ISRADDEDIG 2023 PRIFYSGOL ABERTAWE

GWNEUD CYNALIADWYEDD YN RHAN HANFODOL O

Yma ym Mhrifysgol Abertawe, rydyn yn ffodus bod gennym amrywiaeth eang o gynefinoedd i’w mwynhau, o draethau i goetir a pharciau, ac rydyn yn angerddol am ddatblygu cynaliadwy er lles ein cymuned leol, y DU a’r byd ehangach. Fel myfyriwr, bydd digon o gyfleoedd i ti gyfrannu at gadwraeth ymarferol. Gelli wirfoddoli i helpu i gadw’r ardaloedd hyn yn arbennig drwy gymryd rhan yn ein sesiynau rheolaidd i lanhau’r traethau, ein partïon gwaith a monitro bywyd gwyllt. Yn ogystal â helpu’r amgylchedd, byddi di'n dysgu sgiliau newydd ac yn cwrdd â ffrindiau newydd ar yr un pryd. Y WOBR CYNALIADWYEDD P’un a oes gen ti ddiddordeb mewn ailgylchu, bioamrywiaeth, lles, neu unrhyw beth yn y canol, bydd gennym rywbeth i ti! Y Wobr Cynaliadwyedd yw ein rhaglen unigryw i ymgysylltu â myfyrwyr. Gall myfyrwyr o unrhyw bwnc, mewn unrhyw flwyddyn o’u gradd, weithio tuag at y wobr hon yn ystod eu hamser gyda ni ym Mhrifysgol Abertawe. Mae cwblhau’r wobr yn cyfrannu at dy gofnod academydd ac yn dysgu ystod eang o sgiliau i ti.

Plastigau, gan gynnwys poteli plastig untro, yw’r math o sbwriel

a ddarganfyddir amlaf ar draethau’r DU ac nid oes rhaid i ti edrych yn bell i’w canfod yn sbwriel ein trefi a’n mannau gwyrdd hefyd.

Mae Prifysgol Abertawe yn brifysgol gynaliadwy flaenllaw ac rydyn wrth ein bodd yn gallu cefnogi Refill gyda’n partneriaid yn Abertawe Plastig Am Ddim ac Undeb y Myfyrwyr. Mae Swyddogion Undeb y Myfyrwyr wedi bod yn brysur iawn yn cefnogi lansio’r ymgyrch; bellach, mae gennym o leiaf 30 o orsafoedd Adnewyddu ar draws ein campysau Bae a Pharc Singleton i’r gymuned gyfan eu defnyddio.

abertawe.ac.uk/cynaliadwyedd

10 UCHAF YN Y DU

CYNGHRAIR PRIFYSGOL

Teifion Maddocks Swyddog Cynaliadwyedd a Lles Prifysgol Abertawe

(2021/22)

(Cynghrair People & Planet 2021)

Yr unig dabl cynghrair cynhwysfawr ac annibynnol o brifysgolion y DU wedi’u rhestru yn ôl perfformiad amgylcheddol a moesegol.

49

Made with FlippingBook Annual report maker