Prosbectws-Israddedig-2021-Prifysgol-Abertawe

ADRAN GWYDDOR CHWARAEON (Canllaw Prifysgolion Da The Times and Sunday Times 2020) UCHAF YN Y DU 5

GWYDDOR CHWARAEON A CHYMDEITHASOL CAMPWS Y BAE

GWYDDOR CHWARAEON AC YMARFER CORFF CAMPWS Y BAE

RHAGOLYGON GRADDEDIGION (Tabl Cynghrair Prifysgolion The Guardian 2020) YN Y DU 7 FED

Bydd y cwrs hwn yn galluogi myfyrwyr i feithrin eu gwybodaeth a'u dealltwriaeth o rôl chwaraeon, iechyd ac ymarfer corff mewn cymdeithas, gan ganolbwyntio ar feysydd pwnc allweddol: Athroniaeth Chwaraeon, Seicoleg Chwaraeon, Seicoleg Iechyd ac Ymarfer Corff a Pholisi Chwaraeon.

Mae Gwyddor Chwaraeon ac Ymarfer Corff yn archwilio'r ffordd y mae'r corff dynol yn perfformio o dan lefelau gwahanol o bwysau, mae hefyd yn cwmpasu'r materion ehangach sydd dan sylw, o gyfranogiad ehangach mewn chwaraeon ac ymarfer corff, i foeseg, seicoleg chwaraeon a maetheg. Mae'r cwrs gradd hwn yn darparu craidd cadarn o ddysgu modern a pherthnasol, gan dy baratoi ar gyfer gyrfa sy'n llawn boddhad yn y maes, beth bynnag o'th ddewis arbenigedd.

CyfleoeddByd-eang ar gael

CyfleoeddByd-eang ar gael

• Cyflwyniad i Resymu'n Feirniadol • Dimensiynau Seicolegol Chwaraeon 1: Ystyriaethau ar gyfer Chwaraeon Ieuenctid • Dulliau Ymchwil ar gyfer Gwyddor Gymdeithasol • Sylfeini Gwyddor Ymarfer Corff Blwyddyn 2 • Cyflogadwyedd, Arloesi ac Ymgysylltu ar gyfer Gwyddor Chwaraeon a Chymdeithasol • Datblygu Dulliau Ymchwil ar gyfer Gwyddor Chwaraeon a Chymdeithasol • Dimensiynau Seicolegol Chwaraeon 2: Deall a Datblygu Athletwyr yn eu Harddegau • Gwyddor Ymarfer Corff: Ymyriadau a Chymwysiadau • Materion Allweddol mewn Cymdeithaseg Chwaraeon ar gyfer Gwyddor Chwaraeon a Chymdeithasol • Moeseg Atal Dopio: Iechyd, Chwaraeon a Chymdeithas Blwyddyn 3 • Materion Cyfoes mewn Chwaraeon a Gwyddor Gymdeithasol • Seicoleg Chwaraeon 3 • Traethawd Estynedig Gwyddor

Yn wahanol i ddeall unigolion a'u profiadau o safbwynt meddygol, nod y rhaglen hon yw galluogi myfyrwyr i feithrin dealltwriaeth o bynciau chwaraeon ac ymarfer corff o safbwynt cymdeithasol, gwyddonol a dyneiddiol, ac i ddatblygu sgiliau meddwl yn feirniadol a dadansoddi allweddol y gellir eu defnyddio wrth fynd i'r afael ag amrywiaeth o heriau academaidd ac yn y byd go iawn. Bydd yr ymagwedd hon yn cynnwys dimensiynau cysyniadol, esboniadol a normadol. Bydd ystyr gwerthoedd a chysyniadau canolog mewn chwaraeon yn cael eu dadansoddi'n athronyddol. Bydd diwylliannau, arferion a phrofiadau chwaraeon yn cael eu harchwilio gan ddefnyddio dulliau cymdeithasegol a seicolegol. Bydd materion polisi ac egwyddorion ymddygiad priodol mewn chwaraeon yn cael eu harchwilio o safbwynt moesegol. O ganlyniad, bydd myfyrwyr yn datblygu dealltwriaeth ddofn ac amlddisgyblaethol o ystyr, gwerth a rôl gymdeithasol chwaraeon. FEL ARFER MAE’R MEYSYDD SY’N CAEL EU HASTUDIO’N CYNNWYS: Blwyddyn 1 • Chwaraeon • Cyflwyniad i Chwaraeon a Chymdeithas • Cyflwyniad i Foeseg a Pholisi Chwaraeon

Rhestrir ymanylion llawnynyGrid Cyfeirnodi Cyrsiau (tudalen 139)

Rhestrir ymanylion llawnynyGrid Cyfeirnodi Cyrsiau (tudalen 140)

Mae gan Gwyddor Chwaraeon ac Ymarfer Corff enw da ac mae'n denu myfyrwyr o bedwar ban byd. Wrth i ti fynd yn dy flaen drwy'r cwrs, bydd y diddordebau a'r galluoedd y byddi di’n eu datblygu yn cyfuno â phrofiad ymarferol o ddefnyddio cyfarpar soffistigedig, gan feithrin sgiliau sy'n hanfodol i sicrhau cyflogaeth. Mae ein cyfleusterau o'r radd flaenaf wedi'u lleoli ar Gampws y Bae, yn yr Ardal Beirianneg sy'n edrych dros yr arfordir ar ymyl Penrhyn Gŵyr. Byddi di’n gwneud defnydd helaeth o'n Labordy Biomecaneg pwrpasol, sy'n cynnwys system dadansoddi mudiant o'r radd flaenaf. Drwy gydol dy amser, byddi hefyd yn gweithio'n agos yn y Labordy Ffisioleg Ymarfer Corff. Mae'r labordy hwn yn cynnwys amrywiaeth o ergomedrau ymarfer corff a chyfarpar ar gyfer asesu gweithrediad yr ysgyfaint, dadansoddi gwaed a phrofi gweithrediad y cyhyrau.

FEL ARFER MAE’R MEYSYDD SY’N CAEL EU HASTUDIO’N CYNNWYS: Blwyddyn 1 • Anatomeg Ddynol • Biofecaneg a Thechnoleg A • Dulliau a Moeseg Ymchwil • Ffisioleg Ddynol • Sylfeini Seicoleg Chwaraeon Blwyddyn 2 • Biofecaneg a Thechnoleg B • Cryfder a Chyflyru • Datblygu Dulliau Ymchwil ar gyfer Gwyddor Chwaraeon • Ffisioleg Ymarfer Corff • Materion Cyfoes mewn Seicoleg Chwaraeon Blwyddyn 3 • Chwaraeon, Deiet a Chlefyd • Cymhwyso Ffisioleg Chwaraeon • Integredd chwaraeon, Moeseg a Pholisïau • Ymarfer Corff ar gyfer Iechyd • Ymarfer Corff, Twf a Datblygu

CYNNIG NODWEDDIADOL: AAB-BBB

CYNNIG NODWEDDIADOL: AAB-BBB Rhestrir y manylion llawn am y gofyniad mynediad a nodweddion y cwrs yn y Grid Cyfeirnodi Cyrsiau (tudalen 140) BSc Anrhydedd Sengl ▲ Gwyddor Chwaraeon ac Ymarfer Corff ♦  Gwyddor Chwaraeon ac Ymarfer Corff (gyda Blwyddyn Dramor)

Rhestrir y manylion llawn am y gofyniad mynediad a nodweddion y cwrs yn Grid Cyfeirnodi Cyrsiau (tudalen 139)

BSc Anrhydedd Sengl ▲ Gwyddor Chwaraeon a Chymdeithasol

▲ 3 BLYNEDD Am y codau UCAS unigol, gweler tudalen we’r cwrs

▲ 3 BLYNEDD ♦ 4 BLYNEDD Am y codau UCAS unigol, gweler tudalen we’r cwrs

GYRFAOEDD POSIB: • Addysg • Atgyfeirio at raglenni ymarfer corff Polisi chwaraeon • Cyd-destunau adsefydlu • Datblygu chwaraeon • Lles cymunedol • Mentrau rhagnodi cymdeithasol

GYRFAOEDD POSIB: • Dadansoddwr perfformiad • Ffisiolegydd cardiaidd • Gwyddonydd chwaraeon a pherfformiad • Gwyddonydd iechyd y cyhoedd • Swyddog hybu iechyd • Ymarferydd cryfder a chyflyru

Chwaraeon a Chymdeithasol • Uniondeb, Moeseg a Pholisi Chwaraeon • Ymarfer Corff ar gyfer Iechyd

ARDYSTIWYD GAN:

Am fanylion llawn y cwrs, gan gynnwys rhestr fodiwl llawn, gweler: abertawe.ac.uk/israddedig/cyrsiau

Am fanylion llawn y cwrs, gan gynnwys rhestr fodiwl llawn, gweler: abertawe.ac.uk/israddedig/cyrsiau

90

91

Made with FlippingBook - Online magazine maker