Prosbectws-Israddedig-2021-Prifysgol-Abertawe

GWYDDOR DAEAR AMGYLCHEDDOL CAMPWS PARC SINGLETON

GWYDDORAU CYMDEITHASOL CAMPWS PARC SINGLETON

BlwyddynSylfaen ar gael CyfleoeddByd-eang ar gael Ysgoloriaethau/ Bwrsariaethau Cymraeg ar gael RHAGOLYGON GYRFA (Canllaw i Brifysgolion The Guardian 2020) YN Y DU 4 YDD DAEARYDDIAETH

RHO ASTUDIAETH

AR WAITH GYDA LLEOLIAD GWAITH MAE’N RHAN O’TH GWRS

Mae Gwyddor Daear Amgylcheddol yn cyfuno astudio tirweddau ac amgylcheddau naturiol mewn daearyddiaeth ffisegol ag agweddau ar Ddaeareg i edrych ar y prosesau ffisegol sy’n llunio ein planed a’r newidiadau sydd wedi effeithio ar amgylcheddau dros gyfnodau o ganrifoedd i gannoedd o filiynau o flynyddoedd. Mae ein lleoliad yn golygu ei bod hi'n hawdd cyrraedd lleoedd mor amrywiol â Phenrhyn Gŵyr, Bannau Brycheiniog, ardaloedd gwledig gorllewin Cymru a thirweddau diwydiannol trefol de Cymru.

Os wyt yn awyddus i wybod sut mae cymdeithasau'n gweithio, y cwrs gradd amlddisgyblaethol hwn mewn Gwyddorau Cymdeithasol yw'r un i ti. Byddi di’n ymchwilio i'r ffactorau a'r grymoedd sy'n dylanwadu ar faterion cymdeithasol pwysig fel tlodi, mynediad at addysg a gofal iechyd, y newid yn yr hinsawdd, ac ymfudo, gan ddysgu sut i werthuso ymarfer a pholisi cyfredol yn feirniadol, gan ddatblygu sylfaen gadarn yn y damcaniaethau a'r modelau cysyniadol sy'n sail i wyddor gymdeithasol gyfoes.

CyfleoeddByd-eang ar gael

Rhestrir ymanylion llawnynyGrid Cyfeirnodi Cyrsiau (tudalen 140)

Fel myfyriwr Gwyddorau Cymdeithasol, byddi di’n cael dy drwytho mewn amgylchedd ymchwil a dysgu dynamig. Bydd cyfleoedd i feithrin cysylltiadau â myfyrwyr o ddisgyblaethau cysylltiedig. Trwy gydol y cwrs, byddi di’n meithrin y sgiliau ymchwil a dadansoddi rhagorol sydd eu hangen i ddeall y materion cymdeithasol sy'n effeithio ar bob un ohonom mewn amgylchedd cymdeithasol a gwleidyddol sy'n newid yn gyflym, a mynd i'r afael â nhw. Gelli hefyd astudio modiwl iaith yn dy ail flwyddyn, gan ddewis rhwng Cymraeg, Ffrangeg, Eidaleg, Sbaeneg neu Arabeg, ac ochr yn ochr â'th waith academaidd, cei gyfle i gwblhau lleoliad gwaith fel rhan o’th radd.

FEL ARFER MAE’R MEYSYDD SY’N CAEL EU HASTUDIO’N CYNNWYS: Blwyddyn 1 • Cydraddoldeb, gwahaniaethu a gormes yn y gymdeithas • Pŵer a gwleidyddiaeth • Tlodi a digonedd • Ymholiad cymdeithasol mewn ymarfer Blwyddyn 2 • Cymdeithaseg o iechyd ac anhwylder • Diogelu plant a phobl ifanc • Nawdd cymdeithasol, tlodi ac allgáu cymdeithasol • O unigolion i’r gymdeithas • Polisi teuluol • Ymchwil ac arfarniad beirniadol yng ngofal iechyd a chymdeithasol Blwyddyn 3 • Egwyddorion polisi cymdeithasol • Eiriolaeth, hawliau a chynrychiolaeth • Gwneud gwyddor cymdeithasol • Polisi cymdeithasol mewn byd sy’n heneiddio • Safbwyntiau byd-eang a gweithio mewn byd byd-eang

CYNNIG NODWEDDIADOL: AAB-ABB Rhestrir y manylion llawn am y gofyniad mynediad a nodweddion y cwrs yn y Grid Cyfeirnodi Cyrsiau (tudalen 140)

Rydym yn cyfuno daearyddiaeth ffisegol gydag agweddau ar ddaeareg, sy'n dy alluogi i ymchwilio i brosesau sydd wedi llunio'r ddaear dros filiynau o flynyddoedd. Ochr yn ochr â gwybodaeth arloesol a meistroli cysyniadau allweddol, rydym yn rhoi pwyslais mawr ar ddysgu gweithredol drwy waith maes. Gelli addasu dy radd i gyd-fynd â'th ddiddordebau drwy gynnwys amrywiaeth eang o fodiwlau daeareg a daearyddiaeth ddynol neu ffisegol. Byddwn yn sicrhau bod gennyt yr adnoddau proffesiynol a'r meddylfryd graddedig sydd eu hangen arnat er mwyn helpu i ddatrys rhai o'r heriau mawr sy'n ein hwynebu heddiw. Mae'r asesiadau yn amrywiol ac yn integreiddiol, sy'n dy alluogi i feistroli sgiliau meddwl yn feirniadol, datrys

FEL ARFER MAE’R MEYSYDD SY’N CAEL EU HASTUDIO’N CYNNWYS: Blwyddyn 1 • Cyflwyniad i'r Ddaear: Trosolwg o Ddaeareg • Cynaliadwyedd • Gwyddor Daear yn y maes • Peryglon Naturiol • Sgiliau Daearyddol • Systemau Dynameg y Ddaear Blwyddyn 2 • Ailadeiladu Newid Amgylcheddol Cwaternaidd • Amgylcheddau a Phrosesau Rhewlifol • Cofnod Daearegol o Newid Amgylcheddol • Synhwyro o Bell • Systemau Gwybodaeth Ddaearyddol Blwyddyn 3 • Hinsawdd y 1,000 o flynyddoedd diwethaf • Meteoroleg a gwyddoniaeth yr atmosffer • Rhewlifeg • Tectoneg platiau a geoffiseg fyd-eang

Rhestrir ymanylion llawnynyGrid Cyfeirnodi Cyrsiau (tudalen 140)

CYNNIG NODWEDDIADOL: AAB-BBB (gan gynnwys Daearyddiaeth neu bwnc perthnasol) Rhestrir y manylion llawn am y gofyniad mynediad a nodweddion y cwrs yn y Grid Cyfeirnodi Cyrsiau (tudalen 140) BSc Anrhydedd Sengl ▲ Gwyddor Daear Amgylcheddol ♦ Gwyddor Daear Amgylcheddol (gyda Blwyddyn mewn Diwydiant) ♦ Daearyddiaeth (gyda Blwyddyn Sylfaen) yn arwain at BSc Gwyddor Daear Amgylcheddol

BSc Anrhydedd Sengl ▲ Gwyddorau Cymdeithasol

▲ 3 BLYNEDD Am y codau UCAS unigol, gweler tudalen we’r cwrs

GYRFAOEDD POSIB: • Addysg a hyfforddiant proffesiynol e.e. y Gyfraith, gwaith cymdeithasol neu addysgu • Cyrff gwirfoddol / Trydydd Sector - Arweinyddiaeth a Rheoli • Gwasanaethau Cyhoeddus • S ystem Cyfiawnder Troseddol • Y Gwasanaeth Sifil • Y mchwil Gwyddor Cymdeithasol mewn cyrff cyhoeddus neu breifat

▲ 3 BLYNEDD ♦ 4 BLYNEDD Am y codau UCAS unigol, gweler tudalen we’r cwrs

GYRFAOEDD POSIB: • Addysgu

problemau, arweinyddiaeth, entrepreneuriaeth a gweithio mewn tîm yn hyderus.

• Asesiad risg yswiriant • Diwydiannau cynhyrchu ynni ac ymgynghoriaeth • Gwaith cadwraeth (awdurdodau lleol a chyrff anllywodraethol) • Peirianneg ddaearegol • R heoli amgylcheddol ac adnoddau

Am fanylion llawn y cwrs, gan gynnwys rhestr fodiwl llawn, gweler: abertawe.ac.uk/israddedig/cyrsiau

Am fanylion llawn y cwrs, gan gynnwys rhestr fodiwl llawn, gweler: abertawe.ac.uk/israddedig/cyrsiau

92

93

Made with FlippingBook - Online magazine maker