Prosbectws-Israddedig-2021-Prifysgol-Abertawe

CyfleoeddByd-eang ar gael Ysgoloriaethau/ Bwrsariaethau Cymraeg ar gael (Canllaw Cyflawn i Brifysgolion 2020; Canllaw i Brifysgolion The Guardian 2020) YSGOL FEDDYGAETH UCHAF YN Y DU 5

BIOCEMEG FEDDYGOL CAMPWS PARC SINGLETON

BIOLEG A’R GWYDDORAU BIOLEGOL CAMPWS PARC SINGLETON

6 EG ANSAWDD ADDYSGU (Canllaw Prifysgolion Da, The Times & Sunday Times 2020) BIOWYDDORAU

Mae Biocemeg Feddygol wrth wraidd meddygaeth fodern. Mae’n rhan hanfodol o’n dealltwriaeth o achosion ac effeithiau clefydau a’r ffordd rydym yn datblygu triniaethau newydd. Byddi di’n dysgu sut mae celloedd yn gweithio ar lefelau is-gellog a moleciwlaidd, gan olygu y byddi di’n ennill dealltwriaeth drylwyr o swyddogaeth biocemegol organeddau byw, yn arbennig anifeiliaid a bodau dynol.

Mae dealltwriaeth academaidd ddofn o fywyd ar y ddaear yn bwysicach heddiw nag erioed o'r blaen. Drwy astudio'r amrywiaeth aruthrol o organebau byw sy'n bodoli, gallwn nodi bygythiadau argyfyngus a chyfleoedd pwysig, o'r raddfa leiaf i'r fwyaf. Bydd gennyt hyblygrwydd i ti ymchwilio i fywyd naturiol ym mha faes bynnag sydd o ddiddordeb i ti.

Blwyddyn Sylfaen ar gael CyfleoeddByd-eang ar gael Ysgoloriaethau/ BwrsariaethauCymraeg ar gael

Bydd y cyrsiau maes sydd ar gael yn lleol, trefol ac yn rhyngwladol yn dy alluogi i weithio mewn amrywiaeth o gynefinoedd. Gelli astudio ecosystemau morol arfordirol trawiadol, amgylcheddau dŵr croyw/ gwlypdir a chynefinoedd Penrhyn Gŵyr sydd ar garreg y drws. Bydd di’n elwa ar gael mynediad i gyfleusterau addysgu o’r radd flaenaf mewn meysydd ecolegol, ffisiolegol a moleciwlaidd. Ymhlith ein cyfleusterau, mae'r Ganolfan Ymchwil Ddyfrol Gynaliadwy, Amgueddfa Sŵolegol, cwch arolygu dosbarth catamarán 18 metr pwrpasol a chanolfan ddelweddu unigryw sy'n dangos gwybodaeth amlddimensiynol o ddata dilyn trywydd anifeiliaid. Yn dy flwyddyn olaf, fe fyddi di’n gwneud prosiect ymchwil, a all fod yn seiliedig ar y maes, ar y labordy neu’n hollol ddadansoddol.

FEL ARFER MAE’R MEYSYDD SY’N CAEL EU HASTUDIO’N CYNNWYS: Blwyddyn 1 • Amrywiaeth anifeiliaid • Bioleg foleciwlaidd ac esblygol • Bioleg gelloedd a microbaidd, ecoleg ac ymddygiad anifeiliaid • Ffurf a swyddogaeth • Planhigion ac Algâu – amrywiaeth, ffurf a swyddogaeth Blwyddyn 2 • Celloedd ac imiwnobioleg • Ecoleg forol arfordirol • Ffisioleg anifeiliaid • Microbioleg ecolegol a chylchoedd bywyd • Pysgodeg Blwyddyn 3 • Bioamrywiaeth • Cadwraeth ac ecoleg planhigion • Dulliau biolegol o reoli plâu di-asgwrn-cefn • Epidemioleg clefydau heintus • Ffiseg i fiolegwyr

Rhestrir ymanylion llawnynyGrid Cyfeirnodi Cyrsiau (tudalen 135)

Byddi di’n elwa ar gael mynediad i gyfleusterau ymchwil o’r radd flaenaf yn yr Ysgol Feddygaeth, gan gynnwys offer biodadansoddol megis cromatograffi hylif perfformiad uchel, cromatograffi nwy, sbectrometreg màs, offer dadansoddi DNA a phrotein, a dadansoddwyr delweddau cyfrifiadurol ar gyfer astudiaethau moleciwlaidd neu gellog. Fe fyddi di’n datblygu sgiliau rheoli prosiect arbennig ac yn dysgu dylunio arbrofion a chynllunio rhaglenni gwaith. RHAGLENMSci: Mae’r radd israddedig integredig uwch hon yn ychwanegu hyfforddiant arbenigol ychwanegol mewn ystod eang o dechnegau labordy ac yn datblygu prosiect ymchwil annibynnol estynedig uwch. Mae'r cwrs hwn yn rhoi cymhwyster lefel meistr i ti wrth dalu ffioedd dysgu israddedig ac mae'n ddelfrydol os wyt ti’n cynllunio ar yrfa mewn ymchwil.

FEL ARFER MAE’R MEYSYDD SY’N CAEL EU HASTUDIO’N CYNNWYS: Blwyddyn 1 • Biocemeg Ragarweiniol • Ffisioleg ddynol • Sgiliau Biocemeg • Ynni a metaboledd Blwyddyn 2 • Biocemeg glinigol a ffisioleg • Gwyddor meddygol mewn ymarfer • Imiwnoleg ddynol • Technegau ar gyfer bioleg moleciwlaidd Blwyddyn 3 • Imiwnopatholeg ddynol • Prosiect ymchwil annibynnol dan arweiniad gwyddonydd ymchwil proffesiynol • Tocsicoleg Geneteg • Trosglwyddiad philennau ac ynni Blwyddyn 4 (MSci yn unig) • Cyfleu syniadau o wyddoniaeth • Entrepreneuriaeth • Prosiect ymchwil annibynnol uwch dan arweiniad gwyddonydd ymchwil proffesiynol

Rhestrir ymanylion llawnynyGrid Cyfeirnodi Cyrsiau (tudalen 135)

CYNNIG NODWEDDIADOL: AAB-BBB (gan gynnwys Cemeg a Bioleg fel arfer) Rhestrir y manylion llawn am y gofyniad mynediad a nodweddion y cwrs yn y Grid Cyfeirnodi Cyrsiau (tudalen 135)

CYNNIG NODWEDDIADOL: BSc: ABB-BBB (gan gynnwys Bioleg neu Fioleg Ddynol)

Rhestrir y manylion llawn am y gofyniad mynediad a nodweddion y cwrs yn y Grid Cyfeirnodi Cyrsiau (tudalen 135)

BSc Anrhydedd Sengl ▲ Biocemeg Feddygol MSci Anrhydedd Sengl ♦ Biocemeg Feddygol

BSc Anrhydedd Sengl ▲ Bioleg ♦ B ioleg (gyda Blwyddyn mewn Diwydiant / Dramor)

Biocemeg – Gweler tudalen 55

♦ Bioleg (gyda Blwyddyn Sylfaen) ▲ Gwyddorau Biolegol (gan ohirio dewis o arbenigedd) ♦ Gwyddorau Biolegol (gyda Blwyddyn yn Astudio Dramor gan ohirio dewis o arbenigedd)

▲ 3 BLYNEDD ♦ 4 BLYNEDD Am y codau UCAS unigol, gweler tudalen we’r cwrs

GYRFAOEDD POSIB: • Cynhyrchion Fferyllol • Labordai Meddygol • Proffesiynau Iechyd (ar ôl astudiaeth bellach) e.e. meddyg, cymdeithion meddygol, deintydd neu filfeddyg. • Ymchwil Canser

Bioleg y Môr – gweler tudalen 58 Sŵoleg – gweler tudalen 128

GYRFAOEDD POSIB: • Addysgu • Biodechnolegydd • Cadwraethau • Rheolaeth Amgylcheddol • Ymchwil Ôl-raddedig ▲ 3 BLYNEDD ♦ 4 BLYNEDD Am y codau UCAS unigol, gweler tudalen we’r cwrs

LLWYBR MEDDYGAETH I RADDEDIGION

MAE ACHREDIADAU’N CYNNWYS:

Mae’r radd hon yn rhan o’n rhaglen Llwybrau i Feddygaeth. Cyn belled â’th fod yn bodloni’r gofynion mynediad, ac wedi dilyn y modiwl Llwybr i Feddygaeth gallwn dy warantu y cei gyfweliad ar gyfer ein cwrs MBBCh Meddygaeth i Raddedigion.

Am fanylion llawn y cwrs, gan gynnwys rhestr fodiwl llawn, gweler: abertawe.ac.uk/israddedig/cyrsiau

Am fanylion llawn y cwrs, gan gynnwys rhestr fodiwl llawn, gweler: abertawe.ac.uk/israddedig/cyrsiau

56

57

Made with FlippingBook - Online magazine maker