ISRADDEDIG 2023 PRIFYSGOL ABERTAWE

DRWS I DDYFODOL DISGLAIR PRIFYSGOL ABERTAWE

ISRADDEDIG 2023

CROESO I

DRWS I DDYFODOL DISGLAIR Prifysgol gymunedol ydyn ni ac rydyn bob amser wedi bod. Mae ein ffocws ar foddhad myfyrwyr a rhagoriaeth (rydyn ni'n 12fed yn y DU ar gyfer boddhad myfyrwyr (Arolwg Cenedlaethol o Fyfyrwyr 2021)). Ym Mhrifysgol Abertawe, cei fuddion trylwyredd academaidd ac ansawdd addysgu y mae ein myfyrwyr wedi eu mwynhau ers dros 100 o flynyddoedd ac rydyn wedi cynhyrchu sawl cyn-fyfyriwr nodedig a blaenllaw. Mae'r Brifysgol yn falch iawn o’i thraddodiad o gefnogi, hyrwyddo a chyfoethogi diwylliant Cymru a’r iaith Gymraeg. Mae ein darpariaeth academaidd cyfrwng Cymraeg wedi cynyddu’n sylweddol dros y blynyddoedd diwethaf ac yma cei fanteisio ar gyfleoedd unigryw a chyffrous i astudio amrediad eang o bynciau yn yr iaith. Beth am astudio trwy'r Gymraeg neu yn ddwyieithog mewn Prifysgol sydd â chysylltiadau amlddiwylliannol a rhyngwladol. Mae ein campysau glan môr trawiadol a'n croeso cyfeillgar yn gwneud Prifysgol Abertawe'n lleoliad dymunol ar gyfer myfyrwyr o bedwar ban byd. Rydyn yn ymfalchïo yn natur gynnes ein croeso a'n diwylliant o gynwysoldeb, sy'n creu amgylchedd cyfoethog ac amrywiol lle gellir cynnal addysgu ac ymchwil o'r safon uchaf. Rydyn yn dy groesawu i ymuno â ni a gwerthfawrogwn dy gyfraniad hollbwysig – rydyn yn croesawu safbwyntiau newydd a chei’r adborth y mae ei angen arnat i ffynnu yn Abertawe. Gelli gael gwybod mwy am Brifysgol Abertawe a'n rhaglenni gradd drwy gadw lle ar un o'n diwrnodau agored sydd ar ddod*

abertawe.ac.uk/diwrnodau-agored

*gwiria'r wefan am fanylion llawn, dyddiadau a fformat diwrnodau agored sydd ar ddod.

A

FFRAMWAITH RHAGORIAETH & DEILLIANNAU MYFYRWYR (Y dyfarniad uchaf am Ragoriaeth Addysgu ym mhrifysgolion y DU) 12 YN Y DU AM FODDHAD MYFYRWYR FED (Yn seiliedig ar restr o 131 o sefydliadau sy'n ymddangos yn y Times Good University Guide 2021)

2 AIL YN Y DU 25 UCHAF YN Y DU PRIFYSGOL

(The Guardian University Guide 2021)

(WhatUni Student Awards 2021)

BYWYD ABERTAWE Gwiria 10 Peth Gorau i’w gwneud yn Abertawe yn ôl ein Glasfyfyrwyr

PAID Â BOD YN NERFUS

Gweler ein tudalennau ar Undeb y Myfyrwyr a Chymorth a Lles

TUDALEN 16

TUDALENNAU 30, 40

YN YSTYRIED TEITHIO DRAMOR YN YSTOD DY ASTUDIAETHAU?

GWNEUD CAIS

ATHRAWON AC YMGYNGHORWYR Mae manylion llawn y cwrs yn yr adran cyrsiau. Mae'r adran, ‘Sut i Wneud Cais’, yn rhoi gwybodaeth fanwl ar ein cynnig,

Gweler ein rhestr wirio a’n cyngor wrth ein Swyddfa Dderbyn ar wneud cais

Cadwa lygad am y symbol awyren drwy’r holl dudalennau cyrsiau

gan gynnwys ein ‘cynnig gwarantedig’ ar gyfer lle

TUDALENNAU 54-57

PAID Â DERBYN EIN GAIR NI AM HYN… Chwilia am yr hyn y mae gan fyfyrwyr ei ddweud am fyw ac astudio ym Mhrifysgol Abertawe

YN POENI NA FYDDI DI’N BODLONI’R GOFYNION GRADDAU? GALLWN NI HELPU Archwilia dy opsiynau; mae gennym amrywiaeth o raglenni Blwyddyn Sylfaen Integredig gydag amrywiaeth o gymwysterau derbyniol. Gweler ein tudalennau Blwyddyn Sylfaen a chwilia am y symbol sylfaen ar bob tudalen cwrs

TUDALEN 58

TUDALEN 19

A HOFFET TI ASTUDIO DRWY GYFRWNG Y GYMRAEG? Cadwa lygad am y symbolau swigen siarad wrth ymyl cyrsiau lle mae hyn ar gael

RHEOLI DY ARIAN Dysga fwy am gostau byw nodweddiadol wrth fyw yn Abertawe a chael y wybodaeth lawn ar ffioedd, ariannu ac ysgoloriaethau

TUDALEN 32

TUDALENNAU 27, 50

02

DY YRFA Gwiria ein tudalennau ar Gyflogadwyedd a rhestr ‘gyrfaoedd y dyfodol’ ar bob un o’n tudalen cwrs

TUDALEN 10

04 PAM MAE YMCHWIL YN BWYSIG 06 GWNEUD GWAHANIAETH 08 DYSGU AC ADDYSGU 10 GYRFAOEDD, SGILIAU A CHYFLOGADWYEDD 12 YMUNA Â'N CYN-FYFYRWYR NEILLTUOL 14 ABERTAWE A'R RHANBARTH 16 PIGION GLASFYFYRWYR

DEALL Y JARGON Cymer gipolwg ar ein canllaw deall y jargon

TUDALEN 64

19 BARN EIN MYFYRWYR 22 MAPIAU'R CAMPWS 26 LLETY 30 LLES A CHYMORTH MYFYRWYR 32 ACADEMI HYWEL TEIFI 34  ASTUDIO A CHYMDEITHASU TRWY GYFRWNG Y GYMRAEG 38 ASTUDIO A GWEITHIO DRAMOR 40 UNDEB Y MYFYRWYR 42 CHWARAEON 46 CYFLEUSTERAU 49 CYNALIADWYEDD 50 FFIOEDD AC ARIANNU 52 RHIENI A GWARCHEIDWAID 54 SUT I WNEUD CAIS 58 RHAGLENNI BLWYDDYN SYLFAEN 66 CYRSIAU A-Y 1 67 GRID CYFEIRNODI CYRSIAU 1 80 MYNEGAI 18 1 MAP

IECHYD A LLES Mae hyn yn bwysig inni, cymer gipolwg ar Wasanaethau Myfyrwyr

TUDALEN 30

Gwiria amseroedd teithio a chael gwybod mwy am ein bysus dydd a nos, a pha mor hawdd yw hi i fynd o gampws i gampws ac o’r campws i’r ddinas TEITHIO O GWMPAS

TUDALENNAU 22-25, 1 8 1

03

PRIFYSGOL YMCHWIL DDWYS

Mae ein hymchwil yn newid bywydau, yn gyrru arloesedd, ac mae'n cyd-fynd â Nodau Datblygu Cynaliadwy'r Cenhedloedd Unedig. Rydyn yn archwilio ffyrdd newydd o asesu a lliniaru risgiau'r argyfwng hinsawdd ac rydyn yn gweithio i amddiffyn y rhai mwyaf agored i niwed yn ein cymdeithas; trwy wella iechyd a lles o'n cymdeithas ac i gyfoethogi ein holl fywydau trwy ein dealltwriaeth o hanes a'r celfyddydau. Mae llawer o’n hymchwilwyr yn addysgu ar gyrsiau yma hefyd, sy’n golygu y gelli di fod yn gweithio gydag arbenigwyr byd-eang ar flaen y gad yn eu meysydd. Wrth i ti barhau gyda dy astudiaethau, gelli di ymuno â’u timoedd ymchwil, gan helpu i archwilio, atal a datrys problemau byd-eang. 25 ANSAWDD YMCHWIL UCHAF YN Y DU (The Complete University Guide 2022)

Darllen ein Cylchgrawn Ymchwil chwarterol a darganfod mwy am ymchwil Prifysgol Abertawe yma:

M O M E N T W M Newyddion Ymchwil o Brifysgol Abertawe Rhifyn 38 | Hydref 2021

Athletwyr yn manteisio ar dechnoleg wisgadwy Llawfeddygaeth adluniol arloesol Cadw treftadaeth ddiwylliannol

04

Mae ein hymchwil yn ein helpu i atal, brwydro a gwrthdroi heriau byd-eang, gan wneud gwahaniaeth i fywydau pobl a diwydiant.

30 PRIFYSGOL YMCHWIL UCHAF YN Y DU (Fframwaith Rhagoriaeth Ymchwil 2014)

Mae ein portffolio ymchwil yn enfawr: o greu dur GWYRDDACH a glanach; defnyddio microalgâu i droi gwastraff bwyd ac amaethyddol yn gynhyrchion CYNALIADWY newydd; gwella IECHYD Y BOBLOGAETH ; GWARCHOD henebion hynafol, i; herio a LLUNIO POLISI ynghylch tegwch a CHYDRADDOLDEB a sicrhau diogelwch unigolion a chymunedau ledled y byd.

DARGANFYDDA FWY:

abertawe.ac.uk/ymchwil

Lawrlwytha nawr: abertawe.ac.uk/ymchwil/podlediadau

05

MYFYRIWR MATT YN DWEUD BOD COVID-19 WEDI'I ADDYSGU I DDEALL GWIR YSTYR BOD YN NYRS Dyfarnwyd gwobr 'Myfyriwr Nyrs Mwyaf Ysbrydoledig y Flwyddyn' i Matt yng Ngwobrau Nodedig y Nursing Times. (Gwobrau 2020)

GWNEUD

Sefydlwyd Prifysgol Abertawe ym 1920 i ateb anghenion ein cymuned leol ac ehangach, trwy ymchwil a thrwy arloesedd: bu gwneud gwahaniaeth yn rhan o'n diwylliant ers dros 100 o flynyddoedd. Mae'r pandemig byd-eang wedi cael effaith fawr ar bob un ohonom, ond credwn fod llawer i'w ddysgu o'n sefyllfa, a llawer o ganlyniadau cadarnhaol. Rydyn wedi darganfod ein bod yn gallu addasu – nid mewn modd digonol yn unig, ond hefyd mewn modd arbennig o dda – i ffyrdd newydd o astudio, gweithio a byw. Rydyn yn edrych ymlaen at y dyfodol ac rydyn wedi ymrwymo'n llwyr i wneud Prifysgol Abertawe'n brofiad cadarnhaol a gwobrwyol i bob un o'n myfyrwyr.

Gwirfoddolodd dros 1,000 o fyfyrwyr o'r Ysgol Feddygaeth ac Ysgol Iechyd a Gofal Cymdeithasol i helpu cydweithwyr yn y gwasanaeth iechyd yn ystod y pandemig: • Cyflwynwyd myfyrwyr Meddygaeth yn eu blwyddyn olaf yn feddygon ar ôl i’r Cyngor Meddygol Cyffredinol gynnig cofrestriad cynnar dros dro • Lleolwyd 662 o fyfyrwyr nyrsio yn y byrddau iechyd • Cynorthwyodd holl fyfyrwyr Bydwreigiaeth y Brifysgol yn eu trydedd flwyddyn fydwragedd cymwysedig • Cofrestrodd o leiaf 101 o fyfyrwyr

Parafeddygaeth i weithio gyda Gwasanaeth Ambiwlans Cymru

06

ELUSEN A ARWEINIR GAN FYFYRWYR YM MHRIFYSGOL ABERTAWE

ELUSEN DISCOVERY yn derbyn cyllid i gynorthwyo yn ystod Pandemig COVID-19

Nod ein prosiectau yw cyfoethogi bywydau pobl ddifreintiedig ar draws Abertawe a gweithio gydag aelodau gwahanol o'r gymuned, boed hynny gyda phlant a phobl ifanc, unigolion ag anghenion ychwanegol, ffoaduriaid a theuluoedd sy'n ceisio lloches neu bobl hŷn. Mae gennym ystod eang o brosiectau y gelli fod yn rhan ohonynt; helpu i wneud gwahaniaeth, dysgu sgiliau newydd a chwrdd â ffrindiau newydd ar hyd y ffordd.

abertawe.ac.uk/discovery

DARGANFYDDA FWY AM FYFYRWYR SY'N GWIRFODDOLI YM MHRIFYSGOL ABERTAWE:

07

SUT RYDYN YN

BODDHAD ADDYSGU UCHAF YN Y DU 25

Yma ym Mhrifysgol Abertawe rydyn ni'n ymrwymo i gynnig y profiad dysgu ac addysgu gorau i ti.

(Guardian University Guide 2022)

DYSGU HYBLYG Rydyn ni'n falch o gynnig profiad addysgol rhagorol, gan ddefnyddio'r ymagweddau dysgu ac addysgu mwyaf effeithiol, sydd wedi cael eu teilwra'n ofalus i gydweddu ag anghenion penodol dy gwrs. Rydyn ni'n gwerthfawrogi pwysigrwydd addysgu wyneb yn wyneb a byddwn ni'n sicrhau bod hyn ar gael i bob myfyriwr yn unol â chanllawiau'r llywodraeth a allai fod ar waith. Fodd bynnag, mae ein hymagwedd hefyd yn cynnwys defnyddio cymorth ar-lein i ategu ac atgyfnerthu addysgu wyneb yn wyneb traddodiadol. Cynhelir sesiynau sgiliau ymarferol, gwaith mewn labordai, seminarau a

gweithdai gan amlaf ar ffurf wyneb yn wyneb, gan alluogi pobl i weithio mewn grwpiau ac arddangosiadau. Rydyn ni hefyd yn gweithredu labordai rhithwir ac amgylcheddau dysgu efelychol a fydd yn hwyluso rhagor o fynediad at gyfleoedd hyfforddi yn y dyfodol. Gellir cynnal dysgu ar-lein 'yn fyw' drwy ddefnyddio meddalwedd megis Zoom, gan dy alluogi i ryngweithio â'r darlithydd a'r myfyrwyr eraill ac i ofyn cwestiynau. Caiff y darlithoedd eu recordio er mwyn galluogi'r rhai sy'n cael anawsterau wrth gael mynediad atynt i ddal i fyny 'ar gais'. Mae gan rai modiwlau adnoddau ychwanegol yn Canvas, megis

fideos, sleidiau a chwisiau sy'n galluogi rhagor o hyblygrwydd wrth astudio. Ni waeth beth a fydd yr addysgu ar-lein neu wyneb yn wyneb, byddwn ni'n sicrhau y byddi di'n cael cyfle i adnabod dy academyddion yn dda, ac i gael trafodaethau bywiog â dy gyfoedion er mwyn dyfnhau dy wybodaeth a gwella dy ddealltwriaeth o dy bwnc. Nod ein hymagwedd wedi'i haddasu at ddysgu ac addysgu yw gwella dy brofiad fel myfyriwr, gan roi rhagor o hyblygrwydd i ti, yn ogystal â chadw'r holl ansawdd rwyt ti’n ei ddisgwyl gan addysg mewn prifysgol.

08

CYMORTH ACADEMAIDD A BUGEILIOL

DYSGU TRWY GYFRWNG Y GYMRAEG Rydyn ni'n falch o fod yn sefydliad Cymreig, ac rydyn ni'n cynnig y dewis o ddysgu drwy gyfrwng y Gymraeg, a cheir darpariaeth cyfrwng Cymraeg ym mhob Cyfadran. Ceir cyrsiau gradd a addysgir yn llwyr drwy gyfrwng y Gymraeg, cyrsiau lle cynigir rhai modiwlau yn Gymraeg, ac mae'n bosib mewn rhai adrannau y bydd rhai seminarau a thiwtorialau cyfrwng Cymraeg ar gyfer modiwlau a addysgir yn bennaf drwy gyfrwng y Saesneg. Mae Prifysgol Abertawe'n gweithio mewn partneriaeth â'r Coleg Cymraeg Cenedlaethol ac mae cangen y Brifysgol yn Academi Hywel Teifi. Canolfan ragoriaeth ar gyfer astudio'r Gymraeg yw Academi Hywel Teifi, sy'n rhoi cefnogaeth a chyngor i fyfyrwyr sydd am astudio drwy gyfrwng y Gymraeg, yn ogystal â chynnig cyfleoedd i gymdeithasu â siaradwyr Cymraeg eraill. abertawe.ac.uk/academi-hywel-teifi

Mae Academi Cynwysoldeb a Llwyddiant Dysgwyr Abertawe (SAILS) yn darparu cymorth academaidd a bugeiliol cynhwysol ar gyfer ein poblogaeth amrywiol o fyfyrwyr. Gan weithio gyda chydweithwyr ym mhob rhan o'r Brifysgol, mae SAILS yn sicrhau bod dysgu, addysgu ac asesu cynhwysol o fewn cyrraedd pob myfyriwr, dy fod ti'n cael mynediad at y cyfleoedd sydd ar gael, a dy fod ti'n cael dy gefnogi i wireddu dy botensial llawn.

abertawe.ac.uk/academi-cynwysoldeb

Y GANOLFAN LLWYDDIANT ACADEMAIDD

Bydd y Ganolfan Llwyddiant Academaidd yn dy helpu i ddatblygu dy sgiliau astudio academaidd er mwyn cyflawni dy nodau. Gelli di wireddu dy botensial llawn a magu hyder drwy amrywiaeth o gyrsiau, gweithdai a thiwtorialau un i un, gan dy helpu i bontio'r bwlch rhwng dy sefyllfa ar hyn o bryd a'r hyn rwyt ti am ei gyflawni. abertawe.ac.uk/llwyddiant-academaidd

CYMORTH ADDYSGU YCHWANEGOL Rydyn ni'n deall ei bod hi'n gallu bod yn anodd ymgyfarwyddo ag astudio mewn prifysgol, felly rydyn ni'n cynnig cymorth ychwanegol amrywiol drwy ein hacademïau, yn ogystal â darpariaeth dy Gyfadran. Rydyn ni'n ymrwymedig i alluogi pob myfyriwr i gael mynediad, gan dy helpu i ffynnu yn dy astudiaethau. Rydyn ni'n cynnig cymorth amrywiol, gan gynnwys gwneud trefniadau arbennig ar gyfer asesiadau, darparu cyfarpar ychwanegol a gwasanaethau llyfrgell. Mae ein Canolfan Drawsgrifio yn darparu deunyddiau cwrs a llyfrgell mewn sawl fformat, gan gynnwys testun electronig, print bras, braille, ffeiliau PDF hygyrch, diagramau y gellir eu teimlo, llyfrau sain DAISY yn ogystal â thrawsgrifiadau print o recordiadau sain. Yn ogystal, mae timau gwybodaeth i fyfyrwyr a chydlynwyr anabledd ym mhob Cyfadran. abertawe.ac.uk/gwasanaethau-cymorth-i-fyfyrwyr

09

MEDDWL AM

GYRFAOEDD, SGILIAU, CYFLOGADWYEDD AC ENTREPRENEURIAETH

Rydyn ni'n helpu ein myfyrwyr i gyflawni’r gyrfaoedd maent yn eu haeddu. Mae’r Brifysgol yn cynnig amrywiaeth o leoliadau gwaith a chyngor gyrfaol trwy ei thîm gyrfaoedd a menter ymroddedig, yn ogystal â ffeiriau gyrfaoedd, gweithgareddau entrepreneuraidd a digwyddiadau rhwydweithio â chyn-fyfyrwyr rheolaidd, i dy helpu i ddechrau dy fusnes dy hun neu ddod o hyd i waith ar ddiwedd dy astudiaethau.

EDRYCH AM Y SYMBOL ar dudalennau’r cwrs ar gyfer rhaglenni gradd sy’n cynnwys cyfle lleoliad gwaith neu interniaeth.

CREU GRADDEDIGION CYFLOGADWY AC ENTREPRENEURAIDD Mae cyflogwyr yn chwilio am lawer mwy na gradd wrth ddewis pa raddedigion i’w cyflogi. Bydd ennill profiad a datblygu sgiliau yn y brifysgol yn rhoi mantais gystadleuol i ti. Gall ein tîm arobryn, Academi Cyflogadwyedd Abertawe dy helpu i: • Ennill gwybodaeth, cyngor ac arweiniad gyrfaol diduedd gan ymgynghorwyr gyrfaoedd cymwys. • Dod o hyd i interniaeth, lleoliad, gwaith rhan-amser, swydd i raddedigion neu rôl gwirfoddoli. • Ymgysylltu â chyflogwyr trwy ein ffeiriau gyrfaoedd, digwyddiadau cyflogwyr a sesiynau hyfforddi/ hyfforddi sgiliau. • Datblygu dy CV, sgiliau cyfweld ac ymwybyddiaeth fasnachol/ hunanymwybodol. • Ymgysylltu â mentor cyn-fyfyrwyr.  abertawe.ac.uk/astudio/ cyflogadwyedd

BLWYDDYN MEWN DIWYDIANT Rho hwb i dy yrfa drwy dreulio blwyddyn mewn diwydiant fel rhan o dy radd. Mae llawer o’n rhaglenni gradd yn cynnwys cyfle i weithio am flwyddyn mewn diwydiant fel rhan o’r cwrs, gan ddarparu profiad gwerthfawr a chyfle i roi damcaniaeth ar waith a chael dy dalu ar yr un pryd. Mae hyn yn rhoi mantais i ti wrth ddechrau ar lwybr gyrfa ac mae’n edrych yn wych ar dy CV. Am fanylion llawn y rhaglenni sy’n cynnig blwyddyn mewn diwydiant, gwiria dudalennau cyrsiau unigol.  abertawe.ac.uk/israddedig/ cyrsiau PARTH BWRDD SWYDDI 'R CYFLOGAETH DIGIDOL Drwy Rwydwaith Interniaeth â Thâl Abertawe, rydyn yn cysylltu cyflogwyr â myfyrwyr a graddedigion diweddar o bob disgyblaeth ar gyfer interniaethau pedair wythnos ar lefel raddedig. Hysbysebir yr holl rolau ar ein Parth bwrdd swyddi'r Cyflogaeth digidol a bydd ein tîm ymroddedig yma yn dy gefnogi drwy broses y lleoliad gwaith. Mae interniaethau ar gael drwy gydol y flwyddyn, mewn amrywiaeth enfawr o feysydd pwnc. Rydyn hefyd yn cynnal

Rhaglen Interniaethau Prifysgolion Santander sy’n darparu profiad gwaith cyflogedig i fyfyrwyr a graddedigion diweddar, mewn busnesau bach a chanolig a sefydliadau trydydd sector lleol. CYMORTH PWRPASOL • Ennill gydnabyddiaeth yn dy Adroddiad Cyrhaeddiad Addysg Uwch ar ôl cwblhau'r Cwrs Datblygu Gyrfa. • Mae bwrsariaethau cyflogadwyedd yn gallu helpu gyda chostau fel teithio i gyfweliadau swydd, offer ar gyfer gweithio o bell, gwisg busnes a thebyg. • Gwaith rhan-amser, ar y campws ac o bell, â thâl i fyfyrwyr drwy’r Cynllun Myfyrwyr Llysgennad. • Bwrsariaethau Hyfforddi Santander - gwna gais am hyd at £500 i dalu cost hyfforddiant sy'n gysylltiedig â chyflogadwyedd. • I fyfyrwyr sy’n wynebu rhwystrau

i waith, mae rhaglen profiad gwaith ar gael drwy raglen Go Wales: abertawe.ac.uk/astudio/ cyflogadwyedd/go-wales



@SwanseaUniSea

10

CYSYLLTIADAU Â CHYFLOGWYR:

Found from website recreated PMS

Y TÎM MENTERGARWCH

Gall y tîm Mentergarwch dy helpu i ddatblygu dy sgiliau, cael profiad gwerthfawr a rhoi dy syniadau ar waith drwy ein hystod o wasanaethau, gan gynnwys: gweithdai, cystadlaethau, cynlluniau a mentora busnes, ar y cyd â phartneriaid busnes â phrofiad helaeth o’r byd masnachol.

enterprise@abertawe.ac.uk

myuni.abertawe.ac.uk/cyflogadwyedd-menter/menter-myfyrwyr

Gwnaeth Josh gymryd rhan yn nigwyddiad blynyddol The Big Pitch sy’n cael ei gynnal gan y Tîm Mentergarwch ac enillodd £3000 i’w fusnes!

Sefydlwyd gan Joshua ym mis Mawrth 2020, mae Letzee yn fusnes sy’n cynnig teithiau rhithwir 3D o eiddo i ddarpar denantiaid, gan alluogi landlordiaid i ddangos eu heiddo i ragor o ddarpar denantiaid heb orfod fod yn bresennol ar y pryd. Mae Letzee hefyd yn creu teithiau rhithwir 3D o fannau masnachol, megis teithiau o loriau siopau, swyddfeydd a llawer mwy. Pan ofynnwyd iddo am gynnal busnes ochr yn ochr â’i astudiaethau, meddai Josh: Mae lefel y cymorth gan y Brifysgol wedi bod yn anhygoel. Os oes gan unrhyw un ddiddordeb ac os hoffet ti siarad â fi am bethau, mae croeso i ti gysylltu. Rwy'n annog pawb i gadw llygad am ap a gwefan Letzee eleni, ein dilyn ni ar y cyfryngau cymdeithasol ac ymuno â ni wrth drawsnewid y broses o ddod o hyd i dŷ rhent! O ran cydbwyso’r busnes â’m hastudiaethau, rhaid i fi fod yn gynhyrchiol gyda fy amser a gwneud yn siŵr fy mod i ar y blaen i fy amserlenni. Pryd bynnag y bydda i’n teimlo’n rhy brysur, bydda i’n camu nôl ac yn ceisio edrych yn gadarnhaol ar yr hyn rwyf wedi’i gyflawni hyd yn oed cyn mynd i Benrhyn Gŵyr i syrffio er mwyn clirio fy mhen! Mae Joshua wedi cael ei enwebu fel cynnig Prifysgol Abertawe ar gyfer Gwobrau Darpar Entrepreneuriaid Prifysgolion Santander 2021. Joshua Blackhurst Sefydlwyd Letzee ym mis Mawrth 2020

11

Ymuna â’n

Ym Mhrifysgol Abertawe, rydyn ni’n hynod o falch o’n graddedigion. Pan fyddi di’n astudio gyda ni, byddi di’n ymuno â miloedd o gyn-fyfyrwyr sydd wedi defnyddio eu profiadau yn Abertawe i osod eu marc ar y byd. Mae llawer ohonynt wedi mynd ati i brofi llwyddiant yn eu gyrfaoedd, gan ddod yn arweinwyr busnes, yn bencampwyr chwaraeon, cynnal ymchwil sy’n torri tir newydd, neu ddod o hyd i’w lle yng ngolwg y cyhoedd. Rydyn ni’n rhannu rhai o’u straeon ysbrydoledig yma.

DR KATE EVANS, BSc Sŵoleg. Blwyddyn Graddio 1996. ECOLEGYDD YMDDYGIAD A BIOLEGYDD CADWRAETH AROBRYN. SEFYDLYDD A CHYFARWYDDWR ELEPHANTS FOR AFRICA. “Nid oeddwn yn sicr ai addysg bellach oedd y llwybr cywir i mi. Yn ffodus cefais fy hun yn amgylchedd diogel Prifysgol Abertawe ar gwrs yr oeddwn yn dwlu arno ac yn rhagori ynddo, Swôleg.” Sefydlodd Kate yr elusen gadwraeth – Elephants for Africa, sy’n defnyddio dull cyfannol at gadwraeth eliffantod, gan ganolbwyntio llawer o’i gwaith yn Botswana, sy’n gartref i’r boblogaeth fwyaf o eliffantod. abertawe.ac.uk/cyn-fyfyrwyr/ proffiliau-cyn-fyfyrwyr/kate-evans

“Roeddwn i'n gwybod bod gan Brifysgol Abertawe adrannau Cymraeg a Gwleidyddiaeth gwych, felly roeddwn i eisiau astudio yno er mwyn cael fy nysgu gan y gorau. Hefyd, roedd apêl Penrhyn Gŵyr a’r traethau gerllaw yn atyniad enfawr. Ym Mhrifysgol Abertawe y tyfodd fy hyder fel dysgwr Cymraeg. Rwy’n cofio’r cawr o ddarlithydd, Yr Athro Hywel Teifi Edwards, yn ein hannog ni i gyd i ddefnyddio ein sgiliau llafar Cymraeg. Ni welodd unrhyw wahaniaeth rhwng myfyrwyr Cymraeg ‘iaith gyntaf’ a ‘dysgwyr ail iaith’. A dyna lle y cafodd fy hyder ei feithrin.”

JASON MOHAMMAD, BA Cymraeg a Gwleidyddiaeth. Blwyddyn Graddio 1996. CYFLWYNYDD RADIO A THELEDU.

abertawe.ac.uk/cyn-fyfyrwyr/proffiliau-cyn-fyfyrwyr/jason-mohammad

SIWAN LILLICRAP, BSc Gwyddor Chwaraeon. Blwyddyn Graddio 2009. CHWARAEWR RYGBI RHYNGWLADOL, PENNAETH RYGBI YN ABERTAWE. "Rydw i wedi cwrdd â’m ffrindiau gorau drwy rygbi, ac mae e wedi dysgu cymaint i mi am fywyd: disgyblaeth, angerdd, ymrwymiad, cymhelliad, a chymaint mwy. Mae e wedi rhoi cymaint o lawenydd i mi yn fy mywyd ar y cae ac oddi arno, a fyddwn i ddim yn newid dim byd. Byddwn i’n dweud, paid â rhoi pwysau ar dy hun; bydd pawb yn cyflawni pethau gwahanol ond y peth pwysig yw cael amser rhagorol gyda ffrindiau.” abertawe.ac.uk/cyn-fyfyrwyr/proffiliau-cyn-fyfyrwyr/siwan-lilicrap

12

Gweld mwy o straeon cyn-fyfyrwyr ar ein gwefan:

abertawe.ac.uk/cyn-fyfyrwyr/proffiliau-cyn-fyfyrwyr

OWEN EVANS, BSc Economeg. Blwyddyn Graddio 1991. PRI F WEI THREDWR, STRATEGYDD, YMGYNGHORYDD. “Rwy’n cofio campws hapus, darlithwyr cyfeillgar, tref gyfeillgar, y traeth, aros am fws yn y glaw yn y Quadrant, gweld y Manic Street Preachers yn yr haul ym Mharc Singleton, trio meddwl sut i ddod adre o’r Mwmbwls ar ôl noswaith allan, rygbi yn San Helen a’r Gym Gym (Y Gymdeithas Gymraeg) ar brynhawn Mercher. Atgofion melys. Fe wnes i fwynhau fy amser yn Abertawe ond fe ges i’r fraint o addysg uwch – o gwrdd â phobl o bob cefndir a dysgu am bwnc diddorol. Fe ges i gyfle i feddwl ac aeddfedu mewn amgylchiadau hapus ond cael fy herio hefyd yn academaidd." abertawe.ac.uk/cyn-fyfyrwyr/ proffiliau-cyn-fyfyrwyr/ owen-evans

RAWAN TAHA, MSc Iechyd Cyhoeddus a Hybu Iechyd. Blwyddyn Graddio 2018.

DAVID SMITH, MEng Peirianneg Awyrofod. Blwyddyn Graddio 2014. MEDALYDD AUR PARALYMPAIDD "Roeddwn i am astudio Peirianneg Awyrofod ac roedd staff y cwrs, yr awyrgylch cyffredinol a’r traeth yn brif atyniadau. Rhai o’m hoff atgofion yw’r teithiau astudio a oedd yn cynnwys hedfan megis y labordy hedfan yn Cranfield neu hedfan o gwmpas Penrhyn Gŵyr." Wedi derbyn ei fedal aur Baralympaidd gyntaf ychydig cyn wythnos y glas yn Abertawe, mae David, Pencampwr y Byd a Pharalympaidd, yn anelu at fod yn bencampwr yng nghamp Boccia ac enillodd ei bumed medal

DEILIAD YSGOLORIAETH EIRA FRANCIS DAVIES. CYMRAWD MATERION DYNGAROL. YMGYRCHYDD YN ERBYN NEWID HINSAWDD. “Fel menyw Affricanaidd

ysgolheigaidd ifanc, roeddwn i’n chwilio am brifysgol a oedd yn darparu cyfleoedd i arweinwyr ifanc fel fi. Fy nghyngor i fyfyrwyr presennol yw i ddefnyddio eu hamser yn y Brifysgol i ddatblygu y tu hwnt i’w gradd, eu traethawd a’u trawsgrifiadau. Dim ond wedyn fyddi di'n gallu ennill swydd a chael bywyd sydd y tu hwnt i dy ddisgwyliadau." abertawe.ac.uk/cyn-fyfyrwyr/ proffiliau-cyn-fyfyrwyr/ rawan-taha

Olympaidd yn y Gemau Olympaidd Tokyo 2021.

 abertawe.ac.uk/cyn-fyfyrwyr/ proffiliau-cyn-fyfyrwyr/ david-smith

NIA PARRY, BA Sbaeneg a Chymraeg. Blwyddyn Graddio 1996. EIRIOLWR BRWD DROS YR IAITH GYMRAEG, DARLLEDWR AC ADRODDWR STRAEON.

“Mae fy atgofion o fod yn fyfyrwraig yn y Brifysgol yn rhai hapus iawn. Yn academaidd – dw i'n teimlo fel fy mod wedi dysgu a blodeuo a datblygu syniadau newydd a thrin a thrafod a bwydo'r angerdd oedd gen i tuag at ein hiaith a'n diwylliant a'n hanes. Yn gymdeithasol dw i'n cofio'r hwyl a'r chwerthin, y barbeciws ar lan y môr, y gemau pêl-rhwyd, y Mumbles Mile, Parc Singleton yn yr hydref yn ei liwiau euraidd.”

abertawe.ac.uk/cyn-fyfyrwyr/proffiliau-cyn-fyfyrwyr/nia-parry

13

ABERTAWE A’R

Bannau Brycheiniog, Cymru

Dwi wrth fy modd gyda marchnad dda ac wrth lwc, dwi’n byw yn Uplands sydd â marchnad fisol, lle mae tyfwyr, cynhyrchwyr, ffermwyr ac arlwywyr lleol yn gwerthu eu nwyddau. Mae hon yn farchnad fach hyfryd, felly os wyt yn dwlu ar fwyd a phethau tlws fel fi, mae’n werth ymweld â hi! Joanna Wolton, myfyriwr sy’n ysgrifennu blog AR GARREG Y DRWS Ar Benrhyn Gŵyr, cei lonydd yn Ardal o Harddwch Naturiol Eithriadol gyntaf y Deyrnas Unedig, ymlacio ar draethau arobryn ac archwilio harddwch naturiol cefn gwlad, ac mae Parc Cenedlaethol Bannau Brycheiniog 30 munud i ffwrdd yn unig yn y car. Mae’r rhanbarth yn cynnig rhai o leoliadau gorau’r DU ar gyfer cerdded ar lwybrau arfordirol, syrffio, beicio, chwaraeon dŵr, dringo creigiau a golff; i’r rhai sy’n mwynhau chwaraeon antur, neu os yw’n well gen ti dro hamddenol ar y traeth, mae rhywbeth at ddant pawb. Y MWMBWLS Man geni Catherine Zeta Jones, mae pentref pert y Mwmbwls yn cynnig amrywiaeth gwych o siopau, caffis, bariau gwin, tafarnau a bwytai. Cer am dro a mwynhau hufen iâ yn un o’r parlyrau niferus ar hyd y promenâd, neu beth am alw yn un o’r bwytai a chaffis glan môr newydd â golygfeydd dros Fae Abertawe.

studentblogs.swan.ac.uk/cy/

14

Y CELFYDDYDAU Mae Abertawe’n ganolfan fywiog ar gyfer celf ac mae Oriel Glynn Vivian yn cael ei chydnabod yn eang fel prif leoliad arddangosfeydd celf yn y ddinas. Mae mynediad am ddim i holl amgueddfeydd ac orielau celf cenedlaethol Cymru, felly gelli ymdrochi yn ein hanes, neu gymryd rhan yn un o’r teithiau niferus sy’n cael eu trefnu gan Undeb Myfyrwyr Prifysgol Abertawe. CANOLFAN Y CELFYDDYDAU TALIESIN Mae Canolfan y Celfyddydau Taliesin yng nghanol Campws Parc Singleton yn dangos ffilmiau’n rheolaidd, rhai poblogaidd a rhai mwy amgen eu natur. Mae ganddi gaffi a bar ac yma ceir y Ganolfan Eifftaidd arobryn sy’n gartref i gasgliad o dros 5,000 o arteffactau o’r Hen Aifft.

SIOPA Gelli di ddewis o siopau a brandiau mawr y stryd fawr a siopau bach annibynnol, siopau arbenigol ac arcedau traddodiadol. Gelli ymweld â siopau dillad dylunwyr yn y Mwmbwls, siopa am ddillad yr oes a fu yn Uplands, neu godi cynnyrch o Gymru ym marchnad dan do fwyaf Cymru yng nghanol y ddinas.

CERDDORIAETH A GWYLIAU Mae Cymru’n enwog fel ‘gwlad y gân’ ac fel myfyriwr ym Mhrifysgol Abertawe, chei di ddim dy siomi gan y dewis o gerddoriaeth sydd ar gael yn y ddinas! Mae gan Abertawe amrywiaeth enfawr o leoliadau cerddoriaeth ac mae nifer o wyliau a digwyddiadau cerddorol yn cael eu cynnal yma drwy gydol y flwyddyn. Mae Arena Abertawe newydd sbon bellach ar agor ac mae ganddo rai enwau mawr eisoes ar gyfer 2022 gan gynnwys John Bishop a Kathryn Ryan!

CARTREF I DYLAN THOMAS Fel y dywedodd mab enwocaf Abertawe, Dylan Thomas: “Abertawe yw’r gorau o hyd”, a gelli ddilyn olion traed y bardd ledled y ddinas, o gaffis i dafarnau a pharciau.

Delweddu pensaernïol

15

PIGION

CER I’R TRAETH

VARSITY CYMRU

Gwisga liwiau’r fyddin werdd a gwyn a bloeddia dy gefnogaeth i Abertawe yng Ngemau Prifysgolion Cymru, y digwyddiad mwyaf i fyfyrwyr yng Nghymru.

Mae dros 50 o faeau a thraethau i’w dewis! Boed law neu hindda, rho gynnig ar syrffio neu badlfyrddio, neu cer am dro i ddianc.

16

DAWNS YR HAF

Mae Dawns Haf Prifysgol Abertawe, sy’n debyg i ŵyl, yn cael ei chynnal ar y lawnt o flaen Abaty Singleton, ac mae’n noson fawr yng nghalendr y myfyrwyr. Mae’r digwyddiad yn denu perfformwyr proffil uchel yn rheolaidd – mae’r prif atyniadau yn y gorffennol wedi cynnwys Pendulum, Rudimental, Pixie Lott,

BLASU HUFEN IÂ

Ymuna a chael bod yn rhan o rwydwaith astudio a chymdeithasu cenedlaethol cyfrwng Cymraeg. YMUNA Â CHANGEN Y COLEG CYMRAEG

Tim Minchin, Sub Focus a Florence and the Machine.

Os yw’r haul yn gwenu’n braf neu os yw’r tymheredd islaw sero, does dim gwahaniaeth, bydd bob amser ciw o bobl y tu allan i barlwr hufen iâ enwog Joe’s yn Abertawe.

LAWRLWYTHA AP ARWAIN

Yr ap sy’n cynnwys yr holl wybodaeth sydd ei angen arnat am ein cyrsiau a’n modiwlau cyfrwng Cymraeg, cefnogaeth ariannol i fyfyrwyr, a chyfleoedd i fyw a chymdeithasu trwy’r Gymraeg yn Abertawe.

Tyrd i gynrychioli Prifysgol Abertawe a chystadlu yn un o brif ddigwyddiadau cymdeithasol a diwylliannol myfyrwyr Cymru. CYSTADLU YN YR EISTEDDFOD RHYNG-GOL

PÊL-DROED Y BENCAMPWRIAETH

Rydyn yn falch o rannu ein dinas â’r tîm pencampwriaeth Dinas Abertawe, yr Elyrch arwrol. Ymuna yn y cyffro yn Stadiwm Swansea.com. YMUNA AG AELWYD YR ELYRCH Ymuna ag Aelwyd Urdd Prifysgol Abertawe. Mae'r Aelwyd yn cynnig cyfleoedd i ti gystadlu yn yr Eisteddfod, gwirfoddoli yn y gymuned leol a bod yn rhan o weithgareddau ymarferol a llawer mwy.

YMUNA Â’R GYMGYM A CHLWB CHWARAEON TAWE

Ymuna â’r Gymdeithas Gymraeg er mwyn bod yn rhan o’r croliau, y nosweithiau cymdeithasol a’r tripiau blynyddol i Bencampwriaeth y Chwe Gwlad, a hefyd Glwb Rygbi Tawe.

17

@julia_nevado

#ymlacio

#BywydPrifAbertawe

@jadwigajagiellonska

@emilysuggett

#PrifAbertawe

@sylvermimi

56

@luanneguyenhuynh

@alice_diogenes

@mdasssx

@osiansmith

@jadwigajagiellonska

@chloerosey

DILYN NI:

PrifysgolAbertawe

PrifAbertawe

Prif_Abertawe

prifysgol_abertawe

18

BARN EIN

Cei fwy o wybodaeth gan ein myfyrwyr presennol a rhai sydd wedi graddio’n ddiweddar gan eu bod wedi rhannu eu profiadau eu hunain a darparu argymhellion defnyddiol ynghylch byw ac astudio ym Mhrifysgol Abertawe. Gwylia ein flogiau, a gwrando ar ein podlediadau myfyrwyr, dilyn ni ar ein sianeli cyfryngau cymdeithasol er mwyn cael yr holl wybodaeth, boed yn; ymgartrefu yn y brifysgol i sut brofiad yw byw yn Abertawe. CWRDD Â FLOGWYR PRIFYSGOL ABERTAWE:

Ysgoloriaethau a Bwrsariaethau

Llety Myfyrwyr Cyfrwng Cymraeg

Shwmae Su’mae

@PrifAbertawe

Gwrando ar beth sydd gan ein myfyrwyr i’w ddweud spoti.fi/2PDfDeu

19

Dilyn ni am fideos, a bydd ein myfyrwyr yn anfon diweddariadau rheolaidd drwy gydol y flwyddyn:

PrifysgolAbertawe

PrifAbertawe

Mynna gip ar ein fideos i gael mwy o wybodaeth am chwaraeon, cymdeithasau, llety myfyrwyr a bywyd myfyrwyr yn gyffredinol ym Mhrifysgol Abertawe:

Prif_Abertawe

prifysgol_abertawe

Byw ac astudio trwy gyfrwng y Gymraeg

Beiciau Santander ym Mhrifysgol Abertawe

20

Neges gan Lywydd Undeb y Myfyrwyr

Cymorth a lles i fyfyrwyr

Top tips ar sut i addasu i fywyd prifysgol

Gymdeithas y Gymraeg Y GymGym

21

CAMPWS Y BAE

LLEOLIAD GLAN MÔR

10 UCHAF YN Y DU

TA I TH RH I THWI R

CYNGHRAIR PRIFYSGOL

(2021/22)

abertawe.ac.uk/rhith-daith

(Cynghrair People & Planet 2021)

22

aeroviews.co.uk

15 MUNUD AR Y BWS O GANOL Y DDINAS, 5KM

CAMPFA A CHYFLEUSTERAU CHWARAEON CWRT BWYD, THE CORE CYFADRAN Y DYNIAETHAU A’R GWYDDORAU CYMDEITHASOL (YR YSGOL REOLAETH) LLETY MYFYRWYR LLYFRGELL Y BAE UNDEB Y MYFYRWYR Y COLEG Y GYFADRAN PEIRIANNEG A GWYDDONIAETH (FFOWNDRI GYFRIFIADUROL – CYFRIFIADUREG A MATHEMATEG) Y GYFADRAN PEIRIANNEG A GWYDDONIAETH

Y NEUADD FAWR YR HAFEN (lle tawel i ymlacio, lle i addoli neu gwrdd â ffrindiau) BWS 24AWR (yn ystod y tymor) Tua 20 munud i Gampws Parc Singleton, 15 munud i ganol y ddinas MY UNIHUB Cynnig gwybodaeth, ac arweiniaid ar unrhyw agwedd ar fywyd myfyrwyr; o arian i ymholiadau cwrs, i dai

CYFLEUSTERAU ERAILL: Archfarchnad / Golchdy / Siop Goffi Coffeeopolis

23

TRAETH SY’N YMESTYN DROS BUM MILLTIR, TAFLIAD CARREG O’R CAMPWS

10 MUNUD AR Y BWS O GANOL Y DDINAS, 3.5KM

TA I TH RH I THWI R

abertawe.ac.uk/rhith-daith

24

CAMPWS PARC SINGLETON

ACADEMI HYWEL TEIFI CANOLFAN TALIESIN A’R GANOLFAN EIFFTAIDD

CYFADRAN Y DYNIAETHAU A’R GWYDDORAU CYMDEITHASOL LLETY MYFYRWYR LLYFRGELL PARC SINGLETON MYUNIHUB Cynnig gwybodaeth, ac arweiniaid ar unrhyw agwedd ar fywyd myfyrwyr; o arian, ymholiadau cwrs, i dai PARC CHWARAEON BAE ABERTAWE TŶ FULTON Bar Undeb y Myfyrwyr, Clwb nos, siopau, archfarchnad, Siop Dim Gwastraff, llefydd bwyd (gan gynnwys fegan) Y GOLEUDY (lle tawel i ymlacio, lle i addoli neu gwrdd â ffrindiau) Y GYFADRAN MEDDYGAETH, GWYDDORAU IECHYD A BYWYD Y GYFADRAN PEIRIANNEG A GWYDDONIAETH (BIOWYDDORAU, CEMEG, DAEARYDDIAETH, FFISEG) UNDEB Y MYFYRWYR

BWS 24AWR (yn ystod y tymor) Tua 20 munud i Gampws y Bae, 10 munud i ganol y ddinas

10 UCHAF YN Y DU

CYFLEUSTERAU ERAILL: • Caplaniaeth • Doctor/Deintydd

• Golchdy • Mosg

CYNGHRAIR PRIFYSGOL

(2021/22)

(Cynghrair People & Planet 2021)

25

DOES UNMAN YN DEBYG

LLETYA Â SIARADWYR CYMRAEG ERAILL

Gall dechrau yn y brifysgol fod yn dipyn o gorwynt, ac, ynghanol y cyfan, mae angen rhywle i ti ymlacio, cymryd stoc, a theimlo'n gartrefol, ar unwaith. Os wyt ti eisiau byw yn un o’n neuaddau ar y campws, yn y pentref myfyrwyr neu mewn un o’r tai preifat o dan reolaeth asiantaeth osod (SAS), mae ein Gwasanaethau Llety Myfyrwyr yma i sicrhau dy fod yn dewis y llety sy’n siwtio dy ofynion di orau.

Mae’r Brifysgol yn awyddus i gefnogi’r gymuned gref o siaradwyr Cymraeg sy’n fyfyrwyr yma. O ganlyniad, rydyn wedi adnabod dwy neuadd ar gyfer darparu cyfle i fyfyrwyr rannu llety â siaradwyr Cymraeg eraill, sef Aelwyd Penmaen ar Gampws Parc Singleton ac Aelwyd Emlyn ar Gampws y Bae. Darperir llety en-suite ac hunanarlwyo gyda gofodau cymdeithasu yn y neuaddau hyn. BYW AR GAMPWS Mae byw mewn llety ar Gampws Parc Singleton neu Gampws y Bae yn dy roi yng nghanol bywyd prifysgol. Mae’r llety hunanarlwyo yn cynnwys ystafelloedd wedi’u dodrefnu’n llawn, ystafelloedd en-suite ac ystafelloedd safonol gyda chegin, a lle bwyta a rennir – y dewis perffaith i dy helpu i ymgartrefu’n gyflym ac yn rhwydd. BYW YN Y PENTREF MYFYRWYR Cei llety pellach ym Mhentref Myfyrwyr Hendrefoelan sydd tua dwy filltir o Gampws Parc Singleton. Mae’r Pentref yn darparu llety hunanarlwyo a chyfleusterau a rennir mewn fflatiau ar gyfer saith myfyriwr. Gelli ddewis llety hunanarlwyo mewn fflatiau neu dai i amrywiol feintiau. Os wyt ti’n dewis byw yn y Pentref, bydd gen ti ystafell dy hun ar gyfradd fforddiadwy sy’n cymharu’n ffafriol â llety’r sector preifat. Mae bywyd myfyriwr yn y Pentref yn gymdeithasol, cefnogol a gelli fanteisio ar: • Golchdy • Tocyn bws First Group Unibus am ddim am gytundebau 13 wythnos • Parcio am ddim Gwiria ein gwefan am y wybodaeth ddiweddaraf: abertawe.ac.uk/llety

• Mae gan ein hystafelloedd Wi-Fi am ddim • Ceir rhwydwaith o fyfyrwyr, ResNet, rhwydwaith o staff a myfyrwyr sy’n gofalu bod gan bob myfyriwr y profiad gorau posibl • Mae’r ystafelloedd yn ystafelloedd sengl yn unig (ag eithrio fflatiau teuluol Tŷ Beck a nifer cyfyngedig o ystafelloedd â dau wely ar Gampws y Bae) • Golchdai 24/7 • Ystafelloedd wedi’u haddasu ar gyfer myfyrwyr ag anghenion arbennig, gan gynnwys defnyddwyr cadeiriau olwyn – cysyllta â’r Swyddfa Anableddau am ragor o wybodaeth • En-suite ar gael • Llety penodol ar gyfer siaradwyr Cymraeg ar gael PWYNTIAU ALLWEDDOL

26

COSTAU BYW NODWEDDIADOL:

£84

CYFARTALEDD RHENT WYTHNOSOL

5ed rhent misol isaf o blith dinasoedd prifysgol y DU (Mynegai Byw Myfyrwyr Natwest 2020) PRYD O FWYD I DDAU (yn seiliedig ar brif gwrs & diod mewn bwyty lleol) £22

£3.50 Y DIWRNOD

TOCYN BWS (£2.34 gyda Fy Ngherdyn Teithio)

Tocynnau tymor a blynyddol ar gael hefyd (am ddim os wyt yn byw ym Mhentref Myfyrwyr Hendrefoelan).

1/3 ODDI

AELODAETH GYM Parc Chwaraeon Bae Abertawe £19 Y MIS Mae myfyrwyr yn gymwys i wneud cais am gerdyn disgownt a ariennir gan Lywodraeth Cymru (mae telerau ac amodau yn berthnasol) AR YR HOLL DEITHIAU BWS LLEOL YNG NGHYMRU

Edrych tu mewn

abertawe.ac.uk/israddedig/ ffioedd-a-chyllid/costau-bob-dydd

abertawe.ac.uk/llety

27

LLETY AR GYFER TEULUOEDD YN NH Ŷ BECK

Mae gennym nifer o fflatiau teuluoedd yn ein presylfa dawel ddynodedig, T ŷ Beck, oddeutu milltir o’r campws yn ardal Uplands. Oherwydd tenantiaeth 51 wythnos, mae’r llety hwn yn addas ar gyfer myfyrwyr ôl-raddedig a rhyngwladol yn bennaf. DOD O HYD I’R LLETY PERFFAITH YN Y SECTOR PREIFAT Os byddai’n well gen ti fyw oddi ar y campws, mae yna gyflenwad da o dai a fflatiau sector preifat o safon yn Abertawe. Mae ein hasiantaeth gosod, Gwasanaethau Llety Myfyrwyr (SAS) yn rheoli 130 o dai yn ardaloedd Brynmill, Uplands, a Sgeti sy’n boblogaidd â myfyrwyr, y rhan fwyaf ohonynt o fewn dwy filltir i’r campws. Mae eu preswylfeydd yn St. Thomas a Phort Tennant yn agos at Gampws y Bae. Mae’r ardaloedd hyn hefyd yn agos i siopau lleol, bariau a chyfleusterau prydau parod. Mae modd chwilio ein cronfa ar-lein, Studentpad, i ddod o hyd i dai sydd ar gael yn yr ardal ac mae’n declyn gwerthfawr sy’n arbed ymdrech wrth chwilio am dai. saslettings.co.uk

Os wyt ti’n siarad Cymraeg mae gennym lety penodol i siaradwyr Cymraeg fyw gyda’i gilydd yn Aelwyd Emlyn ar Gampws y Bae ac Aelwyd Penmaen ar Gampws Parc Singleton

PRYD Y DYLWN WNEUD CAIS AR GYFER LLETY?

Mae gennym rai ardaloedd tawel a rhai sy’n ddi-alcohol hefyd

Cyn gynted â phosibl! Os wyt wedi derbyn cynnig pendant i astudio gyda ni, cei ymgeisio am lety ym mis Chwefror – byddi di’n derbyn cyfarwyddiadau ar sut i wneud cais ar-lein oddi wrth y brifysgol. Rydyn yn dy gynghori i wneud cais yn gynnar, yn enwedig ar gyfer llety en-suite sy’n boblogaidd tu hwnt.

abertawe.ac.uk/llety

llety@abertawe.ac.uk

+44 (0)1792 295101

EDRYCH TU MEWN I'N LLETY CAMPWS:

Dewis ble i fyw ym Mhrifysgol Abertawe

TA I TH RH I THWI R

abertawe.ac.uk/rhith-daith

28

CAMPWS Y BAE

PARC SINGLETON

Canolfan y Celfyddydau Taliesin

Bar Coffi

Cyfleusterau Chwaraeon

Canolfan Iechyd

Cyfleusterau Chwaraeon

Diogelwch 24 awr

Deintydd a Meddyg

Golchdy

Lle i Addoli

Diogelwch 24 awr

LLETY

MATH O YSTAFELL

RHENT WYTHNOSOL*

Pentref Myfyrwyr Hendrefoelan

Safonol

£95

Neuadd Fawr

Golchdy

Safonol (hunanarlwyol) En-suite (hunanarlwyol) Safonol (gyda'r cerdyn arlwyo)** En-suite (gyda'r cerdyn arlwyo)**

£131 – £136 £138 – £164 £144 – £150

Campws Parc Singleton

Neuadd Fwyd

£160

Lle i Addoli

Safonol En-suite Fflat Teuluol

£114 – £120 £132 – £143 £183 – £221 £154 – £159 £101.50

Siop Fach

Tŷ Beck

Neuadd Fwyd

En-suite En-suite â dau wely

Campws y Bae

Undeb y Myfyrwyr

Siop Fach

Tai Preifat

Safonol

£82 – £120

* Mae’r ffioedd yma ar gyfer sesiwn academaidd 2021-2022. Mae’r raddfa ar gyfer mynediad 2022-2023 yn cael ei hadolygu ar hyn o bryd. Cynghorwn i ti edrych ar ein gwefan am y wybodaeth ddiweddaraf. ** Gelli di ddefnyddio cerdyn talu am arlwyaeth ymlaen llaw ym mannau arlwyo'r brifysgol a bydd £28.00 yr wythnos ynghlwm wrtho. Mae’r credydau yn cael eu gosod bob tymor felly gelli di ddefnyddio cymaint neu gyn lleied ag y dymuna bob wythnos.

Undeb y Myfyrwyr

29

RYDYN YMA

YMGARTREFU

Dwi’n cofio’r misoedd cyntaf yn y Brifysgol fel y cyfnod mwyaf anodd i ymdopi ag ef. Ar ben bod yn sâl a gweld eisiau cysur cartref, roeddwn i’n eithaf swil ac yn teimlo nad oeddwn i’n gallu ffurfio cysylltiad â’r myfyrwyr eraill yn fy fflat a oedd i gyd eisiau mynd mas a joio drwy’r amser. Dwi’n gwybod bod myfyrwyr eraill yn profi, neu maen nhw wedi profi, teimladau tebyg yn y brifysgol, ond mae’n bwysig gwybod a deall nad ti yw’r unig un a does dim rhaid i ti ddelio â phethau ar dy ben dy hun. Weithiau, gall y brifysgol deimlo’n lle unig, ond gall pobl sy’n dy dderbyn ac yn becso am dy les helpu i leddfu’r teimladau hyn o unigrwydd. Mae’n bwysig sylweddoli hefyd, os wyt ti’n rhy sâl, nad oes rhaid i ti ddyfalbarhau â dy wneud dy hun yn waeth (a theimlo nad oes unrhyw ateb) – gelli wneud cais am absenoldeb neu amgylchiadau esgusodol. Mae’r brifysgol yn cynnig llawer o wasanaethau i helpu myfyrwyr a allai fod mewn anawsterau, o gwnsela, gwasanaethau lles ar y campws a chymorth bugeiliol gan staff. Does dim cywilydd mewn defnyddio’r gwasanaethau hyn na chydnabod a chyfaddef nad wyt yn mwynhau dy amser yn y brifysgol (er y gall hyn fod yn anodd).

Gelli fanteisio ar amrywiaeth o wasanaethau cymorth myfyrwyr yn ystod dy amser yn y brifysgol i wneud dy holl amser yma ym Mhrifysgol Abertawe mor ddi-straen a hwylus â phosib.

HYB Y MYFYRWYR SUT GA L LWN DY HE L PU ?

Mae Hyb y Myfyrwyr yma i gynnig gwybodaeth ac arweiniad ar unrhyw agwedd ar fywyd myfyrwyr. Felly, os hoffet gael cymorth i gofrestru neu dalu dy ffioedd yn bersonol, os oes angen cyngor ar dai arnat, cymorth gyda chyllid myfyrwyr neu gymorth i reoli dy lwyth gwaith, Hyb y Myfyrwyr yw’r lle i fynd!

Joanna Wolton Myfyriwr Polisi Cymdeithasol

30

£1.5m CYMORTH LLES MYFYRWYR Diogelwyd gan Lywodraeth Cymru (2020)

Mae dy les yn bwysig i ni. Er mwyn mwynhau a chyfoethogi dy brofiad ym Mhrifysgol Abertawe, gelli gael gafael ar gyngor diduedd am ddim ac ystod o wasanaethau cymorth mewn amgylchedd hamddenol, cyfeillgar a chyfrinachol.

DARGANFYDDA FWY:

abertawe.ac.uk/astudio/adran-gwasanaethau-cymorth-i-fyfyrwyr

Myfyrwyr yn mwynhau padlfyrddio (SUP) yn ystod Wythnos y Glas a drefnwyd gan @campuslifeSU

GWYBODAETH AM IECHYD SWYDDFA ANABLEDD Mae gofal deintyddol y Brifysgol yn cynnig ystod lawn o driniaethau’r GIG a phreifat i fyfyrwyr. Lleolir Meddygfeydd Deintydd a Meddygon ar Gampws Parc Singleton. Yn sicrhau’r un profiad i’r holl fyfyrwyr. Mae Canolfan Drawsgrifio Prifysgol Abertawe yn wasanaeth trawsgrifio arbenigol sy’n darparu adnoddau dysgu hygyrch i’w hargraffu ar gyfer myfyrwyr anabl.

GWASANAETHAU LLES

ARIAN (BYWYDCAMPWS)

Amrywiaeth o wasanaethau am ddim sy’n hybu ac yn edrych ar ôl lles myfyrwyr, gan gynnwys gwasanaeth cymorth iechyd meddwl.

Mae’r tîm hwn bob amser wrth law i dy helpu i wneud y gorau o dy

arian a chadw llygad ar dy gyllideb. Gwiria ein rhestr wirio arian cyn cyrraedd:  abertawe.ac.uk/ arian-bywydcampws

31

ACADEMI

Mae gan Brifysgol Abertawe ddarpariaeth eang a chyffrous ar gyfer myfyrwyr sy’n dymuno astudio cwrs gradd yn gyflawn neu’n rhannol trwy gyfrwng y Gymraeg ac mae Academi Hywel Teifi yma i dy gefnogi i wneud hynny trwy gydol dy amser gyda ni. Mae Academi Hywel Teifi yn darparu cymuned ar gyfer pawb sy’n cynnig addysg trwy gyfrwng y Gymraeg yn y brifysgol ac i’r miloedd o fyfyrwyr sy’n siarad Cymraeg yma. Trwy amrywiol weithgareddau mae’r Academi yn cefnogi, cynyddu a chyfoethogi darpariaeth addysg ac ymchwil cyfrwng Cymraeg Prifysgol Abertawe gan hybu cydweithio, mentergarwch a chreu cyfleoedd trwy gyfrwng y Gymraeg. Mae ein data TEF* yn dangos bod myfyrwyr cyfrwng Cymraeg yn gyflawnwyr uchel o ran cyflogadwyedd. Mae hawl gen ti gyflwyno dy waith cwrs ac i sefyll dy arholiadau yn y Gymraeg, hyd yn oed os wyt ti wedi dewis dilyn cyrsiau cyfrwng Saesneg. Gweler ein Grid Cyfeirnodi Cyrsiau ar dudalennau 1 6 7 - 17 9 i ddarganfod beth sydd ar gael fesul pwnc. * Canlyniadau TEF Prifysgol Abertawe 2017 a 2018 GWOBR ACADEMI HYWEL Mae Gwobr Academi Hywel Teifi yn gwobrwyo myfyrwyr sy'n cyfrannu at fywyd a gweithgareddau diwylliannol ac academaidd Cymraeg ym Mhrifysgol Abertawe. Mae’r wobr yn cydnabod rôl, cyfraniad a llwyddiannau sy’n ymwneud â chefnogi, hyrwyddo a dathlu’r cyd-destun Cymraeg a Chymreig. Bydd y Wobr yn cael ei chofnodi ar dy dystysgrif gradd. Am fanylion pellach, e-bostia

YSGOLORIAETHAU A BWRSARIAETHAU CYFRWNG CYMRAEG

Yn ogystal ag Ysgoloriaethau'r Coleg Cymraeg Cenedlaethol, mae Ysgoloriaethau a Bwrsariaethau cyfrwng Cymraeg Academi Hywel Teifi yn gynllun sy’n agored i fyfyrwyr sydd eisoes wedi dewis dod i Brifysgol Abertawe ac sydd yn ystyried neu yn astudio trwy gyfrwng y Gymraeg lle bo cyfle,

yn hytrach na thrwy’r Saesneg. Am fanylion pellach, e-bostia: astudio@abertawe.ac.uk

CANGEN PRIFYSGOL ABERTAWE, COLEG CYMRAEG CENEDLAETHOL Mae Cangen y Coleg yma i ddarparu cymorth a chefnogaeth wrth i ti astudio a chymdeithasu trwy gyfrwng y Gymraeg. Mae’r Gangen yn cynnal amrywiaeth o weithgareddau yn ystod y flwyddyn, gan gynnwys digwyddiadau croeso i lasfyfyrwyr, digwyddiadau cymdeithasol i fyfyrwyr Cymraeg, a fforymau trafod i roi llais i fyfyrwyr ar eu haddysg a’u profiad addysgol. Mae’r Gangen hefyd yn hwyluso dy gyfle i ymgeisio am y Dystysgrif Sgiliau Iaith Gymraeg a chyfleoedd profiad gwaith mewn amgylchfyd gwaith iaith Gymraeg.

abertawe.ac.uk/cangen-abertawe

astudio@abertawe.ac.uk

CADWA LYGAD AM Y SYMBOL ar bob un o’n tudalennau cwrs

32

abertawe.ac.uk/academi-hywel-teifi

AcademiHywelTeifi

AcademiHTeifi

Lawrlwytha ap Arwain er mwyn derbyn y diweddaraf am ein cyrsiau a’n modiwlau cyfrwng Cymraeg, ynghŷd â gwybodaeth am y gefnogaeth ariannol gan Academi Hywel Teifi a’r Coleg Cymraeg Cenedlaethol. Cei wybodaeth hefyd am y cyfleoedd i fyw a chymdeithasu yn y Gymraeg tra’n astudio yma.

33

ASTUDIO A CHYMDEITHASU TRWY GYFRWNG

Y GYMDEITHAS GYMRAEG Mae'r GymGym yn rhoi cyfleoedd amrywiol i ti gymdeithasu â siaradwyr Cymraeg eraill mewn amgylchedd anffurfiol. Mae’n gyfle gwych i wneud ffrindiau newydd. Mae’r Gymdeithas Gymraeg yn cwrdd yn rheolaidd gan drefnu llu o weithgareddau cymdeithasol trwy gyfrwng y Gymraeg gan gynnwys tripiau rygbi, gigs, a chrôls, Eisteddfodau Rhyng-gol a llawer mwy. Mae’r Gymdeithas Gymraeg yn gweithio’n glos gyda Changen Abertawe o'r Coleg Cymraeg gan hefyd gefnogi Clwb Rygbi Tawe. AELWYD YR ELYRCH Mae'r Aelwyd yn cynnig cyfleoedd

Gwern Dafis, Swyddog Materion Cymraeg, Undeb y Myfyrwyr

Yn fy rôl fel Swyddog Materion Cymraeg ym Mhrifysgol Abertawe, byddaf yn cynrychioli’r myfyrwyr cyfrwng Cymraeg. I wneud hyn, byddaf yn gwneud yn siŵr bod yr un cyfleoedd yn cael eu cynnig i fyfyrwyr Cymraeg â sy’n cael eu cynnig i holl fyfyrwyr eraill y Brifysgol. Yn ystod y flwyddyn i ddod, byddaf yn sicrhau bod yna gysondeb yn hyrwyddo’r iaith Gymraeg a’i defnydd ar draws ein campysau. Drwy gynnig cyfleoedd academaidd a chymdeithasol, mi fydd cyfleoedd i siaradwyr rhugl a dysgwyr gymdeithasu. Mae’n bwysig bod presenoldeb yr iaith a’r diwylliant Cymreig yn rhan annatod o brofiad pob myfyriwr sy’n ymweld ag Abertawe, ac felly trwy gynnal dathliadau a digwyddiadau yn ystod y flwyddyn mi fydd hyn yn gyflawnadwy.

i ti gystadlu yn yr Eisteddfod, gwirfoddoli yn y gymuned leol a bod yn rhan o weithgareddau ymarferol a llawer mwy. Mae'r Aelwyd yn cwrdd bob pythefnos mewn lleoliadau amrywiol ar gampysau'r Brifysgol.

Ystyr y gair Aelwyd yw cartref felly beth am ymuno â’n cartref newydd ni o fewn cymuned fawr yr Urdd. Mae'r Aelwyd yn gweithio'n agos iawn gyda'r Gymdeithas Gymraeg, Swyddog Materion Cymraeg, Undeb Myfyrwyr a Changen Abertawe.

Candelas yn perfformio yn Undeb y Myfyrwyr yn ystod Eisteddfod Ryng-golegol Prifysgol Abertawe

34

COLEG CYMRAEG

Ar gyfer myfyrwyr sy’n astudio o leiaf 66% o’u cwrs (80 credyd y flwyddyn) trwy’r Gymraeg PRIF YSGOLORIAETH COLEG CYMRAEG CENEDLAETHOL £3,000 Ar gyfer myfyrwyr sy’n astudio o leiaf 33% o’u cwrs (40 credyd y flwyddyn) trwy’r Gymraeg YSGOLORIAETH CYMHELLIANT COLEG CYMRAEG CENEDLAETHOL £1,500

YSGOLORIAETH ACADEMI HYWEL TEIFI £300

Ar gyfer myfyrwyr sy'n astudio 40 credyd trwy'r Gymraeg mewn un flwyddyn academaidd

Ar gyfer myfyrwyr sy'n astudio 5 credyd trwy'r Gymraeg mewn un flwyddyn academaidd BWRSARIAETH ACADEMI HYWEL TEIFI £100

35

MAE GEN

Mae Gen i Hawl

Mae gen ti hawl gyfreithiol i dderbyn gwasanaethau yn y Gymraeg. Mae’r hawliau yma wedi cael eu creu o ganlyniad i osod ‘Safonau’ ar y Brifysgol.

yn y Gymraeg FFURFLENNI

LLYTHYRAU yn y Gymraeg

yn y Gymraeg CYFARFODYDD

CYFLWYNO GWAITH YSGRIFENEDIG yn y Gymraeg

yn y Gymraeg TYSTYSGRIFAU

yn y Gymraeg CAIS AM GYMORTH ARIANNOL

LLYFRYN CROESO yn y Gymraeg

TIWTOR PERSONOL

GWASANAETH CWNSELA

sy’n siarad Cymraeg

yn y Gymraeg

36

FYFYRWYR CYMRAEG LLETY PENODOL I Aelwyd Penmaen ar Gampws Parc Singleton Aelwyd Emlyn ar Gampws y Bae

CYFRWNG CYMRAEG ADDYSG A PHROFIAD

ar draws ystod o bynciau

135 % YN ASTUDIO 40+ CREDYD YN Y GYMRAEG

Ers 2011

YSGOLHEIGION RHAGOROL

Rhai o brif ysgolheigion Cymru â bri rhyngwladol yn dysgu yma trwy gyfrwng y Gymraeg

LLEOLIADAU GWAITH

Sy’n agor drysau wedi i ti raddio

37

A elli di fynd yn fyd-eang ?

Mae Prifysgol Abertawe yn ceisio cynnig cyfle i bob myfyriwr israddedig ennill profiad rhyngwladol trwy ystod o ddewisiadau gan gynnwys blwyddyn dramor, semester dramor a rhaglenni haf. Mae treulio amser dramor yn rhoi cyfle i ti ddatblygu sgiliau newydd a rhwydwaith rhyngwladol gwerthfawr wrth adeiladu rhwydwaith rhyngwladol o ffrindiau a chysylltiadau. Fe fyddi di’n gallu: • Meithrin hyder, datblygu hunanymwybyddiaeth ac aeddfedu • Datblygu persbectif byd-eang ac ymwybyddiaeth ryngddiwylliannol • Bydd yn fwy gwydn • Gwella sgiliau ieithyddol a chyfathrebu • Datblygu sgiliau trosglwyddadwy i helpu dy ragolygon gyrfa

abertawe.ac.uk/mynd-yn-fyd-eang

SwanUniGlobal

SwanseaUniGlobal

38

PROFIADAU

BLWYDDYN NEU SEMESTER DRAMOR Mae rhai cyrsiau yn caniatáu i ti dreulio

blwyddyn neu semester dramor. Mae'r flwyddyn dramor yn ychwanegu blwyddyn at dy radd gyffredin. Yn dibynnu ar dy gwrs, fe fyddi di'n astudio mewn prifysgol partner, cwblhau lleoliad gwaith neu weithio fel cynorthwyyd dysgu. Mae hyn fel arfer yn digwydd yn ystod dy ail flwyddyn gradd tair blynedd. Cei ragor o wybodaeth ar dudalen we dy gwrs a hefyd ar-lein:  abertawe.ac.uk/mynd-yn-fyd-eang NODER: Nid yw cofrestru ar raglen a chanddi semester neu flwyddyn dramor yn gwarantu dy semester neu flwyddyn dramor. Mae nifer cyfyngedig o leoedd ac maent yn dibynnu ar broses dethol gystadleuol a bydd angen i ti fodloni isafswm gofynion academaidd er mwyn cymryd rhan mewn rhaglen sy’n cynnwys semester neu flwyddyn dramor. Gall costau cyrchfannau a chostau sy’n gysylltiedig â’r rhaglen amrywio. Os nad wyt ti'n sicrhau lleoliad dramor am semester neu flwyddyn, cei dy drosglwyddo i fersiwn gyffredin dy gynllun gradd heb semester neu flwyddyn dramor. RHAGLENNI’R HAF Mae rhaglenni’r haf ar agor i bob myfyriwr ac maent yn cynnig profiad rhyngwladol gwerthfawr yn ogystal â dy gynllun gradd. Gelli ddewis wrth raglenni interniaeth, gwirfoddoli, diwylliannol ac astudio mewn gwledydd yn cynnwys Tseina, Japan, Zambia, Fiji ac Ewrop. Efallai byddi di hefyd am feddwl am gymryd rhan mewn rhaglen rhithwir yr haf ar-lein i ddatblygu dy sgiliau cyflogadwyedd a dy rwydwaith rhyngwladol. Gweler ein gwefan i gael mwy o wybodaeth am bob cyfle:  abertawe.ac.uk/rhaglenni-byr-a- rhaglenni-ha f CYLLID Mae amrywiaeth o gyfleoedd ariannu ar gael i gefnogi myfyrwyr sy’n dewis mynd dramor, ar gyfer y wybodaeth ddiweddaraf, gweler:  abertawe.ac.uk/mynd-yn-fyd-eang/ cyllid-ac-ariannu

Ym Mhrifysgol Windsor, cefais ddosbarthiadau gwych, a gwnaeth un roi'r cyfle i mi weithio fel intern mewn gŵyl ffilmiau. Cefais fewnwelediad gwerthfawr i'r byd gwaith a rhoddodd ddarlun cliriach o'r yrfa roeddwn am ei harchwilio. Cwblhaodd Alice flwyddyn dramor yng Nghanada fel rhan o'r cwrs BSc mewn Rheoli Busnes Cwblhaodd Tyler flwyddyn mewn diwydiant dramor ym Morneo fel rhan o'r cwrs BSc mewn Sŵoleg Rhoddodd fy mlwyddyn mewn diwydiant gyfle anhygoel i weithio ymysg yr orang-wtanod gwyllt, pangolinod gwyllt, llewpartiaid brithion a chathod llewpart. Os wyt yn cael y cyfle i fynd dramor, cer amdani! Bydd y sgiliau y byddi’n eu datblygu'n amhrisiadwy. Enillais ddealltwriaeth well o'r ffordd y mae peirianneg yn cael ei haddysgu a'i harddangos yn yr UDA o'i chymharu ag arferion cyffredin yn Ewrop yr wyf yn gyfarwydd â nhw. Roedd fy semester dramor ym Mhrifysgol A&M Texas yn gyfle i mi brofi cynifer o bethau newydd, rhwydweithio a meithrin ffrindiau newydd. Cwblhaodd Niraj semester dramor yn yr UDA fel rhan o gwrs BEng Peirianneg Awyrofod Penderfynais i gymryd rhan oherwydd roeddwn am wella fy hyder a fy sgiliau cyfathrebu. Rhoddodd y rhaglen Think Pacific y cyfle imi hyfforddi chwaraeon gwahanol yn Fiji. Fel myfyriwr gwyddor chwaraeon a rhywun sy'n dwlu ar hyfforddi, roedd hwn yn gyfle gwych i ddatblygu fy sgiliau hyfforddi. Treuliodd Romari (BSc mewn Gwyddor Chwaraeon ac Ymarfer Corff) fis yn Fiji dros yr haf, yn gwirfoddoli gyda Think Pacific

39

Page 1 Page 2 Page 3 Page 4 Page 5 Page 6 Page 7 Page 8 Page 9 Page 10 Page 11 Page 12 Page 13 Page 14 Page 15 Page 16 Page 17 Page 18 Page 19 Page 20 Page 21 Page 22 Page 23 Page 24 Page 25 Page 26 Page 27 Page 28 Page 29 Page 30 Page 31 Page 32 Page 33 Page 34 Page 35 Page 36 Page 37 Page 38 Page 39 Page 40 Page 41 Page 42 Page 43 Page 44 Page 45 Page 46 Page 47 Page 48 Page 49 Page 50 Page 51 Page 52 Page 53 Page 54 Page 55 Page 56 Page 57 Page 58 Page 59 Page 60 Page 61 Page 62 Page 63 Page 64 Page 65 Page 66 Page 67 Page 68 Page 69 Page 70 Page 71 Page 72 Page 73 Page 74 Page 75 Page 76 Page 77 Page 78 Page 79 Page 80 Page 81 Page 82 Page 83 Page 84 Page 85 Page 86 Page 87 Page 88 Page 89 Page 90 Page 91 Page 92 Page 93 Page 94 Page 95 Page 96 Page 97 Page 98 Page 99 Page 100 Page 101 Page 102 Page 103 Page 104 Page 105 Page 106 Page 107 Page 108 Page 109 Page 110 Page 111 Page 112 Page 113 Page 114 Page 115 Page 116 Page 117 Page 118 Page 119 Page 120 Page 121 Page 122 Page 123 Page 124 Page 125 Page 126 Page 127 Page 128 Page 129 Page 130 Page 131 Page 132 Page 133 Page 134 Page 135 Page 136 Page 137 Page 138 Page 139 Page 140 Page 141 Page 142 Page 143 Page 144 Page 145 Page 146 Page 147 Page 148 Page 149 Page 150 Page 151 Page 152 Page 153 Page 154 Page 155 Page 156 Page 157 Page 158 Page 159 Page 160 Page 161 Page 162 Page 163 Page 164 Page 165 Page 166 Page 167 Page 168 Page 169 Page 170 Page 171 Page 172 Page 173 Page 174 Page 175 Page 176 Page 177 Page 178 Page 179 Page 180 Page 181 Page 182 Page 183

Made with FlippingBook Annual report maker