ISRADDEDIG 2023 PRIFYSGOL ABERTAWE

DAEARYDDIAETH A GWYDDOR GWYBODAETH DDAEARYDDOL CAMPWS PARC SINGLETON

BODDHAD CYFFREDINOL (Arolwg Cenedlaethol o Fyfyrwyr 2021) 8 YN Y DU FED DAEARYDDIAETH FFISEGOL

Drwy ddefnyddio technolegau newydd i ddatrys problemau daearyddol, mae Daearyddiaeth a Gwyddor Gwybodaeth Ddaearyddol yn ein helpu deall cydberthnasau rhwng pobl a'r amgylchedd a sut maent yn amrywio ar draws amser a gofod. Mae'r maes tirfesur a llunio mapiau wedi'i chwyldroi gan systemau digidol datblygedig a all gaffael, dadansoddi a chyflwyno gwybodaeth geo-ofodol mewn ffordd ddeallus. Os wyt yn frwdfrydig dros gyfrifiadura, daearyddiaeth neu fathemateg a bod gen ti ddiddordeb mewn data gofodol, dyma'r cwrs i ti.

Blwyddyn Sylfaen ar gael – am fanylion llawn, gweler tudalennau 58-63 Cyfleoedd Byd-eang ar gael † Ysgoloriaethau/Bwrsariaethau Cymraeg ar gael

Bydd y radd hon yn dy hyfforddi i fod yn wyddonydd gwybodaeth ddaearyddol; yn dy baratoi gyda sgiliau ymarferol, rhifyddol a chyfrifiadurol. Rydyn yn rhoi cryn bwyslais ar ddysgu gweithredol drwy ymarfer. Rydyn yn cynnig cyfleoedd addysgu bywiog gan academyddion sydd ymhlith y rhai mwyaf blaenllaw yn y byd mewn cymuned ddysgu ddeniadol ac ysbrydoledig. Byddwn yn sicrhau bod gen ti'r adnoddau proffesiynol a'r meddylfryd graddedig y bydd eu hangen arnat i ddatrys rhai o'r 'heriau mawr' sy'n ein hwynebu heddiw. Mae asesiadau cyrsiau yn amrywiol ac yn integreiddiol, sy'n dy alluogi i feistroli sgiliau meddwl yn feirniadol, datrys problemau, arweinyddiaeth, entrepreneuriaeth a gweithio mewn tîm yn hyderus.

FEL ARFERMAE'RMODIWLAU SY'N CAEL EU HASTUDIO'N CYNNWYS: Blwyddyn 1 • Cyflwyniad i'r Ddaear: Trosolwg o Ddaeareg • Cyflwyniad i Systemau Daear • Cynaliadwyedd a'r Argyfwng Hinsawdd • Globaleiddio • Peryglon Naturiol a Chymdeithas • Sgiliau Daearyddol Blwyddyn 2 • Amgylcheddau a Phrosesau Rhewlifol • Daearyddiaethau Diwylliannol Ymylol • Systemau Gwybodaeth Ddaearyddol • Y Ddaear o'r Gofod: Monitro Newid Amgylcheddol Byd-eang Blwyddyn 3 • Daearyddiaeth o Brydain Wledig Gyfoes • Gwyddorau Meteoroleg ac Atmosfferig • Tectoneg Plât a Geoffiseg Fyd-eang • Theori Ymfudo Animeiddio • Y Cryosffer mewn Hinsawdd sy'n Newid

CYNNIG NODWEDDIADOL: ABB-BBB (gan gynnwys Daearyddiaeth neu bwnc cysylltiedig) Rhestrir y manylion llawn am y gofyniad mynediad a nodweddion y cwrs yn y Grid Cyfeirnodi Cyrsiau (tudalen 167) †

BSc Anrhydedd Sengl ▲  Daearyddiaeth a Gwyddor Gwybodaeth Ddaearyddol ♦ D aearyddiaeth (gyda Blwyddyn

Sylfaen) yn arwain at BSc Daearyddiaeth a Gwyddor Gwybodaeth Ddaearyddol

GYRFAOEDD YN Y DYFODOL: • Cadwraeth • Geo-hysbyseg • Mapio a Chartograffeg • R heolaeth Amgylcheddol • Synhwyro o Bell • Tirfesur ▲ 3 BLYNEDD ♦ 4 BLYNEDD Am y codau UCAS unigol, gweler tudalen we’r cwrs Gwyddor yr Amgylchedd a'r Argyfwng Hinsawdd – gweler tudalen 107

Mae achrediadau'n cynnwys:

91

Made with FlippingBook Annual report maker