Prosbectws-Israddedig-2021-Prifysgol-Abertawe

CyfleoeddByd-eang ar gael Ysgoloriaethau/ Bwrsariaethau Cymraeg ar gael (Canllaw Cyflawn i Brifysgolion 2020) 0 UCHAF YN Y DU RHAGOLYGON GRADDEDIGION AC ANSAWDD YMCHWIL

GWAITH CYMDEITHASOL CAMPWS PARC SINGLETON

Os wyt ti am wneud gyrfa ble medra wneud gwir wahaniaeth, positif i fywydau pobl a chymunedau mewn amgylchiadau sy'n agored i niwed, yna ein gradd Gwaith Cymdeithasol yw'r sbardun perffaith. Byddi di’n treulio hanner dy amser ar leoliad gwaith, dysgu drwy arsylwi ac ymarfer, a'r hanner arall yn cael ei addysgu ar ein campws, yn datblygu ymchwil rhagorol a sgiliau dadansoddi ac yn dysgu i gyfathrebu dy syniadau.

Mae ein cwrs yn cael ei achredu gan Ofal Cymdeithasol Cymru a chydnabyddir gan y cyrff rheoleiddio yn y gwledydd eraill yn y DU, er mwyn i ti gofrestru ar ôl cwblhau fel gweithiwr cymdeithasol cymwysedig. Mae gennym gysylltiadau da gydag asiantaethau gwasanaethau cymdeithasol yn ne a gorllewin Cymru, ac mewn awdurdodau lleol a'r sectorau gwirfoddol, gan gynnig lleoliadau mewn amrywiaeth o leoliadau. Pan fyddi di’n gwneud cais am y cwrs, dylet ddweud wrthym am dy ysgogiad, dy brofiad a’th ymrwymiad i ddilyn gyrfa mewn gwaith cymdeithasol a gwneud rhywfaint o ddarllen cefndirol am waith cymdeithasol yng Nghymru, a dylet ti gael dy wahodd i gyfweliad.

FEL ARFER MAE’R MEYSYDD SY’N CAEL EU HASTUDIO’N CYNNWYS: Blwyddyn 1 • Cyflwyniad i gyfraith gwaith cymdeithasol • Cyflwyniad i waith cymdeithasol • Dysgu gwaith cymdeithasol trwy ymarfer • Gwaith cymdeithasol ar waith • Twf a datblygiad dynol Blwyddyn 2 • Damcaniaethau a safbwyntiau mewn gwaith cymdeithasol • Dysgu gwaith cymdeithasol trwy ymarfer • Gwaith cymdeithasol ar waith • Materion cyfreithiol mewn gwaith cymdeithasol a gofal cymdeithasol Blwyddyn 3 • Cymhwyso gwybodaeth i wella ymarfer • Dysgu gwaith cymdeithasol trwy ymarfer • Ymarfer beirniadol mewn gofal plant • Ymarfer beirniadol mewn gofal yn y gymuned i oedolion

Rhestrir ymanylion llawnynyGrid Cyfeirnodi Cyrsiau (tudalen 139)

CYNNIG NODWEDDIADOL: BCC

Rhestrir y manylion llawn am y gofyniad mynediad a nodweddion y cwrs yn y Grid Cyfeirnodi Cyrsiau (tudalen 139)

BSc Anrhydedd Sengl ▲ Gwaith Cymdeithasol

Rydw i wedi dewis astudio trwy gyfrwng y Gymraeg oherwydd rwy’n gobeithio gweithio fel Gweithiwr Cymdeithasol Cymraeg. Mae cael y cyfle i weithio gyda phobl sydd yn siarad neu'n dysgu Cymraeg yn fraint fawr i mi, gan fod y Gymraeg yn rhan bwysig o'm hunaniaeth, sydd yn cefnogi fy natblygiad academaidd. Ar leoliadau gwaith, rwyf wedi gweld y gwahaniaeth y mae defnyddio’r Gymraeg yn ei wneud wrth i fi helpu pobl ac rwy’n cydnabod pwysigrwydd gweithio gyda phobl yn eu mamiaith, gan fod hyn yn cyfoethogi perthynas a phrofiad yr unigolyn. Yn aml, maent yn ymlacio’n gynt i'r sefyllfa ac yn ymddiried yn y berthynas broffesiynol. Mae yna alw mawr am weithwyr Cymraeg eu hiaith gan y Llywodraeth a Chyngor Gofal Cymru. Rydw i’n derbyn Ysgoloriaeth Cymhelliant gan y Coleg Cymraeg Cenedlaethol ac Ysgoloriaeth Academi Hywel Teifi eleni ar gyfer astudio 40 credyd y flwyddyn drwy gyfrwng y Gymraeg. Mae’r arian yn gymorth mawr i brynu adnoddau ar gyfer y cwrs fel gwerslyfrau. Fy hoff elfen o’r cwrs yw cael fy nysgu gan ddarlithwyr sydd â chymaint o brofiad yn y maes, a chael defnyddio’r wybodaeth a’r sgiliau rydym yn dysgu o fewn y darlithoedd ar leoliadau gwaith go iawn.

▲ 3 BLYNEDD Am y codau UCAS unigol, gweler tudalen we’r cwrs

GYRFAOEDD POSIB: • Gweithiwr cymdeithasol cofrestredig • Gweithiwr cymdeithasol ymgynghorol • Gweithiwr ieuenctid a chymunedol • Swyddog adolygu annibynnol • Ymarferwr iechyd meddwl cymeradwy Mae’r cyflogau cychwynnol ar gyfer gweithiwr cymdeithasol sydd newydd gymhwyso yw £28,000. I uwch ymarferydd mae hyn yn cynyddu i rhwng £33,000 a £45,000.

BSc GWAITH CYMDEITHASOL I ddysgu mwy am ein storïau myfyrwyr, gweler: abertawe.ac.uk/astudio/ ein-storiau-myfyrwyr

Am fanylion llawn y cwrs, gan gynnwys rhestr fodiwl llawn, gweler: abertawe.ac.uk/israddedig/cyrsiau

Am fanylion llawn y cwrs, gan gynnwys rhestr fodiwl llawn, gweler: abertawe.ac.uk/israddedig/cyrsiau

84

85

Made with FlippingBook - Online magazine maker