ISRADDEDIG 2023 PRIFYSGOL ABERTAWE

GWYDDOR YR AMGYLCHEDD A'R ARGYFWNG HINSAWDD CAMPWS PARC SINGLETON

DAEARYDDIAETH FFISEGOL BODDHAD CYFFREDINOL (Arolwg Cenedlaethol o Fyfyrwyr 2021) YN Y DU 8 FED

Nawr yw'r amser ar gyfer gweithredu blaengar er mwyn meithrin ymatebion lleol a byd-eang effeithiol i'r argyfwng yn yr hinsawdd a’r argyfwng cymdeithasol. Mae ein hinsawdd a'n hamgylcheddau'n newid ar gyflymdra brawychus, na welwyd ei debyg o'r blaen, gan beri canlyniadau enfawr a thrychinebus yn aml. Byddi’n archwilio'r cysylltiadau dwfn rhwng gwyddor amgylcheddol a gwyddor gymdeithasol, yn dysgu sut i ddefnyddio dy hyfforddiant yn y labordy ac yn y maes, ynghyd â dy wybodaeth academaidd, i ddyfeisio'r genhedlaeth nesaf o addasiadau, mesurau lliniaru ac atebion.

Blwyddyn Sylfaen ar gael – am fanylion llawn, gweler tudalennau 58-63 Cyfleoedd Byd-eang ar gael † Ysgoloriaethau/Bwrsariaethau Cymraeg ar gael

Bydd y rhaglen radd hon yn rhoi i ti'r sgiliau personol a phroffesiynol hollbwysig hynny a'r arbenigedd rhyngddisgyblaethol i wneud gwahaniaeth yn y byd. Byddi di’n gallu astudio amrywiaeth o bynciau sy'n berthnasol i'r argyfwng hinsawdd, gan gynnwys: • Arsylwi ar y ddaear a synhwyro o bell • Modelu amgylcheddol • Newid yn yr hinsawdd ac ail-greu'r hinsawdd • Systemau Gwybodaeth Ddaearyddol Mae'r rhaglen addysgu'n rhoi pwyslais cryf ar ddysgu gweithredol ac ymarferol, datrys problemau ac asesu go iawn, yn y maes ac yn y labordy. Bydd myfyrwyr sy'n graddio o'r rhaglen hon yn meddu ar yr wybodaeth a'r sgiliau sy'n addas am amrywiaeth eang o yrfaoedd, gan gynnwys ymgynghori amgylcheddol ac ecolegol, cyrff llywodraethol, yswiriant a rheoli risg, sefydliadau anllywodraethol, busnes, cynllunio trefol, asiantaethau trafnidiaeth a’r sectorau ynni adnewyddadwy.

FEL ARFERMAE'RMODIWLAU SY'N CAEL EU HASTUDIO'N CYNNWYS: Blwyddyn 1 • Botaneg ac Ecoleg • Bywyd yn y Cefnforoedd • Cynaliadwyedd a'r Argyfwng Hinsawdd • Systemau Dynamig y Ddaear Blwyddyn 2 • Cwrs Maes Preswyl • Dinasoedd Cynaliadwy • Ecoleg Planhigion • Y Ddaear o’r Gofod Blwyddyn 3 • Bioamrywiaeth • Bioleg Begynol • Ecoleg a Chadwraeth Forol Drofannol • Hinsawdd y 1,000 o Flynyddoedd Diwethaf

CYNNIG NODWEDDIADOL: ABB-BBB (gan gynnwys un o'r canlynol: Bioleg, Daeareg, Daearyddiaeth neu Wyddor Amgylcheddol) Rhestrir y manylion llawn am y gofyniad mynediad a nodweddion y cwrs yn GridCyfeirnodi Cyrsiau (tudalen167) † BSc Anrhydedd Sengl ▲ Gwyddor yr Amgylchedd a'r Argyfwng Hinsawdd ♦ Daearyddiaeth (gyda Blwyddyn Sylfaen) yn arwain at BSc Gwyddor yr Amgylchedd a'r Argyfwng Hinsawdd

▲ 3 BLYNEDD ♦ 4 BLYNEDD Am y codau UCAS unigol, gweler tudalen we’r cwrs

GYRFAOEDD YN Y DYFODOL: • Busnes, Cynllunio Trefol, Asiantaethau Trafnidiaeth • Cyrff Llywodraethol • Sefydliadau Anllywodraethol • Y Sectorau Ynni Adnewyddadwy • Yswiriant a Rheoli Risg • Y mgynghoriaeth Amgylcheddol ac Ecolegol

107

Made with FlippingBook Annual report maker