ISRADDEDIG 2023 PRIFYSGOL ABERTAWE

CYFIEITHU A CHYFIEITHU AR Y PRYD SAESNEG – TSIEINËEG CAMPWS PARC SINGLETON

BODDHAD CWRS (Guardian University Guide 2022) 25 UCHAF YN Y DU SAESNEG

Mae dros 950 miliwn o siaradwyr Tsieinëeg Mandarin brodorol ym mhedwar ban byd ac, yn aml, dyma’r iaith fwyaf cyffredin y mae angen gwasanaethau cyfieithu proffesiynol ar ei chyfer. Mae’r radd yn rhaglen unigryw yn y DU ac mae’n cael ei gynnig i fyfyrwyr iaith gyntaf Mandarin yn ogystal â lefel uchel o gymhwysedd mewn Saesneg.

Cyfleoedd Byd-eang ar gael †

CYNNIG NODWEDDIADOL: BBB

Yn ystod y cwrs gradd unigryw hwn, byddi di'n datblygu sgiliau cyfieithu a chyfieithu ar y pryd mewn Saesneg uwch ac yn astudio gweithdai cyfieithu Saesneg-Tsieineaidd arbenigol ar gyfer: y cyfryngau, newyddiaduriaeth a chysylltiadau cyhoeddus; busnes, gweinyddiaeth a’r gyfraith; economeg a chyllid; peirianneg, gwyddoniaeth a meddygaeth. Yn ogystal â sgiliau cyfieithu a chyfieithu ar y pryd, mae cyfleoedd hefyd i ddysgu ieithoedd a diwylliannau Ewropeaidd, ac ieithyddiaeth gymhwysol. Byddi di'n cael modiwlau hyfforddiant ymarferol yn ein labordai cyfrifiadurol, gydag offer meddalwedd blaenllaw a bydd y myfyrwyr yn profi amgylchedd dysgu rhithiol allanol drwy apiau symudol a fideos ar-lein.

FEL ARFERMAE'RMODIWLAU SY'N CAEL EU HASTUDIO'N CYNNWYS: Blwyddyn 1 • Cysyniadau mewn Cyfieithu a Chyfieithu ar y Pryd • Gramadeg ac Ystyr • Saesneg Uwch ar gyfer Dibenion Academaidd 1 • Saesneg Uwch 1 – Y Cyfryngau a Chysylltiadau Cyhoeddus • Seiniau'r Saesneg Blwyddyn 2 • Cyfieithu â Chymorth Cyfrifiadur • Cyflwyniad i Theori Cyfieithu • Dehongli Deialog • Gweithdy Cyfieithu Saesneg- Tsieineaidd • Saesneg Uwch 2 – Busnes a Chyllid Blwyddyn 3 • Cyfieithu ar y Pryd – Opsiwn Busnes • Iaith Saesneg a Diwylliant Seisnig Uwch • Rheoli Terminoleg • Saesneg Uwch 3 – Gwyddoniaeth • Swyddfa Cyfieithu Efelychol

Rhestrir y manylion llawn am y gofyniad mynediad a nodweddion y cwrs yn y Grid Cyfeirnodi Cyrsiau (tudalen 167) †

BA Anrhydedd Sengl ▲ C yfieithu a Chyfieithu

ar y Pryd Saesneg – Tsieinëeg

▲ 3 BLYNEDD Am y codau UCAS unigol, gweler tudalen we’r cwrs

GYRFAOEDD YN Y DYFODOL: • Cyfieithu a Chyfieithu ar y Pryd • Cysylltiadau Cyhoeddus • Gwerthiannau Rhyngwladol • Marchnata mewn Sefydliadau Rhyngwladol • Rheoli Busnes

81

Made with FlippingBook Annual report maker