hawliau plant a dysgu cyfannol mewn cyd-destun cymdeithasol a diwylliannol, y cyfan wedi'i ategu gan ein hymchwil drylwyr. Mae gwreiddiau'r cwrs yng Nghymru a byddi’n ymdrin â materion sy'n ganolog i blant a theuluoedd yng Nghymru ym mhob modiwl. Byddi hefyd yn meithrin dealltwriaeth ryngwladol o arferion y blynyddoedd cynnar ledled y byd ac yn ystyried materion cymdeithasol a gwleidyddol, yn ogystal â theori ac athroniaeth.
FEL ARFER MAE’R MEYSYDD SY’N CAEL EU HASTUDIO’N CYNNWYS: Blwyddyn 1 • Adeiledd cymdeithasol plentyndod • Archwilio creadigrwydd a meddwl yn feirniadol • Babanod, plant bach, plant ifanc a thechnoleg • Byd cymdeithasol cynnar plant • Hawliau, polisïau a gwasanaethau'r blynyddoedd cynnar Blwyddyn 2 • Datblygiad plentyn • Diwylliant ac iaith plant • Chwarae yn ystod y blynyddoedd cynnar • Gweithio'n effeithiol gyda phlant a theuluoedd (Dulliau ymchwil ar gyfer israddedigion y Blynyddoedd Cynnar) • TGCh o fewn arfer y blynyddoedd cynnar Blwyddyn 3 • Arfer addysgol mewn oes ddigidol • Arfer myfyriol proffesiynol • Cofnodau pontio yn y blynyddoedd cynnar • Traethawd estynedig (ar draws semestrau A a B)
BA Anrhydedd Sengl ▲ Astudiaethau Blynyddoedd Cynnar ♦ Astudiaethau Blynyddoedd Cynnar gyda Statws Ymarferydd Blynyddoedd Cynnar (gyda Blwyddyn Sylfaen)
BA Anrhydedd Sengl ▲ Astudiaethau Blynyddoedd Cynnar gyda Statws Ymarferydd Blynyddoedd Cynnar ♦ Astudiaethau Blynyddoedd Cynnar gyda Statws Ymarferydd Blynyddoedd Cynnar (gyda Blwyddyn Sylfaen)
Mae’r gydnabyddiaeth gynyddol o bwysigrwydd y Blynyddoedd Cynnar yng Nghymru yn golygu ei bod hi'n amser allweddol i ddarparu addysg a hyfforddiant penodol i'r rhai sydd am weithio gyda babanod, plant bach a phlant ifanc mewn rôl broffesiynol. Mae'r radd Astudiaethau Blynyddoedd Cynnar gyda Statws Ymarferydd y Blynyddoedd Cynnar wedi'i gwreiddio mewn cyd-destun Cymreig er mwyn sicrhau bod materion sy'n hollbwysig i blant a theuluoedd Cymru'n cael eu hystyried ym mhob modiwl a addysgir, wedi'i ategu gan ddarlithoedd sy'n seiliedig ar ymchwil a 700 o oriau ar leoliad gwaith mewn ysgolion cynradd a chanolfannau plentyndod cynnar yng Nghymru. Mae athroniaeth addysg blynyddoedd cynnar wrth wraidd y radd, lle mae'r plentyn yn ganolog i'r materion cymdeithasol, ac mae'r myfyrwyr yn dysgu am y ffyrdd gorau o gefnogi dysgu plant drwy ddilyn eu diddordebau er mwyn cefnogi sgiliau dysgu gydol oes. Mae'r cymhwyster hwn yn golygu y bydd ein myfyrwyr sy'n graddio yn hollol gymwysedig i ymuno â'r gweithlu
FEL ARFER MAE’R MEYSYDD SY’N CAEL EU HASTUDIO’N CYNNWYS: Blwyddyn 1 • Adeiledd cymdeithasol plentyndod • Archwilio creadigrwydd a meddwl yn feirniadol • Babanod, plant bach, plant ifanc a thechnoleg • Byd cymdeithasol cynnar plant • Hawliau, polisïau a gwasanaethau'r blynyddoedd cynnar Blwyddyn 2 • Datblygiad plentyn • Diwylliant ac iaith plant • Chwarae yn ystod y blynyddoedd cynnar • Gweithio'n effeithiol gyda phlant a theuluoedd (Dulliau ymchwil ar gyfer israddedigion y Blynyddoedd Cynnar) • TGCh o fewn arfer y blynyddoedd cynnar Blwyddyn 3 • Arfer addysgol mewn oes ddigidol • Arfer myfyriol proffesiynol • Cofnodau pontio yn y blynyddoedd cynnar • Traethawd estynedig (ar draws semestrau A a B)
▲ 3 BLYNEDD ♦ 4 BLYNEDD Am y codau UCAS unigol, gweler tudalen we’r cwrs
▲ 3 BLYNEDD ♦ 4 BLYNEDD Am y codau UCAS unigol, gweler tudalen we’r cwrs
GYRFAOEDD POSIB: Gall myfyrwyr sy'n cwblhau'r radd fynd ymlaen i astudiaeth bellach neu gymhwyso fel: • Athro anghenion arbennig • Athro ysgolion cynradd • Athro’r blynyddoedd cynnar • Gweithiwr Llywodraeth Cymru • Gweithiwr cymdeithasol • Therapydd chwarae

ar unwaith mewn amrywiaeth o leoliadau plentyndod cynnar.
Am fanylion llawn y cwrs, gan gynnwys rhestr fodiwl llawn, gweler: abertawe.ac.uk/israddedig/cyrsiau
Am fanylion llawn y cwrs, gan gynnwys rhestr fodiwl llawn, gweler: abertawe.ac.uk/israddedig/cyrsiau
50
51
Made with FlippingBook - Online magazine maker