Prosbectws-Israddedig-2021-Prifysgol-Abertawe

BODDHAD MYFYRWYR (Arolwg Cenedlaethol Myfyrwyr 2019) UCHAF YN Y DU 0

BODDHAD MYFYRWYR (Canllaw Da Prifysgolion The Times 2020) YN Y DU 4 YDD

GWAREIDDIAD CLASUROL A’R CLASURON

GWLEIDYDDIAETH CAMPWS PARC SINGLETON

CAMPWS PARC SINGLETON

Gellir dadlau mai gwareiddiadau Hen Wlad Groeg a'r Hen Rufain yw sylfaen cymdeithas y gorllewin, a bydd y graddau hyn yn dy alluogi i feithrin dealltwriaeth newydd o'r diwylliannau sydd wedi ffurfio ein byd modern. Mae Gwareiddiad Clasurol yn ymdrin â llenyddiaeth a diwylliant byd Groeg a byd Rhufain, tra bod y Clasuron yn canolbwyntio ar ieithoedd a llenyddiaeth glasurol Groeg a Lladin. Ar gyfer Gwareiddiad Clasurol, byddi’n

Mae ein gradd mewn Gwleiddyddiaeth yn ystyried sut mae grym, sefydliadau a chyfreithiau’n effeithio ar ein bywydau bob dydd. Maen nhw’n trafod gwahanol weledigaethau am gymdeithas fwy cyfiawn, ac yn gofyn o ble mae problemau i’r gymdeithas yn dod ac a allwn ni eu rhwystro. Fe gei gyfle i ymgymryd ag ymchwil gymhleth sy'n archwilio lle mae pŵer yn gorwedd a sut y caiff ei ddefnyddio.

BlwyddynSylfaen ar gael CyfleoeddByd-eang ar gael

BlwyddynSylfaen ar gael CyfleoeddByd-eang ar gael

Ar gyfer y Clasuron, byddi’n dysgu sut i ddarllen hen destunau yn eu hieithoedd gwreiddiol, hyd yn oed os nad wyt ti’n medru'r ieithoedd ar y dechrau. Gelli gyflwyno myfyrwyr lleol i ieithoedd a diwylliant yr henfyd, a chael profiad addysgu ac arwain gwerthfawr, yn y modiwl Lleoliadau mewn Ysgolion. Gelli hefyd yn astudio naill ai Groeg neu Ladin fel gradd Cydanrhydedd gyda Hanes yr Henfyd neu Eifftoleg. FEL ARFER MAE'R MEYSYDD Y CLASURON SY’N CAEL EU HASTUDIO’N CYNNWYS: Blwyddyn 1-3 Mae Lladin a Groeg ar y lefel briodol allan o Ddechreuwyr, Canolradd, Pellach ac Uwch, yn dibynnu ar brofiad blaenorol. Mae lefelau Pellach a lefelau Uwch yn darllen symiau cynyddol o ryddiaith, lenyddiaeth rhyddiaith a llenyddiaeth pennill yn yr ieithoedd gwreiddiol. Blwyddyn 1 • 2 fodiwl o Ladin a Groeg • O s nad wyt wedi gwneud o’r blaen, bydd rhaid i ti gymryd 2 fodiwl o naill ai ar lefelau Dechrau, a dechrau’r llall yn yr ail flwyddyn Blwyddyn 2 • Lleoliad gwaith mewn ysgol: Addysgu hanes ac ieithoedd yr henfyd Blwyddyn 3 • Traethawd Estynedig ar y Clasuron, Hanes yr Henfyd, Eifftoleg

Rhestrir ymanylion llawnynyGrid Cyfeirnodi Cyrsiau (tudalen 139)

Rhestrir ymanylion llawnynyGrid Cyfeirnodi Cyrsiau (tudalen 139)

Byddi di’n archwilio gwleidyddiaeth Brydeinig ac Ewropeaidd, polisi cyhoeddus, damcaniaeth ac athroniaeth wleidyddol, materion etholiadol, democratiaeth, a heddwch a gwrthdaro rhyngwladol. Ar yr un adeg, byddi di’n datblygu sgiliau trosglwyddadwy y mae cyflogwyr yn eu gwerthfawrogi'n fawr. Cei gyfle i gymryd interniaeth gyda Chynulliad Cenedlaethol Cymru fel rhan o’r modiwl; Cynulliad Cenedlaethol Cymru. Mae Prifysgol Abertawe hefyd yn un o nifer cyfyngedig o sefydliadau a ddewiswyd i ddechrau partneriaeth â Senedd y DU i gyflwyno modiwl arloesol, Astudiaethau Seneddol i fyfyrwyr yn y drydedd flwyddyn. Mae’r modiwl yn cynnwys cyfres o sesiynau gydag arbenigwyr ac aelodau o staff sy’n gweithio yn Senedd y DU. Bydd yn arwain at ymweld â San Steffan am ddiwrnod, a fydd yn cynnwys sgwrsio ag uwch-aelodau o’r Senedd.

FEL ARFER MAE’R MEYSYDD SY’N CAEL EU HASTUDIO’N CYNNWYS: Blwyddyn 1 • Athroniaeth Wleidyddol • Cyflwyniad i Fethodoleg Wleidyddol • Cyflwyniad i Wleidyddiaeth • Gwleidyddiaeth a’r bobl • Gwleidyddiaeth a Chymdeithas Americanaidd • Moeseg, Cyfiawnder a’r Gymdeithas Blwyddyn 2 • America mewn Argyfwng: Diwylliant a Chymdeithas Gwleidyddol o Ymosodiadau TET i Trump • Busnes & Entrepreneuriaeth • Gwleidyddiaeth Prydeinig a Pholisi Cyhoeddus • Sefydliadau’r Wladwriaeth a Gwleidyddol Blwyddyn 3 • Astudiaethau Seneddol • Athroniaeth a’r Gwyddorau Cymdeithasol • Cynulliad Cenedlaethol Cymru • Etholiadau, Ymgyrchoedd, a Phleidleisio • Traethawd Estynedig • Ymchwilio Gwleidyddiaeth 1 • Ymchwilio Gwleidyddiaeth 2

archwilio mytholeg Gwlad Groeg a Rhufain er mwyn sicrhau bod gennyt sylfaen gadarn o ran y straeon y byddai pobl yr henfyd yn eu dweud wrth ei gilydd, cyn dysgu sut i ddarllen testunau yn fanwl. Byddi’n archwilio llenyddiaethau llai uchel-ael yr henfyd a ddiystyrir yn aml, gan gynnwys y nofel, athroniaeth boblogaidd a barddoniaeth ddychanol. FEL ARFER MAE'R MEYSYDD GWAREIDDIAD CLASUROL SY’N CAEL EU HASTUDIO’N CYNNWYS: Blwyddyn 1 • Cyflwyniad i Athroniaeth a Rhethreg yr Henfyd • Metamorphoses Ovid: Trawsnewidiadau Mytholeg • Ynghylch Duwiau ac Arwyr – Mytholeg Groeg Blwyddyn 2 • Darllen Gwareiddiad Clasurol Blwyddyn 2/3 • Canu Serch Rhufeinig • Dychan Rhufeinig: Rhefru ac Herian • Gweriniaeth Plato • Lleoliad gwaith mewn ysgol: Addysgu hanes ac ieithoedd yr henfyd • Penderfyniad a Chyfrifoldeb: Y Rhagdybiaeth Drasig • Y Nofel Gomig Rhufeinig: Ysgarthiad a Sagrafen • Y Rhamant Groeg: Môr, Haul, a Rhyw Blwyddyn 3 • Traethawd Estynedig ar y Clasuron, Hanes yr Henfyd, Eifftoleg

CYNNIG NODWEDDIADOL: BBB

CYNNIG NODWEDDIADOL: BBB

Rhestrir y manylion llawn am y gofyniad mynediad a nodweddion y cwrs yn y Grid Cyfeirnodi Cyrsiau (tudalen 139)

Rhestrir y manylion llawn am y gofyniad mynediad a nodweddion y cwrs yn y Grid Cyfeirnodi Cyrsiau (tudalen 139)

BSc Anrhydedd Sengl ▲ Gwleidyddiaeth ♦ Gwleidyddiaeth

BA Anrhydedd Sengl ▲ Gwareiddiad Clasurol ♦ Gwareiddiad Clasurol

(gyda Blwyddyn Dramor)

(gyda Blwyddyn Dramor)

♦ Gwleidyddiaeth

♦ Gwareiddiad Clasurol

(gyda Blwyddyn Sylfaen)

(gyda Blwyddyn Sylfaen)

▲ Y Clasuron ♦ Y Clasuron (gyda Blwyddyn Dramor) ♦ Y Clasuron (gyda Blwyddyn Sylfaen)

BA Cydanrhydedd Gwleidyddiaeth a ♦ Almaeneg (gyda Blwyddyn Dramor) ▲ Astudiaethau Americanaidd ♦ Astudiaethau Americanaidd (gyda Blwyddyn Dramor) ▲ Cymraeg (Iaith Gyntaf) ▲ Cymraeg (Ail Iaith) ♦ Ffrangeg (gyda Blwyddyn Dramor) ▲ Hanes ♦ Hanes (gyda Blwyddyn Dramor) ▲ Hanes yr Henfyd

BA Cydanrhydedd Gwareiddiad Clasurol a

♦ Almaeneg (gyda Blwyddyn Dramor) ♦ Ffrangeg (gyda Blwyddyn Dramor) ▲ Groeg ♦ Groeg (gyda Blwyddyn Dramor) ▲ Lladin ♦ Lladin (gyda Blwyddyn Dramor)

▲ Llenyddiaeth Saesneg ♦ Llenyddiaeth Saesneg

▲ Llenyddiaeth Saesneg ♦ Llenyddiaeth Saesneg

(gyda Blwyddyn Dramor)

(gyda Blwyddyn Dramor)

▲ Polisi Cymdeithasol ♦ Sbaeneg (gyda Blwyddyn Dramor)

▲ 3 BLYNEDD ♦ 4 BLYNEDD Am y codau UCAS unigol, gweler tudalen we’r cwrs

▲ 3 BLYNEDD ♦ 4 BLYNEDD Am y codau UCAS unigol, gweler tudalen we’r cwrs

GYRFAOEDD POSIB: • Addysg • Archifau • Amgueddfa a threftadaeth • Busnes • Cyfryngau a chysylltiadau cyhoeddus • Marchnata

GYRFAOEDD POSIB: • Addysg • Busnes • Cyfryngau a chysylltiadau cyhoeddus • Llywodraeth a gwleidyddiaeth • Sefydliadau dyngarol • Y gyfraith

Am fanylion llawn y cwrs, gan gynnwys rhestr fodiwl llawn, gweler: abertawe.ac.uk/israddedig/cyrsiau

Am fanylion llawn y cwrs, gan gynnwys rhestr fodiwl llawn, gweler: abertawe.ac.uk/israddedig/cyrsiau

86

87

Made with FlippingBook - Online magazine maker