BODDHOD MYFYRWYR CYFFREDINOL (Arolwg Cenedlaethol Myfyrwyr 2019) 0 UCHAF YN Y DU
ATHRONIAETH, GWLEIDYDDIAETH AC ECONOMEG (AGE) CAMPWS PARC SINGLETON
BIOCEMEG CAMPWS PARC SINGLETON
CyfleoeddByd-eang ar gael Ysgoloriaethau/ BwrsariaethauCymraeg ar gael AMGYLCHEDD YMCHWIL (Fframwaith Rhagoriaeth Ymchwil 2014-2021) YN Y DU AF
Abertawe yw’r unig Brifysgol yng Nghymru, ac un o’r ychydig brifysgolion yn y DU sy’n cynnig Athroniaeth, Gwleidyddiaeth ac Economeg (AGE) – wedi’i hystyried ers tro fel paratoad delfrydol ar gyfer amrywiaeth eang o yrfaoedd mewn bywyd cyhoeddus. Byddi di’n dysgu am y rhyngweithio cymhleth rhwng meddwl athronyddol, gwleidyddol ac economaidd a sut maent yn dylanwadu ar ein cymdeithas.
Mae Biocemeg yn hanfodol wrth astudio a thrin clefydau, wrth ddatblygu cynhyrchion fferyllol, ac wrth roi sylw i’r perthnasau cymhleth rhwng ein hamgylchedd. Byddi di’n dysgu am y prosesau cemegol sy’n digwydd o fewn organeddau byw ac yn astudio sut mae celloedd yn gweithio ar lefelau is-gellog a moleciwlaidd ac yn ennill dealltwriaeth drylwyr o swyddogaeth fiocemegol organeddau byw, o facteria i blanhigion, anifeiliaid a bodau dynol.
BlwyddynSylfaen ar gael CyfleoeddByd-eang ar gael
Rhestrir ymanylion llawnynyGrid Cyfeirnodi Cyrsiau (tudalen 134)
Mae ein rhaglen AGE yn amlygu’r ffyrdd y datblygodd syniadau gwleidyddol ac economaidd o syniadau athronyddol, a’r cysylltiadau parhaus rhwng y disgyblaethau. Byddi di’n astudio athroniaeth foesol a gwleidyddol, moeseg, hanes syniadaeth wleidyddol, hanes syniadaeth economaidd, integreiddio Ewropeaidd, cyfiawnder a chymdeithas, polisi cyhoeddus a gwleidyddiaeth Prydain, economi wleidyddol, globaleiddio, microeconomeg a macroeconomeg, econometreg, ac economeg amgylcheddol ac adnoddau. Cei gyfle i gael lleoliad gwaith gyda Chynulliad Cenedlaethol Cymru fel rhan o’r modiwl, Y Cynulliad Cenedlaethol Cymru fel rhan o'th fodiwl Blwyddyn 3.
FEL ARFER MAE’R MEYSYDD SY’N CAEL EU HASTUDIO’N CYNNWYS: Blwyddyn 1 • Gwleidyddiaeth a’r Bobl • Gwybodaeth a Gwirionedd • Moeseg, Cyfiawnder a Chymdeithas • Macro-economeg 1 • Mathemateg 1 ar gyfer Economeg • Micro-economeg 1 Blwyddyn 2 • Economi Gwleidyddol Byd-eang: o Fercantiliaeth i Neoryddfrydiaeth • Hanes Syniadaeth Wleidyddol • Macro-economeg 2 • Materion Sylfaenol mewn Athroniaeth Foesol a Chymdeithasol • Micro-economeg 2 Blwyddyn 3 • Athroniaeth Ffeministaidd • Athroniaeth yr Ugeinfed Ganrif • Cynulliad Cenedlaethol Cymru • Econometreg • Economi Wleidyddol Gyfoes • Traethawd Hir
Byddi di’n elwa ar gael mynediad i gyfleusterau ymchwil o’r radd flaenaf yn yr Ysgol Feddygaeth, gan gynnwys offer biodadansoddol megis cromatograffi hylif perfformiad uchel, cromatograffi nwy, sbectrometreg màs, offer dadansoddi DNA a phrotein, a dadansoddwyr delweddau cyfrifiadurol ar gyfer astudiaethau moleciwlaidd neu gellog. Fe fyddi di’n datblygu sgiliau rheoli prosiect arbennig ac yn dysgu dylunio arbrofion a chynllunio rhaglenni gwaith. Mae cymysgedd o fodiwlau gorfodol a dewisol yn rhoi’r hyblygrwydd i ti deilwra dy radd i gyd-fynd â’th ddiddordebau penodol, dy amcanion o ran gyrfa, a’th gynlluniau ar gyfer astudio pellach. Mae hefyd gradd gydanrhydedd gyda Geneteg ar gael sy’n cyfuno dwy ddisgyblaeth sy’n gydberthynol ac sy’n gorgyffwrdd. Rhaglen MSci: Mae’r radd israddedig integredig uwch hon yn dilyn ein rhaglen BSc Biocemeg yn ychwanegu hyfforddiant arbenigol ychwanegol mewn ystod eang o dechnegau labordy ac yn datblygu prosiect ymchwil annibynnol estynedig uwch i'r rhaglen 3 blynedd BSc Biocemeg. Mae'r cwrs hwn yn rhoi cymhwyster lefel meistr i ti wrth dalu ffioedd dysgu israddedig
FEL ARFER MAE’R MEYSYDD SY’N CAEL EU HASTUDIO’N CYNNWYS: Blwyddyn 1 • Biocemeg Ragarweiniol • Cemeg organig • Sgiliau Biocemeg • Ynni a metaboledd Blwyddyn 2 • Asidau amino, lipid a steroidau • Bioystadegau • Rheoleiddio metabolig • Technegau ar gyfer bioleg moleciwlaidd Blwyddyn 3 • Biodechnoleg a pheirianneg protein • Biowybodeg • Prosiect ymchwil annibynnol o dan arweiniad gwyddonydd ymchwil proffesiynol • Trosglwyddiad pilennau ac ynni Blwyddyn 4 (MSci yn unig): • Cyfleu syniadau o wyddoniaeth • Entrepreneuriaeth • Prosiect ymchwil annibynnol uwch o dan arweiniad gwyddonydd ymchwil proffesiynol
Rhestrir ymanylion llawnynyGrid Cyfeirnodi Cyrsiau (tudalen 134)
CYNNIG NODWEDDIADOL: BBB
Rhestrir y manylion llawn am y gofyniad mynediad a nodweddion y cwrs yn y Grid Cyfeirnodi Cyrsiau (tudalen 134)
CYNNIG NODWEDDIADOL: BSc: AAB-BBB (gan gynnwys Cemeg, a Bioleg fel arfer) MSci: AAB (gan gynnwys Cemeg, a Bioleg fel arfer)
BA Anrhydedd Sengl ▲ Athroniaeth, Gwleidyddiaeth ac Economeg ♦ Athroniaeth, Gwleidyddiaeth ac Economeg (gyda Blwyddyn Dramor) ♦ Gwleidyddiaeth (gyda Blwyddyn Sylfaen)
Rhestrir y manylion llawn am y gofyniad mynediad a nodweddion y cwrs yn y Grid Cyfeirnodi Cyrsiau (tudalen 134)
BSc Anrhydedd Sengl ▲ Biocemeg
▲ 3 BLYNEDD ♦ 4 BLYNEDD Am y codau UCAS unigol, gweler tudalen we’r cwrs
BSc Cydanrhydedd Biocemeg a ▲ Geneteg
MSci Anrhydedd Sengl ♦ Biocemeg
GYRFAOEDD POSIB: • Busnes • Cyfryngau a chysylltiadau cyhoeddus • Gwasanaethau cyhoeddus • Llywodraeth a gwleidyddiaeth • Sefydliadau dyngarol • Y Gyfraith
MSci Cydanrhydedd Biocemeg a ♦ Geneteg
Biocemeg Feddygol - gweler tudalen 56
GYRFAOEDD POSIB: • Amaethyddiaeth • Biodanwyddau • Cemeg Ddiwydiannol • Cynhyrchion Fferyllol • Gwyddorau Fforensig • Milfeddygaeth ▲ 3 BLYNEDD ♦ 4 BLYNEDD Am y codau UCAS unigol, gweler tudalen we’r cwrs
ac mae'n ddelfrydol os wyt ti’n cynllunio ar yrfa mewn ymchwil.
Am fanylion llawn y cwrs, gan gynnwys rhestr fodiwl llawn, gweler: abertawe.ac.uk/israddedig/cyrsiau
Am fanylion llawn y cwrs, gan gynnwys rhestr fodiwl llawn, gweler: abertawe.ac.uk/israddedig/cyrsiau
54
55
Made with FlippingBook - Online magazine maker