Prosbectws-Israddedig-2021-Prifysgol-Abertawe

BlwyddynSylfaen ar gael CyfleoeddByd-eang ar gael Ysgoloriaethau/ Bwrsariaethau Cymraeg ar gael (Canllaw Cyflawn i Brifysgolion 2020) 0 UCHAF YN Y DU BODDHAD MYFYRWYR

DAEARYDDIAETH A GWYDDOR GWYBODAETH DDAEARYDDOL CAMPWS PARC SINGLETON

Drwy ddefnyddio technolegau newydd i ddatrys problemau daearyddol, mae Daearyddiaeth a Gwyddor Gwybodaeth Ddaearyddol yn ein helpu i ddeall sut mae ein planed yn ffitio gyda'i gilydd, a sut mae'n ymrannu. Mae'r maes tirfesur a llunio mapiau wedi'i chwyldroi gan systemau digidol datblygedig a all gaffael, dadansoddi a chyflwyno gwybodaeth geo-ofodol mewn ffordd ddeallus. Os wyt yn frwdfrydig dros gyfrifiadura, daearyddiaeth neu fathemateg a bod gennyt ddiddordeb mewn data gofodol, dyma'r cwrs i ti.

Rhestrir ymanylion llawnynyGrid Cyfeirnodi Cyrsiau (tudalen 137)

Yn dilyn nifer o ddiwrnodau agored ac ymweld â’r Brifysgol, roeddwn yn gwybod taw Abertawe oedd y Brifysgol i fi. Roedd brwdfrydedd staff yr Adran Ddaearyddiaeth ynghyd â hyblygrwydd y cwrs a’r profiadau teithio yn apelio ataf yn fawr iawn. Roeddwn hefyd yn ddigon ffodus i fynd ar brofiad gwaith gydag Adran Ddaearyddiaeth y Brifysgol yn sgil ennill Her Academi Morgan yn y GwyddonLe 2019. Roedd hyn wedi rhoi blas o fywyd prifysgol i fi yn ogystal â chyfle i ddysgu sgiliau daearyddol newydd yn barod ar gyfer mis Medi. Mae Her Academi Morgan yn gyfle arbennig i ddisgyblion ysgol lleisio’u barn am faterion amgylcheddol sydd wir yn effeithio ar ein planed, rwy’n mor falch dewisais i gystadlu! Wrth benderfynu ar ba Brifysgol i ddewis, roedd astudio trwy gyfrwng y Gymraeg yn ystyriaeth bwysig oherwydd y manteision o ddosbarthiadau llai sy’n golygu gwell perthynas gyda dy ddarlithwyr, ac felly mae holi a thrafod y cynnwys yn llawer haws. Yn gymdeithasol hefyd mae dosbarthiadau llai o faint yn gwneud hi’n llawer yn haws i greu ffrindiau newydd. Erbyn hyn rwy’n gweld fy mod yn perfformio’n well yn y modiwlau cyfrwng Cymraeg o gymharu â’r rhai Saesneg, gan fy mod yn deall pethau llawer yn well ac yn adnabod cysyniadau a geiriau allweddol yn gyflymach. O ganlyniad i benderfynu parhau i astudio trwy’r Gymraeg, rwyf wedi derbyn Ysgoloriaeth Cymhelliant gan y Coleg Cymraeg Cenedlaethol. Bydd hyn yn fuddiol iawn wrth gynorthwyo gyda chostau gwaith maes, ac felly’n sicrhau fy mod yn gallu astudio fy mhwnc i fy mhotensial llawn yn fy iaith fwyaf ffafriol! Gan fy mod yn Rep Pwnc Cyfrwng Cymraeg ar gyfer myfyrwyr blwyddyn gyntaf daearyddiaeth, rwyf wedi cael y cyfle i fynychu gweithdy sy’n ffocysu ar wella ein CV a sgiliau cyfweliadau swydd. Yn y dyfodol, hoffwn wneud cais i fod yn Swyddog Materion Cymraeg yr Undeb, i geisio gwella gwasanaethau Cymraeg ar draws y brifysgol ar gyfer y myfyrwyr.

Bydd y radd hon yn dy hyfforddi i fod yn wyddonydd gwybodaeth ddaearyddol; yn dy baratoi gyda sgiliau ymarferol, rhifyddol a chyfrifiadurol. Rydym yn rhoi cryn bwyslais ar ddysgu gweithredol drwy ymarfer. Rydym yn cynnig cyfleoedd addysgu bywiog gan academyddion sydd ymhlith y rhai mwyaf blaenllaw yn y byd mewn cymuned ddysgu ddeniadol ac ysbrydoledig. Byddwn yn sicrhau bod gennyt yr adnoddau proffesiynol a'r meddylfryd graddedig y bydd eu hangen arnat i ddatrys rhai o'r heriau mawr sy'n ein hwynebu heddiw. Mae asesiadau cyrsiau yn amrywiol ac yn integreiddiol, sy'n dy alluogi i feistroli sgiliau meddwl yn feirniadol, datrys problemau, arweinyddiaeth, entrepreneuriaeth a gweithio mewn tîm yn hyderus.

FEL ARFER MAE’R MEYSYDD SY’N CAEL EU HASTUDIO’N CYNNWYS: Blwyddyn 1 • Cyflwyniad i'r Ddaear: Trosolwg o Ddaeareg • Cynaliadwyedd • Globaleiddio • Peryglon Naturiol • Sgiliau Daearyddol • Systemau Dynameg y Ddaear Blwyddyn 2 • Amgylcheddau a Phrosesau Rhewlifol • Ffiniau a Chysylltiadau mewn Daearyddiaeth Gymdeithasol • Daearyddiaeth Wleidyddol • Synhwyro o Bell • Systemau Gwybodaeth Ddaearyddol Blwyddyn 3 • Daearyddiaeth Ffyrnig • Daearyddiaeth o hunaniaeth genedlaethol • Gwyddorau Meteoroleg ac Atmosfferig • Hinsawdd y 1000 o flynyddoedd diwethaf • Modelu Amgylcheddol

CYNNIG NODWEDDIADOL: AAB-BBB (gan gynnwys Daearyddiaeth neu bwnc cysylltiedig) Rhestrir y manylion llawn am y gofyniad mynediad a nodweddion y cwrs yn y Grid Cyfeirnodi Cyrsiau (tudalen 137)

BSc Anrhydedd Sengl ▲  Daearyddiaeth a Gwyddor Gwybodaeth Ddaearyddol ♦ Daearyddiaeth (gyda Blwyddyn Sylfaen) yn arwain at BSc Daearyddiaeth a Gwyddor Gwybodaeth Ddaearyddol ▲ 3 BLYNEDD ♦ 4 BLYNEDD Am y codau UCAS unigol, gweler tudalen we’r cwrs

GYRFAOEDD POSIB: • Cadwraeth • Geo-hysbyseg

• Mapio a chartograffeg • R heolaeth amgylcheddol • Synhwyro o bell • Tirfesur

BSc DAEARYDDIAETH FFISEGOL I ddysgu mwy am ein storïau myfyrwyr, gweler: abertawe.ac.uk/astudio/ ein-storiau-myfyrwyr

MAE ACHREDIADAU’N CYNNWYS:

Am fanylion llawn y cwrs, gan gynnwys rhestr fodiwl llawn, gweler: abertawe.ac.uk/israddedig/cyrsiau

72

73

Made with FlippingBook - Online magazine maker