ISRADDEDIG 2023 PRIFYSGOL ABERTAWE

FFIOEDD DYSGU Codir ffioedd dysgu israddedig yn flynyddol i bob myfyriwr. Bydd swm y disgwylir i ti dalu yn dibynnu ar ble rwyt ti’n byw, beth rwyt ti’n astudio, ac ar ba lefel. MYFYRWYR O GYMRU Bydd Prifysgol Abertawe’n codi ffioedd dysgu o £9,000* y flwyddyn. Fodd bynnag, os wyt yn byw yng Nghymru, ac yn astudio ar gyfer dy radd gyntaf, ni fydd rhaid i ti dalu’r ffioedd dysgu ymlaen llaw. Bydd gen ti hawl i gael benthyciad ffioedd dysgu o hyd at £9,000* y flwyddyn. I helpu gyda chostau byw, gelli dderbyn cymysgedd o grantiau a benthyciadau o hyd at £10,350* y flwyddyn os wyt yn byw oddi cartref y tu allan i Lundain. Bydd swm y grant a allai fod ar gael i ti yn dibynnu ar incwm dy deulu. Am ragor o wybodaeth: cyllidmyfyrwyrcymru.co.uk MYFYRWYR O LOEGR Bydd Prifysgol Abertawe yn codi ffioedd dysgu o £9,000* y flwyddyn. Fodd bynnag, os wyt ti’n byw yn Lloegr, ac yn astudio ar gyfer dy radd gyntaf, ni fydd yn rhaid i ti dalu’r ffioedd ymlaen llaw. • Rwyt yn gymwys i dderbyn benthyciad ffioedd dysgu o £9,000* • I helpu gyda chostau byw, rwyt yn gymwys am fenthyciad cynhaliaeth o hyd at uchafswm o £9,488* Bydd faint o fenthyciad cynhaliaeth rwyt yn ei dderbyn yn dibynnu ar incwm yr aelwyd. Am ragor o wybodaeth: thestudentroom.co.uk/student-finance MYFYRWYR O'R ALBAN/GOGLEDD IWERDDON Bydd Prifysgol Abertawe yn codi ffioedd dysgu o £9,000* y flwyddyn. Fodd bynnag, os wyt ti’n byw yn yr Alban neu Ogledd Iwerddon, ac yn astudio ar gyfer dy radd gyntaf, bydd gen ti hawl i gael benthyciad ffioedd dysgu o hyd at £9,000* y flwyddyn a chefnogaeth tuag at dy gostau byw. Am ragor o wybodaeth: saas.gov.uk or studentfinanceni.co.uk MYFYRWYR O WERINIAETH IWERDDON A MYFYRWYR GYDA STATWS SEFYDLOG NEU STATWS CYN SEFYDLU Bydd Prifysgol Abertawe'n codi ffioedd dysgu o £9,000* y flwyddyn. Fodd bynnag, byddi di'n gymwys i gael benthyciad ffioedd dysgu ad-daladwy o £9,000.* Efallai, y byddi di hefyd yn gymwys i gael cymorth cynhaliaeth i helpu gyda dy gostau byw. Am ragor o wybodaeth, cer i'n tudalennau gwe Benthyciadau a Grantiau Myfyrwyr:

DY RADD

YSGOLORIAETHAU RHAGORIAETH £3,000

AAA ar Safon Uwch neu gymhwyster cyfatebol*

YSGOLORIAETHAU TEILYNGDOD £2,000

AAB ar Safon Uwch neu gymhwyster cyfatebol*

HYD AT

COLEG CYMRAEG CENEDLAETHOL £3,000

Ar gyfer myfyrwyr sy’n astudio rhan o'u gradd drwy gyfrwng y Gymraeg*

RHAGORIAETH CERDDOROL £1,000 pecyn ysgoloriaeth* CHWARAEON £2,000 HYD AT HYD AT

ysgoloriaethau*

*Gweler amodau a thelerau ar abertawe.ac.uk/ysgoloriaethau

abertawe.ac.uk/israddedig/ffioedd-a-chyllid/ benthyciadau-a-grantiau/rydw-i’n-wladolyn-yr-ue

50

Made with FlippingBook Annual report maker