ISRADDEDIG 2023 PRIFYSGOL ABERTAWE

SGÔR YMCHWIL (The Times and Sunday Times Good University Guide 2022) UCHAF YN Y DU 20

SEICOLEG CAMPWS PARC SINGLETON

Mae'r cwrs yn cael ei ddilysu gan Gymdeithas Seicolegol Prydain (BPS) a fydd yn rhoi hyfforddiant gwyddonol arbenigol i ti yn y berthynas rhwng y meddwl, yr ymennydd ac ymddygiad. Byddi di’n astudio prosesau seicolegol a niwro-wyddonol sy’n tanategu gweithgareddau fel meddwl, rhesymu, cof ac iaith, dysgu am effeithiau anaf i'r ymennydd, ac yn archwilio ffyrdd o wella cynnydd ymddygiad sy'n gysylltiedig ag iechyd.

Blwyddyn Sylfaen ar gael – am fanylion llawn, gweler tudalennau 58-63

Cyfleoedd Byd-eang ar gael † Ysgoloriaethau/Bwrsariaethau Cymraeg ar gael

Mae ein hymagwedd tuag at addysgu, sy'n cynnwys darlithoedd, tiwtorialau personol, seminarau academaidd, gweithdai, a dosbarthiadau ymchwil ymarferol, yn annog medrau cyfathrebu llafar ansawdd uchel a gwaith tîm effeithiol. Yn ystod dy radd, byddi di’n datblygu sgiliau dadansoddi, ysgrifennu, a dadansoddi beirniadol rhagorol, yn ogystal â gallu uchel o ran rhifedd a TGCh. Mae ein strwythur gradd hyblyg gydag ystod eang o fodiwlau dewisol ar ddiwedd y flwyddyn yn rhoi cwmpas i ti i deilwra dy astudiaethau i dy ddiddordebau unigol, nodau gyrfa, neu uchelgeisiau ar gyfer astudio ôl-raddedig. FEL ARFERMAE'RMODIWLAU SY'N CAEL EU HASTUDIO'N CYNNWYS: Blwyddyn 1 • Gwybyddiaeth • Seicoleg Fiolegol • Seicoleg Gymdeithasol a Datblygiadol • Seicoleg Unigol ac Annormal

Blwyddyn 2 • Datblygiad Gydol Oes

• O Unigolion i’r Gymdeithas • Ymchwil a Dulliau Arbrofol • Yr Ymennydd ac Ymddygiad Blwyddyn 3 • Cysgu a Breuddwydio • Deall a Rheoli Ymddygiad Troseddol • Maetheg ac Ymddygiad

CYNNIG NODWEDDIADOL: Anrhydedd Sengl: AAB-ABB Cydanrhydedd : ABB-BBB

Rhestrir y manylion llawn am y gofyniad mynediad a nodweddion y cwrs yn y Grid Cyfeirnodi Cyrsiau (tudalen 167) †

BSc Anrhydedd Sengl ▲ Seicoleg ♦ Seicoleg (gyda Blwyddyn Sylfaen) BSc Cydanrhydedd Seicoleg a ▲ Addysg ▲ Cymdeithaseg ♦ Cymdeithaseg (gyda Blwyddyn Sylfaen) ▲ Troseddeg

• Niwroddelweddu a Gwybyddiaeth Canfod Wynebau a Chymdeithasol • Prosiect Ymchwil Annibynnol y Flwyddyn Olaf • Seicoleg Chwaraeon ac Ymarfer Corff • Seicopatholeg Datblygu Fforensig

Edrych ar ein canllaw pwnc yma:

▲ 3 BLYNEDD ♦ 4 BLYNEDD Am y codau UCAS unigol, gweler tudalen we’r cwrs

GYRFAOEDD YN Y DYFODOL: Mae llawer o'n graddedigion wedi mynd ymlaen i astudio ymhellach mewn meysydd seicoleg arbenigol. Y cyflog cychwynnol nodweddiadol ar gyfer seicolegydd clinigol dan hyfforddiant y GIG yw £32,305. Yn nodweddiadol, gall Seicolegwyr ennill hyd at £87,754. Llwybrau gyrfaoedd yn cynnwys: • Gwasanaethau Cyhoeddus • Rheoli • Ymchwil • Y Gwasanaeth Sifil

Mae achrediadau'n cynnwys:

156

Made with FlippingBook Annual report maker