Prosbectws-Israddedig-2021-Prifysgol-Abertawe

FFISIOLEG GARDIAIDD CAMPWS PARC SINGLETON

GENETEG CAMPWS PARC SINGLETON

% 00 CYFLOGADWYEDD GRADDEDIGION* (Cyrchfannau Ymadawyr Addysg Uwch 2018)

CyfleoeddByd-eang ar gael Ysgoloriaethau/ Bwrsariaethau Cymraeg ar gael AMGYLCHEDD YMCHWIL (Fframwaith Rhagoriaeth Ymchwil 2014-2021) YN Y DU AF

Tro dy ddiddordeb mewn bioleg ddynol ac iechyd a llesiant yn yrfa werth chweil gyda'n cwrs gradd mewn Ffisioleg Gardiaidd. Trwy astudio anatomi a ffisioleg y galon a'r technegau diagnostig a therapiwtig diweddaraf, byddi di’n cael y wybodaeth wyddonol, glinigol a thechnegol sydd ei hangen arnat i roi gofal arbenigol i bobl sy'n byw gyda chlefyd cardiaidd, neu yr amheuir bod ganddynt glefyd cardiaidd.

Mae astudiaeth geneteg yn faes cyffrous sy’n symud yn gyflym ac yn cael effaith enfawr mewn ystod o feysydd gwyddonol, gan gynnwys deall a thrin clefydau amrywiol, datblygu fferyllol, esblygiad, cadwraeth a bioamrywiaeth. Byddi di’n dysgu technegau ar gyfer dadansoddi mynegiad genynnau, y ffordd y mae proteinau yn rhyngweithio, strwythur DNA a’r difrod iddo, dadansoddi delweddau biomoleciwlau a chelloedd, a dulliau dadansoddol cyfrifiadurol uwch.

DIM FFIOEDD DYSGU Myfyrwyr yDUa’rUE** Gwna gais am becyn cymorth ychwanegol drwy gynllun Bwrsariaeth GIG Cymru. (**amodau yn berthnasol)

Caiff ein cwrs ei achredu gan yr Ysgol Genedlaethol Gwyddorau Gofal Iechyd ac mae ein staff academaidd yn gweithio fel gwyddonwyr gofal iechyd hefyd, gan gynnig cyfuniad heb ei ail o drylwyredd gwyddonol ac arbenigedd proffesiynol. Mae ein cyfleusterau ardderchog yn dynwared y gweithle mewn ffordd realistig. Ac fe fyddi di’n gallu manteisio ar leoliad cleifion go iawn yn ein Hacademi Iechyd a Llesiant lwyddiannus, sy'n darparu gwasanaethau iechyd a llesiant i'r gymuned leol. Fel myfyriwr Ffisioleg Gardiaidd, byddi di’n treulio tua hanner dy gwrs ar leoliadau gwaith clinigol ledled Cymru, a fydd yn darparu’r sgiliau sydd eu hangen arnat i ddechrau dy yrfa.

FEL ARFER MAE’R MEYSYDD SY’N CAEL EU HASTUDIO’N CYNNWYS: Blwyddyn 1 • Anatomeg a ffisioleg ar gyfer gwyddor gofal iechyd • Cyflwyniad i wyddoniaeth gardiofasgwlaidd • Ffisioleg anadlu a chwsg • Hanfodion mathemateg a ffiseg ar gyfer gwyddor gofal iechyd • Pathoffisioleg ar gyfer gwyddor gofal iechyd • Ymarfer proffesiynol Blwyddyn 2 • Dulliau ymchwil ac ystadegau • Mesur gweithrediad cardiofasgwlaidd • Offeryniaeth, prosesu signalau a delweddu • Pathoffisioleg cyflyrau cardiofasgwlaidd ac anadlu cyffredin Blwyddyn 3 • Cathetr cardiaidd • Diagnosis a rheolaeth arhythmia • Prosiect ymchwil gwyddor gofal iechyd • Ymarfer yn seiliedig ar dystiolaeth mewn cardioleg

Byddi di’n elwa ar gael mynediad i gyfleusterau ymchwil o’r radd flaenaf yn yr Ysgol Feddygaeth, gan gynnwys offer dadansoddi DNA a phrotein, dadansoddwyr delweddau cyfrifiadurol ar gyfer astudiaethau moleciwlaidd neu gellog, a chyfleuster uwchgyfrifiadur pwerus. Fe fyddi’n datblygu sgiliau dadansoddi a rheoli prosiect arbennig ac yn dysgu dylunio arbrofion a chynllunio rhaglenni gwaith. Mae cymysgedd o fodiwlau gorfodol a dewisol yn rhoi’r hyblygrwydd i ti deilwra dy radd i gyd-fynd â’th ddiddordebau penodol, dy amcanion o ran gyrfa, a’th gynlluniau ar gyfer astudio pellach. Mae rhaglenni Cydanrhydedd hefyd ar gael gyda Biocemeg, sy’n cyfuno dwy ddisgyblaeth sy’n gydberthynol ac sy’n gorgyffwrdd. RHAGLENMSci Mae’r radd israddedig integredig uwch hon yn dilyn ein rhaglen BSc Geneteg gyda blwyddyn ychwanegol er mwyn i ti dderbyn hyfforddiant arbenigol ychwanegol mewn ystod eang o dechnegau labordy ac yn datblygu prosiect ymchwil annibynnol estynedig uwch. Mae'r cwrs hwn yn rhoi cymhwyster lefel meistr i ti wrth

dalu ffioedd dysgu israddedig ac mae'n ddelfrydol os wyt ti’n cynllunio ar yrfa mewn ymchwil. FEL ARFER MAE’R MEYSYDD SY’N CAEL EU HASTUDIO’N CYNNWYS: Blwyddyn 1 • Bioleg celloedd ewcaryotig

abertawe.ac.uk/benthyciadau-a- grantiau/cwrs-a-ariennir-gan-y-gig

Rhestrir ymanylion llawnynyGrid Cyfeirnodi Cyrsiau (tudalen 138)

CyfleoeddByd-eang ar gael

CYNNIG NODWEDDIADOL: BSc: AAB-BBB (gan gynnwys Bioleg a Chemeg fel arfer) MSci: AAB (gan gynnwys Bioleg a Chemeg fel arfer)

Rhestrir ymanylion llawnynyGrid Cyfeirnodi Cyrsiau (tudalen 138)

• Dadansoddiad geneteg • Geneteg ac esblygiad sylfaenol Microbioleg Blwyddyn 2 • Bioystadegau • Esblygiad moleciwlaidd

CYNNIG NODWEDDIADOL: BBB (gan gynnwys Bioleg)

Rhestrir y manylion llawn am y gofyniad mynediad a nodweddion y cwrs yn y Grid Cyfeirnodi Cyrsiau (tudalen 138)

Rhestrir y manylion llawn am y gofyniad mynediad a nodweddion y cwrs yn y Grid Cyfeirnodi Cyrsiau (tudalen 138)

BSc Anrhydedd Sengl ▲ Geneteg

BSc Anrhydedd Sengl ▲ Gwyddor Gofal Iechyd (Ffisioleg Gardiaidd) ▲ 3 BLYNEDD Am y codau UCAS unigol, gweler tudalen we’r cwrs

• Geneteg ddynol a meddygol • Technegau bioleg moleciwlaidd Blwyddyn 3 • Biotechnoleg a pheirianneg proteinau • Biowybodaeth • Datblygiad anifeiliaid • Prosiect ymchwil annibynnol dan arweiniad gwyddonydd ymchwil proffesiynol Blwyddyn 4 (MSci yn unig): • Cyfleu syniadau o wyddoniaeth • Entrepreneuriaeth • Prosiect ymchwil annibynnol uwch dan arweiniad gwyddonydd ymchwil proffesiynol

BSc Cydanrhydedd Geneteg a ▲ Biocemeg MSci Anrhydedd Senegl ♦ Geneteg MSci Cydanrhydedd Geneteg a ♦ Biocemeg

GYRFAOEDD POSIB: Cyflog cychwynnol y GIG ar gyfer Gwyddonydd Gofal Iechyd yw £23,214 (Band 5). Yn ystod gyrfa, gall y cyflog godi i £43,772, mae’r cyflog uchaf y mae’n bosibl ei ennill fel ymgynghorydd yn y GIG yw £102,506.

Geneteg Feddygol - gweler tudalen 82

▲ 3 BLYNEDD ♦ 4 BLYNEDD Am y codau UCAS unigol, gweler tudalen we’r cwrs

*100% o raddedigion mewn swyddi proffesiynol neu rheoli ar ôl graddio (Cyrchfannau Ymadawyr Addysg Uwch 2018)

GYRFAOEDD POSIB: • Cynorthwyydd Ymchwil Ôl-ddoethurol • Gwyddonydd Fforensig • Gwyddonydd Gofal Iechyd dan Hyfforddiant (GIG) • Gwyddonydd Ymchwil Biofeddygol • Tocsicolegydd Geneteg

MAE ACHREDIADAU’N CYNNWYS:

Am fanylion llawn y cwrs, gan gynnwys rhestr fodiwl llawn, gweler: abertawe.ac.uk/israddedig/cyrsiau

Am fanylion llawn y cwrs, gan gynnwys rhestr fodiwl llawn, gweler: abertawe.ac.uk/israddedig/cyrsiau

80

81

Made with FlippingBook - Online magazine maker