ISRADDEDIG 2023 PRIFYSGOL ABERTAWE

GWYDDOR CHWARAEON AC YMARFER CORFF CAMPWS Y BAE

BODDHAD CWRS (Guardian University Guide 2022) YN Y DU 11 EG

Mae Gwyddor Chwaraeon ac Ymarfer Corff yn archwilio'r ffordd y mae'r corff dynol yn perfformio o dan lefelau gwahanol o bwysau, mae hefyd yn cwmpasu'r materion ehangach sydd dan sylw, o gyfranogiad ehangach mewn chwaraeon ac ymarfer corff, i foeseg, seicoleg chwaraeon a maetheg. Mae'r cwrs gradd hwn yn darparu craidd cadarn o ddysgu modern a pherthnasol, gan dy baratoi ar gyfer gyrfa sy'n llawn boddhad yn y maes, beth bynnag o dy ddewis arbenigedd.

Cyfleoedd Byd-eang ar gael †

CYNNIG NODWEDDIADOL: AAB-BBB Rhestrir y manylion llawn am y gofyniad mynediad a nodweddion y cwrs yn y Grid Cyfeirnodi Cyrsiau (tudalen 167) † BSc Anrhydedd Sengl ▲ Gwyddor Chwaraeon ac Ymarfer Corff ♦  Gwyddor Chwaraeon ac Ymarfer Corff (gyda Blwyddyn Dramor) BSc Cydanrhydedd Gwyddor Chwaraeon ac Ymarfer Corff a ▲ Mathemateg ♦  Mathemateg (gyda Blwyddyn mewn Diwydiant/Dramor)

Mae ein gradd Gwyddor Chwaraeon ac Ymarfer Corff enw da ac mae'n denu myfyrwyr o bedwar ban byd. Wrth i ti fynd yn dy flaen drwy'r cwrs, bydd y diddordebau a'r galluoedd y byddi di’n eu datblygu yn cyfuno â phrofiad ymarferol o ddefnyddio cyfarpar soffistigedig, gan feithrin sgiliau sy'n hanfodol i sicrhau cyflogaeth. Mae ein cyfleusterau o'r radd flaenaf wedi'u lleoli ar Gampws y Bae, yn yr Ardal Beirianneg sy'n edrych dros yr arfordir ar ymyl Penrhyn Gŵyr. Byddi di’n gwneud defnydd helaeth o'n Labordy Biomecaneg pwrpasol, sy'n cynnwys system dadansoddi mudiant o'r radd flaenaf. Drwy gydol dy amser yn Abertawe, byddi hefyd yn gweithio'n agos yn y Labordy Ffisioleg Ymarfer Corff. Mae labordy hwn yn cynnwys amrywiaeth o ergomedrau ymarfer corff, cyfarpar ar gyfer asesu gweithrediad yr ysgyfaint, dadansoddi gwaed a phrofi gweithrediad y cyhyrau.

FEL ARFERMAE'RMODIWLAU SY'N CAEL EU HASTUDIO'N CYNNWYS: Blwyddyn 1 • Anatomeg Ddynol • Cyflwyniad i Fiofecaneg • Dulliau a Moeseg Ymchwil • Ffisioleg Ddynol • Sylfeini Seicoleg Chwaraeon Blwyddyn 2 • Cryfder a Chyflyru • Datblygu Dulliau Ymchwil ar gyfer Gwyddor Chwaraeon • Ffisioleg Ymarfer Corff • Materion Cyfoes mewn Seicoleg Chwaraeon • Technoleg, Mesur a Dadansoddi Biomecanyddol Blwyddyn 3 • Chwaraeon, Deiet a Chlefyd • Cymhwyso Ffisioleg Chwaraeon • Integredd Chwaraeon, Moeseg a Pholisïau • Ymarfer Corff ar gyfer Iechyd • Ymarfer Corff, Twf a Datblygu

▲ 3 BLYNEDD ♦ 4 BLYNEDD Am y codau UCAS unigol, gweler tudalen we’r cwrs

GYRFAOEDD YN Y DYFODOL: • Dadansoddwr Perfformiad • Ffisiolegydd Cardiaidd • Gwyddonydd Chwaraeon a Pherfformiad • Gwyddonydd Iechyd y Cyhoedd • Swyddog Hybu Iechyd • Ymarferydd Cryfder a Chyflyru

ARDYSTIWYD GAN:

109

Made with FlippingBook Annual report maker