Prosbectws-Israddedig-2021-Prifysgol-Abertawe

BODDHAD MYFYRWYR (Arolwg Myfyrwyr Cenedlaethol 2019) UCHAF YN Y DU 0

BlwyddynSylfaen ar gael CyfleoeddByd-eang ar gael Ysgoloriaethau/ Bwrsariaethau Cymraeg ar gael RHAGOLYGON GYRFA (Canllaw i Brifysgolion The Guardian 2020) YN Y DU 4 YDD

CYSYLLTIADAU RHYNGWLADOL CAMPWS PARC SINGLETON

DAEARYDDIAETH CAMPWS PARC SINGLETON

Wrth i'n byd fynd yn llai ac yn llai diolch i dechnoleg, trafnidiaeth ac economi ryngwladol gymhleth, mae gwerth cydberthnasau heddychlon a chydweithredol rhwng gwledydd yn dod yn fwyfwy pwysig. Ar gyfer y radd hon byddi’n edrych y tu ôl i'r penawdau ar y prif ddylanwadwyr o ran gwleidyddiaeth ryngwladol, gan ystyried syniadau pwysig a sut y gallwn ddatrys gwrthdaro neu sicrhau cydweithrediad.

Mae daearyddiaeth yn hollbwysig yn ein byd cydgysylltiedig. Mae'n ein helpu i ddeall y cydberthnasau rhwng pobl a'r amgylchedd a'r ffordd y maent yn amrywio rhwng cyfnodau a lleoedd. Mae daearyddiaeth yn ein galluogi i ddarganfod, cofnodi a ffurfio'r lleoedd rydym yn byw ynddynt nawr ac yn y dyfodol. Mae ein lleoliad yn golygu ei bod hi'n hawdd cyrraedd lleoedd mor amrywiol â Phenrhyn Gŵyr, Bannau Brycheiniog, ardaloedd gwledig gorllewin Cymru a thirweddau diwydiannol trefol de Cymru.

BlwyddynSylfaen ar gael CyfleoeddByd-eang ar gael

Rhestrir ymanylion llawnynyGrid Cyfeirnodi Cyrsiau (tudalen 137)

Ar ein rhaglen Cysylltiadau Rhyngwladol, byddi’n edrych ar globaleiddio a sefydliadau byd-eang, gwaith datblygu a hawliau dynol, gwleidyddiaeth ryngwladol a rhanbarthol, heddwch a gwrthdaro, economi wleidyddol, diogelwch ac astudiaethau strategol, ac yn dysgu sut mae pŵer, sefydliadau a chyfreithiau yn effeithio ar ein bywydau o ddydd i ddydd. Byddi’n meithrin dealltwriaeth o'r patrymau ymddwyn rhwng gwledydd, eu harweinwyr a'u corfforaethau, gan ganolbwyntio ar y rhyngweithio a'r cydberthnasau rhwng syniadaeth athronyddol, wleidyddol ac economaidd. Cei gyfle i wneud lleoliad gwaith gyda Chynulliad Cenedlaethol Cymru fel rhan o'r modiwl, Cynullid Cenedlaethol Cymru. Mae Prifysgol Abertawe hefyd yn un o nifer cyfyngedig o sefydliadau a ddewiswyd i ddechrau partneriaeth â Senedd y DU i gyflwyno modiwl arloesol, Astudiaethau Seneddol i fyfyrwyr yn y drydedd flwyddyn. Mae’r modiwl yn cynnwys cyfres o sesiynau gydag arbenigwyr ac aelodau o staff sy’n gweithio yn Senedd y DU. Bydd yn arwain at ymweld â San Steffan am ddiwrnod, a fydd yn cynnwys sgwrsio ag uwch-aelodau o’r Senedd.

FEL ARFER MAE’R MEYSYDD SY’N CAEL EU HASTUDIO’N CYNNWYS: Blwyddyn 1 • Cwestiynau Sylfaenol Athroniaeth • Cyflwyniad i Fethodoleg Wleidyddol • Cyflwyniad i Gysylltiadau Rhyngwladol • Rhyfel a Heddwch yn yr Oes Niwclear • Y Byd Modern Cynnar, 1500-1800 Blwyddyn 2 • Anarchiaeth a Threfn: Damcaniaethau mewn Cysylltiadau Rhyngwladol • Astudiaethau Strategol • Busnes & Entrepreneuriaeth

Yn ochr ag ochr o wybodaeth flaengar a meistrolaeth o gysyniadau allweddol, rydym yn rhoi pwyslais cryf ar ddysgu gweithredol drwy waith maes. Gelli addasu dy radd i gyd-fynd â'th ddiddordebau drwy gynnwys cymysgedd o ddaearyddiaeth ddynol a ffisegol. Mae pob modiwl yn darparu hyfforddiant naill ai yn theori neu arfer agwedd wahanol ar y pwnc (daearyddiaeth gymdeithasol, amgylcheddol, diwylliannol, hanesyddol neu wleidyddol). Byddwn yn sicrhau bod gennyt yr adnoddau proffesiynol a'r meddylfryd graddedig y bydd eu hangen arnat i ddatrys rhai o'r heriau mawr sy'n ein hwynebu heddiw. Mae'r asesiadau yn amrywiol ac yn integreiddiol, sy'n dy alluogi i feistroli sgiliau meddwl yn feirniadol, datrys problemau, arweinyddiaeth, entrepreneuriaeth a gweithio mewn tîm yn hyderus. Mae ein cynllun pedair blynedd yn cyfuno astudio yn Abertawe gyda lleoliad gwaith am flwyddyn gyda chyflogwr neu sefydliad perthnasol, neu flwyddyn yn astudio Daearyddiaeth mewn sefydliad dramor.

FEL ARFER MAE’R MEYSYDD SY’N CAEL EU HASTUDIO’N CYNNWYS: Blwyddyn 1 • Cyflwyniad i'r Ddaear: Trosolwg o Ddaeareg • Cynaliadwyedd • Globaleiddio • Peryglon Naturiol • Sgiliau Daearyddol • Systemau Dynameg y Ddaear Blwyddyn 2 • Amgylcheddau a Phrosesau Rhewlifol • Ffiniau a Chysylltiadau mewn Daearyddiaeth Gymdeithasol • Daearyddiaeth Wleidyddol • Synhwyro o Bell • Systemau Gwybodaeth Ddaearyddol Blwyddyn 3 • Daearyddiaeth Ffyrnig • Daearyddiaeth o hunaniaeth genedlaethol • Gwyddorau Meteoroleg ac Atmosfferig • Hinsawdd y 1000 o flynyddoedd diwethaf GYRFAOEDD POSIB: • C ynllunio rhanbarthol ac adnoddau • Cynllunio trefol ac arolygu • Dysgu ac addysg • Newyddiaduraeth a’r cyfryngau • Rheolaeth a chadwraeth amgylcheddol • Y sector cyhoeddus, diwydiannau creadigol a gwaith elusennol

Rhestrir ymanylion llawnynyGrid Cyfeirnodi Cyrsiau (tudalen 137)

CYNNIG NODWEDDIADOL: BBB

Rhestrir y manylion llawn am y gofyniad mynediad a nodweddion y cwrs yn y Grid Cyfeirnodi Cyrsiau (tudalen 137)

CYNNIGNODWEDDIADOL: AAB-BBB (gan gynnwys Daearyddiaeth neu bwnc cysylltiedig) Rhestrir y manylion llawn am y gofyniad mynediad a nodweddion y cwrs yn y Grid Cyfeirnodi Cyrsiau (tudalen 137) BA Anrhydedd Sengl ▲ Daearyddiaeth ♦ Daearyddiaeth (gyda Blwyddyn mewn Diwydiant / Dramor) ▲ Daearyddiaeth Ddynol ♦ Daearyddiaeth Ddynol (gyda Blwyddyn mewn Diwydiant) BSc Anrhydedd Sengl ▲ Daearyddiaeth ♦ Daearyddiaeth (gyda Blwyddyn mewn Diwydiant / Dramor) ♦ Daearyddiaeth (gyda Blwyddyn Sylfaen) ▲ Gwyddor Daear Amgylcheddol ♦ G wyddor Daear Amgylcheddol (gyda Blwyddyn mewn Diwydiant)

BA Anrhydedd Sengl ▲ Cysylltiadau Rhyngwladol ♦  Cysylltiadau Rhyngwladol (gyda Blwyddyn Dramor) ♦  Cysylltiadau Rhyngwladol (gyda Blwyddyn Sylfaen)

BA Prif Bwnc/Is-bwnc Anrhydedd ♦ Cysylltiadau Rhyngwladol gydag Almaeneg (gyda Blwyddyn Dramor) ♦ Cysylltiadau Rhyngwladol gyda Ffrangeg (gyda Blwyddyn Dramor) ♦ Cysylltiadau Rhyngwladol gyda Sbaeneg (gyda Blwyddyn Dramor) BA Cydanrhydedd Cysylltiadau Rhyngwladol a ▲ Astudiaethau Americanaidd ♦ Astudiaethau Americanaidd (gyda Blwyddyn Dramor) ▲ Hanes ♦ Hanes (gyda Blwyddyn Dramor)

• Diogelwch Rhyngwladol • Diwylliannau’r Cyfryngau Cymdeithasol • Globaleiddio • Moeseg Byd-eang •Materion Sylfaenol mewn

Athroniaeth Foesol a Gwleidyddol • Rhyfeloedd a Gwrthdaro Cyfoes Blwyddyn 3 • Astudiaethau Seneddol • Cynulliad Cenedlaethol Cymru • Rhyfeloedd Cysgodol: Arlywyddion yr UD a gweithredu cudd o'r Rhyfel Oer i Trump • Traethawd Estynedig • Yn sgîl y rhyfel

Daearyddiaeth a Gwyddor Gwybodaeth Ddaearyddol – gweler tudalen 72 Gwyddor Daear Amgylcheddol – gweler tudalen 93 ▲ 3 BLYNEDD ♦ 4 BLYNEDD Am y codau UCAS unigol, gweler tudalen we’r cwrs

▲ 3 BLYNEDD ♦ 4 BLYNEDD Am y codau UCAS unigol, gweler tudalen we’r cwrs

MAE ACHREDIADAU’N CYNNWYS:

GYRFAOEDD POSIB: • Addysg • Busnes • Cyfryngau a chysylltiadau cyhoeddus • Llywodraeth a gwleidyddiaeth • Sefydliadau dyngarol • Y gyfraith a gwasanaethau cyhoeddus

Am fanylion llawn y cwrs, gan gynnwys rhestr fodiwl llawn, gweler: abertawe.ac.uk/israddedig/cyrsiau

Am fanylion llawn y cwrs, gan gynnwys rhestr fodiwl llawn, gweler: abertawe.ac.uk/israddedig/cyrsiau

70

71

Made with FlippingBook - Online magazine maker