Prosbectws-Israddedig-2021-Prifysgol-Abertawe

CyfleoeddByd-eang ar gael Ysgoloriaethau/ Bwrsariaethau Cymraeg ar gael (Canllaw Cyflawn i Brifysgolion 2020; Canllaw i Brifysgol The Guardian 2020) YSGOL FEDDYGAETH UCHAF YN Y DU 5

GENETEG FEDDYGOL CAMPWS PARC SINGLETON

GOFAL MAMOLAETH CAMPWS PARC SINGLETON*

CYDNABYDDIR GAN UNICEF Y DU Dyfernir Statws Menter Cyfeillgar i Fabanod Lefel 1

Mae astudiaeth Geneteg Feddygol yn faes cyffrous sy’n symud yn gyflym ac yn cael effaith enfawr ar feddygaeth, gan ein helpu i ddeall, diagnosio a thrin llawer o glefydau dynol. Byddi di’n dysgu technegau ar gyfer dadansoddi mynegiad genynnau, y ffordd y mae proteinau yn rhyngweithio, strwythur DNA a’r difrod iddo, dadansoddi delweddau biomoleciwlau a chelloedd, a dulliau dadansoddol cyfrifiadurol uwch a derbyn gwybodaeth drwyadl i ti o’r blociau adeiladu hyn sy’n hanfodol ar gyfer bywyd.

Os hoffet ddilyn gyrfa ym maes gofal mamolaeth, gweithio fel 'dwla' neu atgyfnerthu'r sgiliau sydd eisoes gennyt yn y sector hwn, mae'r cwrs hyblyg hwn yn ddelfrydol. Mae'n canolbwyntio ar rymuso merched, a theuluoedd, yn ystod eu beichiogrwydd, genedigaeth y plentyn ac ar ôl iddynt ddod yn rhieni newydd a bydd yn gwella dy sgiliau proffesiynol ac yn paratoi’r ffordd ar gyfer datblygu dy yrfa ymhellach neu fanteisio ar gyfleoedd astudio pellach.

CyfleoeddByd-eang ar gael

Rhestrir ymanylion llawnynyGrid Cyfeirnodi Cyrsiau (tudalen 138)

Rhestrir ymanylion llawnynyGrid Cyfeirnodi Cyrsiau (tudalen 138)

CYNNIG NODWEDDIADOL:

Gyda ffocws cryf ar hunanddatblygiad, hunanymwybyddiaeth a sgiliau cyfannol, meithrin gwybodaeth a dealltwriaeth fanwl o agweddau allweddol ar ffisioleg, teulu, cymdeithasol, cyfathrebu, diwylliant, iechyd a gwasanaethau gofal mamolaeth yn y DU. Mae gan ein tîm Bydwreigiaeth ac Iechyd Atgynhyrchiol gyfoeth o arbenigedd ym maes gofal mamolaeth a rhoddir ffocws cryf ar rymuso merched a theuluoedd drwy gydol y beichiogrwydd, yr enedigaeth a chamau cynnar y broses rianta. Bydd ein dull dysgu cyfunol, sy'n cyfuno sesiynau a addysgir â dysgu

FEL ARFER MAE’R MEYSYDD SY’N CAEL EU HASTUDIO’N CYNNWYS: • Cymwyseddau ar gyfer gofal mamolaeth • Dimensiynau biolegol beichiogrwydd a magu plant • Dimensiynau seicogymdeithasol beichiogrwydd a magu plant • Gweithio fel dwla • Gweithio yn y tîm gofal mamolaeth • Gwella iechyd a lles i’r eithaf yn ystod beichiogrwydd • Ysgrifennu academaidd ar gyfer iechyd a gofal cymdeithasol O ganlyniad i’r cwrs, gallaf gynnig lefel uwch o gwnsela a chymorth bwydo ar y fron i’r rhai sy’n famau am y tro cyntaf.

Byddi di’n elwa ar gael mynediad i gyfleusterau ymchwil o’r radd flaenaf yn yr Ysgol Feddygaeth, gan gynnwys offer dadansoddi DNA a phrotein, a dadansoddwyr delweddau cyfrifiadurol ar gyfer astudiaethau moleciwlaidd neu gellog. Byddi di’n datblygu sgiliau dadansoddi a rheoli prosiect arbennig ac yn dysgu dylunio arbrofion a chynllunio rhaglenni gwaith. RHAGLENMSci Mae’r radd israddedig integredig uwch hon yn dilyn ein rhaglen BSc Geneteg Feddygol gyda blwyddyn ychwanegol er mwyn i ti dderbyn hyfforddiant arbenigol ychwanegol mewn ystod eang o dechnegau labordy ac yn datblygu prosiect ymchwil annibynnol estynedig uwch. Mae'r cwrs hwn yn rhoi cymhwyster lefel meistr i ti wrth dalu ffioedd dysgu israddedig ac mae'n ddelfrydol os wyt ti’n cynllunio ar yrfa mewn ymchwil.

FEL ARFER MAE’R MEYSYDD SY’N CAEL EU HASTUDIO’N CYNNWYS: Blwyddyn 1 • Bioleg celloedd ewcaryotig • Dadansoddiad geneteg • Geneteg ac esblygiad sylfaenol • Microbioleg Blwyddyn 2 • Bioystadegau • Ffarmacogenetig • Geneteg ddynol a meddygol • Imiwnoleg Ddynol Blwyddyn 3 • Biotechnoleg a pheirianneg proteinau • Geneteg Canser • Prosiect ymchwil annibynnol dan arweiniad gwyddonydd ymchwil proffesiynol • Tocsicoleg geneteg Blwyddyn 4 (MSci yn unig): • Cyfleu syniadau o wyddoniaeth • Entrepreneuriaeth • Prosiect ymchwil annibynnol uwch dan arweiniad gwyddonydd ymchwil proffesiynol

Nid oes cynnig nodweddiadol neu ofyniad mynediad penodol ar gyfer y cwrs hwn. Rhestrir y manylion llawn am y gofyniad mynediad a nodweddion y cwrs yn y Grid Cyfeirnodi Cyrsiau (tudalen 138)

CYNNIG NODWEDDIADOL: AAB-BBB (gan gynnwys Bioleg a Chemeg fel arfer) Rhestrir y manylion llawn am y gofyniad mynediad a nodweddion y cwrs yn y Grid Cyfeirnodi Cyrsiau (tudalen 138)

Tystysgrif Addysg Uwch Gofal Mamolaeth

BSc Anrhydedd Sengl ▲ Geneteg Feddygol MSci Anrhydedd Sengl ♦ Geneteg Feddygol

GYRFAOEDD POSIB: • C yflwyniad i astudiaethau pellach ym maes gofal iechyd fel Bydwreigiaeth • Dwla • Gweithiwr Cymorth Mamolaeth • Gweinyddes Feithrin 1 BLYNEDD LLAWN-AMSER 2 BLYNEDD RHAN-AMSER Gwna gais yn uniongyrchol i Goleg y Gwyddorau Dynol ac Iechyd: chhsadmissions@abertawe.ac.uk

Geneteg – gweler tudalen 81

▲ 3 BLYNEDD ♦ 4 BLYNEDD Am y codau UCAS unigol, gweler tudalen we’r cwrs

hunangyfeiriedig, yn rhoi'r hyblygrwydd i ti drefnu dy

GYRFAOEDD POSIB: • Cynhyrchion Fferyllol • Gwyddor fforensig

astudiaethau o gwmpas dy waith arall neu ymrwymiadau teuluol.

• Proffesiynau Iechyd (ar ôl astudiaeth bellach) e.e. meddyg, cyswllt meddyg, deintyddiaeth neu filfeddygaeth. • Tocsicoleg Geneteg

*a Champws Parc Dewi Sant, Caerfyrddin

Zanet, Gradd mewn Gofal Mamolaeth

LLWYBR MEDDYGAETH I RADDEDIGION

Mae’r radd hon yn rhan o’r rhaglen Llwybr Meddygaeth i Raddedigion. Cyn belled â’th fod yn bodloni’r gofynion mynediad, ac wedi dilyn y Llwybr Gwyddor Meddygaeth mewn Ymarfer, y modiwl Llwybr i Feddygaeth, gallwn dy warantu y cei gyfweliad ar gyfer ein cwrs MBBCh Meddygaeth i Raddedigion.

Am fanylion llawn y cwrs, gan gynnwys rhestr fodiwl llawn, gweler: abertawe.ac.uk/israddedig/cyrsiau

Am fanylion llawn y cwrs, gan gynnwys rhestr fodiwl llawn, gweler: abertawe.ac.uk/israddedig/cyrsiau

82

83

Made with FlippingBook - Online magazine maker