ISRADDEDIG 2023 PRIFYSGOL ABERTAWE

BODDHAD CYFFREDINOL (Guardian University Guide 2022) 5 YN Y DU ED

DAEARYDDIAETH CAMPWS PARC SINGLETON

Mae Daearyddiaeth yn hollbwysig yn ein byd cydgysylltiedig. Mae'n ein helpu i ddeall y cydberthnasau rhwng pobl a'r amgylchedd a'r ffordd y maent yn amrywio rhwng cyfnodau a lleoedd. Mae Daearyddiaeth yn ein galluogi i ddarganfod, cofnodi a ffurfio'r lleoedd rydym yn byw ynddynt nawr ac yn y dyfodol. Mae ein lleoliad yn cynnig mynediad heb ei ail i amgylcheddau gwledig, arfordirol a threfol: Penrhyn Gwˆ yr, Bannau Brycheiniog a thirweddau diwydiannol ac ôl-ddiwydiannol De Cymru.

Blwyddyn Sylfaen ar gael – am fanylion llawn, gweler tudalennau 58-63 Cyfleoedd Byd-eang ar gael † C yfleoedd Lleoliad Gwaith neu Interniaeth ar gael Ysgoloriaethau/Bwrsariaethau Cymraeg ar gael

Yn ochr ag ochr o wybodaeth flaengar a meistrolaeth o gysyniadau allweddol, rydyn yn rhoi pwyslais cryf ar ddysgu gweithredol drwy waith maes. Gelli addasu dy radd i gyd-fynd â dy ddiddordebau drwy gynnwys cymysgedd o ddaearyddiaeth ddynol a ffisegol. Mae pob modiwl yn darparu hyfforddiant naill ai yn theori neu arfer agwedd wahanol ar y pwnc (daearyddiaeth gymdeithasol, amgylcheddol, diwylliannol, hanesyddol neu wleidyddol). Byddwn yn sicrhau bod gen ti'r adnoddau proffesiynol a'r meddylfryd graddedig y bydd eu hangen arnat i ddatrys rhai o'r 'heriau mawr' sy'n ein hwynebu heddiw. Mae'r asesiadau yn amrywiol ac yn integreiddiol, sy'n dy alluogi i feistroli sgiliau meddwl yn feirniadol, datrys problemau, arweinyddiaeth, entrepreneuriaeth a gweithio mewn tîm yn hyderus.

FEL ARFERMAE'RMODIWLAU SY'N CAEL EU HASTUDIO'N CYNNWYS: Blwyddyn 1 • Cyflwyniad i Systemau Daear • Dinasoedd Cynaliadwy • Globaleiddio • Peryglon Naturiol a Chymdeithas • Sgiliau Daearyddol • Systemau Dynameg y Ddaear Blwyddyn 2 • Cofnod Daearegol o Amgylcheddau'r Gorffennol • Daearyddiaethau Diwylliannol Ymylol • Daearyddiaethau Gweithredu Hinsawdd ac Actifiaeth • Y Ddaear o'r Gofod: Monitro Newid Amgylcheddol Byd-eang Blwyddyn 3 • D aearyddiaeth o Brydain Wledig Gyfoes • Dinasoedd y Byd • Gwyddorau Meteoroleg ac Atmosfferig • Hinsawdd y 1,000 o Flynyddoedd Diwethaf GYRFAOEDD YN Y DYFODOL: • C ynllunio Rhanbarthol ac Adnoddau • Cynllunio Trefol ac Arolygu • Dysgu ac Addysg • Newyddiaduraeth a’r Cyfryngau • Rheolaeth a Chadwraeth Amgylcheddol • Y Sector Cyhoeddus, Diwydiannau Creadigol a Gwaith Elusennol

CYNNIGNODWEDDIADOL: ABB-BBB (gan gynnwys Daearyddiaeth neu bwnc cysylltiedig) Rhestrir y manylion llawn am y gofyniad mynediad a nodweddion y cwrs yn y Grid Cyfeirnodi Cyrsiau (tudalen 167) † BA Anrhydedd Sengl ▲ Daearyddiaeth ♦ Daearyddiaeth (gyda Blwyddyn mewn Diwydiant/Dramor) ▲ Daearyddiaeth Ddynol ♦ Daearyddiaeth Ddynol (gyda Blwyddyn mewn Diwydiant) BSc Anrhydedd Sengl ▲ Daearyddiaeth ♦ Daearyddiaeth (gyda Blwyddyn mewn Diwydiant/Dramor) ♦ Daearyddiaeth (gyda Blwyddyn Sylfaen) ▲ Geowyddoniaeth Amgylcheddol ♦ Geowyddoniaeth Amgylcheddol (gyda Blwyddyn mewn Diwydiant) Daearyddiaeth a Gwyddor Gwybodaeth Ddaearyddol – gweler tudalen 91 Geowyddoniaeth Amgylcheddol – gweler tudalen 101 Gwyddor yr Amgylchedd a'r Argyfwng Hinsawdd – gweler tudalen 107

▲ 3 BLYNEDD ♦ 4 BLYNEDD Am y codau UCAS unigol, gweler tudalen we’r cwrs

Mae achrediadau'n cynnwys:

90

Made with FlippingBook Annual report maker