ISRADDEDIG 2023 PRIFYSGOL ABERTAWE

GWYDDOR GOFAL IECHYD (CLYWEDEG) CAMPWS PARC SINGLETON

ASTUDIAETHAU IECHYD (Complete University Guide 2022) 6 YN Y DU ED

Bydd ein gradd Clywedeg yn rhoi dealltwriaeth arbenigol i ti o wyddor clywed, cydbwysedd a'r cyflyrau sy'n effeithio arnynt. Mae'n cyfuno gwaith academaidd a damcaniaethol trylwyr â'r profiad clinigol ymarferol helaeth sydd ei angen arnat i gael swydd yn y proffesiwn. Byddi di’n defnyddio'r offer diagnostig a'r rhaglenni meddalwedd diweddaraf yn ein cyfleusterau o’r radd flaenaf ac yn mynd ati i feithrin sgiliau mewn lleoliadau gwaith mewn ysbytai ledled Cymru.

DIM FFIOEDD DYSGU: Myfyrwyr yDU** Gwna gais am becyn cymorth ychwanegol drwy gynllun Bwrsariaeth GIG Cymru. (**amodau yn berthnasol) abertawe.ac.uk/benthyciadau-a- grantiau/cwrs-a-ariennir-gan-y-gig Cyfleoedd Byd-eang ar gael † C yfleoedd Lleoliad Gwaith neu Interniaeth ar gael

Mae'r proffesiwn awdioleg wedi ehangu'n gyflym yn ystod y blynyddoedd diwethaf felly, fel rhywun sydd â gradd Awdioleg, gelli edrych ymlaen at amrywiaeth o gyfleoedd proffesiynol a chyfleoedd i astudio ymhellach. Byddi di'n dysgu sut i asesu clyw a chydbwysedd gan ddefnyddio'r offer diagnostig ac mae llawer o'n staff academaidd yn gweithio fel clinigwyr, gan roi dealltwriaeth ac arbenigedd proffesiynol amhrisiadwy. Mae ein cyfleusterau ardderchog yn dynwared y gweithle mewn ffordd realistig a byddi di’n gallu manteisio ar leoliad cleifion go iawn yn ein Hacademi Iechyd a Llesiant lwyddiannus, sef clinig ar y safle sy'n darparu gwasanaethau iechyd a llesiant i'r gymuned leol gan gynnwys clinig clyw ar y cyd â'r GIG. Fel myfyriwr clyw, byddi di’n treulio tua hanner dy gwrs ar leoliadau gwaith clinigol ledled Cymru, a fydd yn darparu’r sgiliau ymarferol sydd eu hangen arnat i ddechrau dy yrfa.

FEL ARFERMAE'RMODIWLAU SY'N CAEL EU HASTUDIO'N CYNNWYS: Blwyddyn 1 • Anatomeg a Ffisioleg • Anatomeg Niwrosynhwyrol, Ffisioleg a Phathoffisioleg • Mathemateg a Ffiseg ar gyfer Gwyddor Gofal Iechyd • Mesur a Thriniaeth Glinigol Niwrosynhwyrol Blwyddyn 2 • Asesiad a Rheolaeth Cynteddol • Dulliau Ymchwil ac Ystadegau • Gwyddor Clywedeg • Offeryniaeth Prosesu Signalau a Delweddu • Y Person sy’n Datblygu Blwyddyn 3 • Cyflwyniad i Dinitws • Cymhorthion Synhwyro • Prosiect Ymchwil • Ymarfer Proffesiynol

Cynigion Cyd-destunol ar gael

CYNNIG NODWEDDIADOL: BBB (gan gynnwys Bioleg, Cemeg neu Fathemateg)

Rhestrir y manylion llawn am y gofyniad mynediad a nodweddion y cwrs yn y Grid Cyfeirnodi Cyrsiau (tudalen 167) †

BSc Anrhydedd Sengl ▲ Gwyddor Gofal Iechyd (Clywedeg)

▲ 3 BLYNEDD Am y codau UCAS unigol, gweler tudalen we’r cwrs

GYRFAOEDD YN Y DYFODOL: Cyflog cychwynnol y GIG ar gyfer gwyddonydd gofal iechyd yw £25,654 (Band 5). Yn ystod gyrfa, gall y cyflog godi i £45,838. Gall cyflogau amrywio'n sylweddol yn y sector preifat.

Darllen ein canllaw pwnc yma:

Mae achrediadau'n cynnwys:

110

Made with FlippingBook Annual report maker