ISRADDEDIG 2023 PRIFYSGOL ABERTAWE

BODDHAD CYFFREDINOL (Arolwg Cenedlaethol o Fyfyrwyr 2021) 6 YN Y DU ED

CEMEG CAMPWS PARC SINGLETON

Mae'r cwricwlwm Cemeg yn Abertawe yn cael ei lywio gan anghenion diwydiant modern a'i ddiweddaru'n gyson, gan sicrhau y byddi di bob amser yn dysgu deunydd perthnasol y gellir ei gymhwyso at y byd ehangach. Byddi di’n derbyn ystod eang o wybodaeth y bydd ei hangen arnat ti i weithio ym maes Cemeg a’r wybodaeth ddofn i dy alluogi i arbenigo trwy ein hymchwil arloesol cyfredol ym meysydd cynhyrchion naturiol, peirianneg deunyddiau a meddygaeth.

Blwyddyn Sylfaen ar gael – am fanylion llawn, gweler tudalennau 58-63 Cyfleoedd Byd-eang ar gael † C yfleoedd Lleoliad Gwaith neu Interniaeth ar gael Ysgoloriaethau/Bwrsariaethau Cymraeg ar gael

Mae ein pynciau craidd yn ymdrin â chemeg organig, anorganig a ffisegol yn ogystal â chemeg offerynnol a dadansoddol. Cei gyfle i wneud gwaith ymchwil arloesol, gan gyfrannu at brosiect ymchwil neu fwrw ymlaen â dy syniadau dy hun. Rydyn yn cynnig y posibilrwydd o feithrin sgiliau ymchwil yn gynnar, gan annog a hwyluso ffyrdd i ti ddatblygu cynlluniau a syniadau ymchwil, ysgrifennu cynigion, gwneud ymchwil ym maes cemeg gan ryngweithio â disgyblaethau eraill, dadansoddi data ymchwil a chyflwyno canlyniadau dy ymchwil mewn gwaith llafar ac ysgrifenedig.

FEL ARFERMAE'RMODIWLAU SY'N CAEL EU HASTUDIO'N CYNNWYS: Blwyddyn 1 • Adweithedd mewn Cemeg • Meddwl mewn Cemeg • Strwythur a Bondio • Ymarfer mewn Cemeg Blwyddyn 2 • Cemeg Ffisegol Pellach • Cemeg Fiolegol a Meddyginiaethol • Cemeg Gyfrifiadurol a Damcaniaethol • Cemeg Anorganig Pellach • Cemeg Organig Pellach • Datblygiad Proffesiynol a Chynllunio Gyrfa Blwyddyn 3 • Cemeg Offerynnol Ffisegol a Damcaniaethol • Prosiect Cemeg • Prosiect Cemeg Deunyddiau Blwyddyn 4 (MChem) • Cemeg Offerynnol, Ffisegol a Damcaniaethol Uwch • Cemeg Gynnyrch Organig, Meddyginiaethol a Naturiol Uwch • Deunyddiau Anorganig Uwch • Prosiect Ymchwil

CYNNIG NODWEDDIADOL: BSc: ABB-BBB MChem: AAB-ABB (gan gynnwys Cemeg. Os nad wyt yn astudio Mathemateg Safon Uwch, mae angen Mathemateg TGAU Gradd B (6))

Rhestrir y manylion llawn am y gofyniad mynediad a nodweddion y cwrs yn y Grid Cyfeirnodi Cyrsiau (tudalen 167) †

BSc Anrhydedd Sengl ▲ Cemeg

♦ C emeg (gyda Blwyddyn Sylfaen) ♦ C emeg (gyda Blwyddyn mewn Diwydiant/Dramor) MChem Anrhydedd Sengl ♦ Cemeg

▲ 3 BLYNEDD ♦ 4 BLYNEDD Am y codau UCAS unigol, gweler tudalen we’r cwrs

GYRFAOEDD YN Y DYFODOL: • Darganfod meddyginiaethau newydd • Gwyddonydd Clinigol • Gwyddor Ddadansoddol a Fforensig • G wyddorau Amgylcheddol • Ynni Adnewyddadwy

• Ymchwil a datblygu yn y byd academaidd neu ddiwydiant

Mae achrediadau'n cynnwys:

80

Made with FlippingBook Annual report maker