ISRADDEDIG 2023 PRIFYSGOL ABERTAWE

Yn dilyn nifer o ddiwrnodau agored ac ymweld â’r Brifysgol, roeddwn yn gwybod taw Abertawe oedd y Brifysgol i fi. Roedd brwdfrydedd staff yr Adran Ddaearyddiaeth ynghyd â hyblygrwydd y cwrs a’r profiadau teithio yn apelio ataf yn fawr iawn. Roeddwn hefyd yn ddigon ffodus i fynd ar brofiad gwaith gydag Adran Ddaearyddiaeth y Brifysgol yn sgil ennill Her Academi Morgan yn y GwyddonLe 2019. Roedd hyn wedi rhoi blas o fywyd prifysgol i fi yn ogystal â chyfle i ddysgu sgiliau daearyddol newydd. Wrth benderfynu pa Brifysgol i ddewis, roedd astudio trwy gyfrwng y Gymraeg yn ystyriaeth bwysig oherwydd y manteision o ddosbarthiadau llai sy’n golygu gwell perthynas gyda dy ddarlithwyr, ac felly mae holi a thrafod y cynnwys yn llawer haws. Yn gymdeithasol hefyd mae dosbarthiadau llai o faint yn gwneud hi’n llawer yn haws i greu ffrindiau newydd. Rwy'n perfformio’n well yn y modiwlau cyfrwng Cymraeg o gymharu â’r rhai Saesneg, gan fy mod yn deall pethau llawer yn well ac yn adnabod cysyniadau a geiriau allweddol yn gyflymach. O ganlyniad i benderfynu parhau i astudio trwy’r Gymraeg, rwyf wedi derbyn Ysgoloriaeth Cymhelliant gan y Coleg Cymraeg Cenedlaethol. Bydd hyn o fudd wrth gynorthwyo gyda chostau gwaith maes, ac felly’n sicrhau fy mod yn gallu astudio fy mhwnc i fy mhotensial llawn yn fy iaith fwyaf ffafriol! Rydw i’n llywydd Y Gymdeithas Ddaearyddiaeth eleni sydd wedi cynnig profiadau allgyrsiol gwych i fi. Yn y dyfodol, hoffwn wneud cais i fod yn Swyddog Materion Cymraeg yr Undeb, i geisio gwella gwasanaethau Cymraeg ar draws y brifysgol ar gyfer y myfyrwyr.

BSc DAEARYDDIAETH

I ddysgu mwy am ein storïau myfyrwyr, gweler:

a bertawe.ac.uk/astudio/ein-storiau-myfyrwyr

92

Made with FlippingBook Annual report maker